Crëwch helfa wyau Pasg yn Minecraft. Gall dysgwyr weithio mewn grwpiau i greu a chwilio am wyau Pasg o fewn byd Minecraft. Defnyddiwch iaith gyfeiriadol (chwith, de, ymlaen, yn ôl, gogledd, de) ac, er mwyn her ychwanegol, gall dysgwyr ddefnyddio iaith gyfeiriadol Gymraeg.
Ar ôl trafod y Pasg a'i hanes, gall dysgwyr ddefnyddio’u syniadau i wneud cardiau Pasg. Gall dysgwyr iau ddefnyddio Jit5 o fewn Just2easy. Gall dysgwyr hŷn ehangu eu sgiliau golygu gan ddefnyddio cyfres Adobe Creative Cloud neu ddefnyddio'r templedi parod sydd ar gael.