Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Among us', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
Gêm ar thema’r gofod yw Among Us, lle mae hyd at 15 o chwaraewyr yn chwarae gyda’i gilydd fel ‘Crewmates’ (aelodau’r criw) neu ‘Impostors’ (cogwyr). Y nod yw bod aelodau’r criw yn ceisio adnabod y chwaraewyr sy’n cogio cyn i’r cogwyr allu tanseilio eu tasgau a lladd aelodau’r criw fesul un.
Pan fydd aelod o’r criw yn cael ei ladd a’r corff marw yn cael ei riportio, bydd gweddill aelodau’r criw yn trafod pwy maen nhw’n meddwl yw’r cogiwr ac yn ei bleidleisio allan o’r gêm. Mae’r gêm yn ymwneud â chyfathrebu a strategaeth.
Mae Among Us ar gael i’w lawrlwytho am ddim ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau, ond mae angen i ddefnyddwyr Nintendo Switch brynu’r gêm. Mae gan Among Us fersiwn realiti rhithwir o’r gêm hefyd, sef Among U
Mae gan Among Us sgôr PEGI 7 oherwydd yr elfennau trais ysgafn a’r elfennau rhyngweithio ar-lein.
Os bydd eich plentyn yn rhoi oedran dan 13 oed wrth greu ei gyfrif, bydd angen iddo roi eich cyfeiriad e-bost chi. Byddwch yn cael neges e-bost i gadarnhau’r cyfrif a gosod nodweddion caniatâd. Mae cyfyngiadau diogelwch yn cael eu gosod ar gyfrifon plant dan 13 oed yn awtomatig, fel peidio â gallu defnyddio’r cyfleuster sgwrsio am ddim.
Nid yw oedran yn cael ei wirio wrth greu cyfrif, felly dylech oruchwylio eich plentyn er mwyn sicrhau ei fod yn rhoi’r dyddiad geni cywir.
Arian cyfred y gêm y gellir ei gael trwy chwarae’r gêm.
Y rolau gwahanol sy’n cael eu rhoi i chwaraewyr yn y gêm.
Lle mae aelodau’r criw yn dod at ei gilydd i bleidleisio ar bwy sy’n cogio.
Gall deiliaid cyfrifon dros 13 oed ddewis sgwrsio gan ddefnyddio ‘Free chat’. Mae hyn yn golygu y gallan nhw ddrafftio eu sylwadau a’u negeseuon eu hunain.
Codau unigryw sy’n cael eu creu ar hap y gall chwaraewyr eu defnyddio i ychwanegu ei gilydd yn y gêm.
Aelodau o’r criw sydd wedi cael eu lladd ond sy’n dal i allu chwarae a helpu’r chwaraewyr byw ar eu tîm trwy gwblhau eu tasgau.
Yr ystafelloedd aros lle mae chwaraewyr yn ymgynnull ac yn rhyngweithio cyn dechrau gêm.
Dyma’r opsiwn sgwrsio diofyn ar gyfer deiliaid cyfrifon dan 13 oed. Mae’r modd hwn yn caniatáu i chwaraewyr sgwrsio trwy ddewis sylwadau a chwestiynau o restr barod yn unig, yn hytrach nag ysgrifennu eu rhai eu hunain.
Arian cyfred yn y gêm y gellir ei brynu ag arian go iawn yn unig.
Rhaid i chwaraewyr weithio fel tîm i adnabod y sawl sy’n cogio, a rhaid iddyn nhw gyfleu eu barn yn glir a chydweithio â’i gilydd ar dasgau.
Rhaid i ddefnyddwyr geisio darganfod pwy sy’n cogio trwy ddadansoddi patrymau ymddygiad a sylwi ar unrhyw beth anarferol.
Y risg fwyaf sylweddol yn Among Us yw chwarae’n gyhoeddus â defnyddwyr anhysbys. Mae’r nodwedd gyhoeddus yn caniatáu i’r gêm gael ei chwarae’n gyhoeddus gan hyd at 15 o bobl ar-lein. Gall y bobl hyn fod yn ddieithriaid.
Gallai’ch plentyn ddod ar draws cynnwys amhriodol ar ffurf iaith anweddus yn y cyfleuster sgwrsio yn y gêm, na fydd yr hidlydd sgwrsio yn ei chanfod o bosibl. Hefyd, efallai y bydd pobl ddieithr yn ceisio cysylltu â’ch plentyn a symud y sgwrs i blatfform arall.
Gallwch leihau’r risg o ddod i gysylltiad â phobl ddieithr trwy gymryd y camau canlynol.
Os yw’ch plentyn yn 13 oed neu’n hŷn, gallwch ychwanegu hidlwyr at y cyfleuster sgwrsio yng ngosodiadau’r gêm, gan helpu i’w cyfyngu rhag gweld iaith amhriodol.
Mae nodwedd gwesteia ar Among us yn caniatáu i ‘westeiwyr’ (‘hosts’) greu gêm gyda’u ffrindiau. Maen nhw’n creu cod sy’n cael ei rannu â chwaraewyr eraill maen nhw’n eu hadnabod fel y gallan nhw ymuno â’r gêm.
Dylech annog eich plentyn i chwarae’r gêm mewn sesiynau gemau preifat gyda ffrindiau y mae’n eu hadnabod, fel nad yw’n rhyngweithio â phobl ddieithr. Addysgwch eich plentyn i beidio â derbyn cod mynediad neu gais ffrind sy’n cael ei rannu gan rywun nad yw’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo go iawn.
Bydd annog eich plentyn i ddefnyddio’r nodweddion blocio a riportio yn helpu i ddod â chysylltiad ag unrhyw chwaraewyr niweidiol i ben a gall wneud y gêm yn fwy diogel i bawb.
Mae gan Among Us siop lle gall chwaraewyr brynu eitemau cosmetig i addasu golwg eu cymeriadau. Gallai’r eitemau cosmetig hyn gael eu prynu gan ddefnyddio’r arian cyfred yn y gêm, y gellir ond ei brynu ag arian go iawn. Yn aml, bydd Among Us yn hysbysebu eitemau newydd sydd ar gael i’w prynu’n syth ar ôl agor y gêm, sy’n gallu temtio chwaraewyr i brynu’r eitemau hyn.
Gall y camau hyn helpu i atal eich plentyn rhag gorwario.
Yng ngosodiadau dyfais eich plentyn, gosodwch gyfyngiadau gwario ar gyfer apiau fel bod angen iddyn nhw gael eich caniatâd chi cyn gallu prynu.
Addysgwch eich plentyn fod arian sy’n cael ei wario ar ficrodrafodion yn y gêm yn arian go iawn. Gallwch eu helpu i ddeall y gwerth trwy gymharu’r arian y mae’n ei wario yn y gêm â phethau y gallan nhw eu prynu all-lein am yr un swm.
Os yw’ch plentyn yn chwarae Among Us, gall y gosodiadau hyn eu helpu i gadw’n ddiogel.
Ar y brif ddewislen, dewiswch ‘Settings’.
Dewiswch ‘Censor Chat’ a newidiwch y togl i ‘On’.
Agorwch y ddewislen ‘Kick’ (eicon yr esgid) yn y cyfleuster sgwrsio.
Dewiswch y chwaraewr i’w riportio.
Dewiswch yr opsiwn ‘Report’.
Agorwch y rhestr ffrindiau trwy ddewis ‘Friends’ yng nghornel dde uchaf y brif ddewislen.
Dewiswch naill ai ‘Recently Played With’ neu ‘Friends List’ i ddod o hyd i’r chwaraewr yr hoffech ei flocio.
Dewiswch aelod y criw â’r arwydd ‘restricted’ a dewiswch ‘Confirm’.
Gyda ‘Screen Time’ wedi’i alluogi, ewch i ‘Settings’.
Agorwch ‘Screen Time’ a dewiswch ‘Content & Privacy Restrictions’.
Trowch y togl ymlaen wrth ochr ‘Content & Privacy Restrictions’.
Dewiswch ‘iTunes & App Store Purchases’.
Dewiswch ‘In-app Purchases’ a dewiswch ‘Don't Allow’.
Ewch i’r ap ‘Google Play Store’.
Dewiswch eicon y proffil.
Dewiswch ‘Payments and subscriptions’.
Dewiswch ‘Purchase verification’.
Dewsiwch ‘Verification frequency’.
Dewiswch ‘Always’ a phwyswch ‘OK’.