Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Clash of Clans', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
Gêm ymladd am ddim ar ffurf cartŵn sydd ar gael ar gyfrifiaduron personol, Android ac iOS yw Clash of Clans. Mae’r gêm wedi’i lleoli mewn byd ffantasi. Mae defnyddwyr yn adeiladu pentref, yn dylunio eu canolfan, yn sefydlu byddin ac yn creu neu’n ymuno â grŵp o chwaraewyr o’r enw ‘Clan’ i’w amddiffyn. Gyda’u clan, gall defnyddwyr frwydro â chlaniau eraill o bob cwr o’r byd i feddiannu eu pentrefi. Caiff y rhain eu galw’n ‘Clan Wars’.
Trwy ffurfio claniau gyda’u ffrindiau, gall chwaraewyr gydweithio â’i gilydd trwy gynllunio’n strategol a rhoi milwyr i ymosod ac amddiffyn yn erbyn chwaraewyr eraill o bob cwr o’r byd. Gall chwaraewyr ddefnyddio’r adnoddau a’r gwobrau y maen nhw’n eu cael o ymosod ar bentrefi eraill i adeiladu eu hamddiffynfeydd eu hunain ymhellach, uwchraddio eu hadeiladu a hyfforddi eu milwyr.
Mae Telerau Gwasanaeth Clash of Clans yn nodi bod rhaid i ddefnyddwyr fod yn 13 oed o leiaf i chwarae’r gêm.
Wrth gofrestru ar gyfer cyfrif, gofynnir i chwaraewyr roi eu dyddiad geni. Os yw’r dyddiad sy’n cael ei roi ar gyfer oedran dan 16 oed, bydd y chwaraewr ond yn gallu ymuno â chlaniau ‘Addas i Deuluoedd’ sydd â hidlwyr sgwrsio llymach. Fodd bynnag, nid oes proses i wirio bod oedran gwirioneddol y chwaraewr wedi’i roi, felly dylech oruchwylio’r plentyn wrth iddo greu ei gyfrif i sicrhau ei fod yn rhoi’r dyddiad geni cywir.
Grŵp o chwaraewyr sy’n cydweithio â’i gilydd yn y gêm dan yr un faner. Dyma dîm y defnyddiwr.
Nodwedd sy’n galluogi chwaraewyr i sgwrsio o fewn eu clan.
Her â chyfyngiad amser yw ‘Event’ sy’n gallu cynnig gwobrau ar ôl ei gwblhau.
Yr arian cyfred yn y gêm. Gellir ennill ‘gems’ wrth chwarae’r gêm neu eu prynu ag arian go iawn.
Mae chwaraewyr yn cael eu rhoi mewn cynghrair(league) pan fydd nifer eu tlysau’n (trophies) uwch na 400. Mae gan bob cynghrair ei gwobrau ei hun sy’n cynyddu wrth i nifer y tlysau gynyddu.
Gwobrau sy’n pennu statws y chwaraewr. Caiff tlysau (trophies) eu hennill trwy ennill brwydrau ac amddiffyn rhag ymosodiadau sy’n cael eu colli trwy golli brwydrau neu gael eich ysbeilio.
Mae’r claniau hyn ar gael i chwaraewyr dros 16 oed yn unig.
Gall y claniau hyn gynnwys chwaraewyr dan 16 oed ac mae’r cyfleuster hidlo sgwrs yn fwy llym yn y claniau hyn.
Dyma’r enw byr ar gyfer Clash of Clans.
Pobl sy’n gwawdio, yn pryfocio neu’n herio chwaraewyr eraill er mwyn cael ymateb.
Talfyriad ar gyfer ‘bad mannering’, sydd fel arfer yn cynnwys gwawdio neu ddiffyg chwarae teg.
Gall Clash of Clans roi rhywbeth i bobl ifanc weithio arno gyda’u ffrindiau neu deulu a theimlo’n rhan o dîm. Tra’u bod mewn clan sy’n addas i deuluoedd, gall defnyddwyr gyfathrebu â’i gilydd mewn amgylchedd sy’n cael ei gymedroli a chysylltu â phobl eraill.
Gall pobl ifanc ddatblygu eu sgiliau meddwl strategol wrth chwarae Clash of Clans.
Mae’r gêm yn gofyn i chwaraewyr:
ddylunio eu canolfan
rheoli adnoddau’n briodol
astudio canolfannau cystadleuwyr cyn ymosod ar yr adeg gywir
Wrth chwarae Clash of Clans, mae’n debygol y bydd eich plentyn yn dod i gysylltiad â chwaraewyr eraill.
Mae’r chwaraewyr hyn yn peri risg oherwydd:
gallan nhw anfon negeseuon cas, gofyn am wybodaeth bersonol neu geisio twyllo’ch plentyn
gallan nhw ddechrau dadlau am strategaeth y clan yng nghyfleuster sgwrsio’r clan neu ddechrau bwlio aelod arall o’r clan
Gallwch gymryd y camau canlynol i leihau'r siawns y bydd hyn yn digwydd.
Anogwch eich plentyn i ymuno â chlaniau sy’n addas idDeuluoedd (‘Family Friendly Clans’) gyda phobl y mae’n eu hadnabod go iawn ac yn ymddiried ynddyn nhw. Mae gan y claniau hyn hidlwyr sgwrsio, sy’n lleihau’r siawns y bydd chwaraewyr eraill yn defnyddio iaith amhriodol.
Mae rhai chwaraewyr yn defnyddio apiau sgwrsio trydydd parti, fel Discord, i sgwrsio wrth chwarae. Gofynnwch i’ch plentyn a yw’n defnyddio unrhyw apiau sgwrsio ychwanegol wrth chwarae a gwiriwch â phwy mae’n cyfathrebu.
Sgwrsiwch â’ch plentyn am ryngweithio’n ddiogel ar-lein. Addysgwch ef i beidio â rhannu gwybodaeth bersonol, fel ei leoliad neu ei gyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cynghorwch ef i beidio â chlicio ar unrhyw ddolenni sy’n cael eu hanfon yn y cyfleuster sgwrsio, gan y gallai’r rhain fod yn sgamiau. Rhowch wybod iddo, os bydd unrhyw un yn y gêm yn peri gofid iddo neu’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus, y gall ddod atoch chi am gymorth.
Bydd dangos i’ch plentyn sut i ddefnyddio’r offer tawelu a riportio yn eu galluogi i ddod â’i gysylltiad ag unrhyw un sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus i ben.
Gall Clash of Clans fod yn gymhellol dros ben a gall fod yn hawdd ymgolli ynddo, gan arwain at chwarae am gyfnodau estynedig.
Gallwch gymryd camau i gydbwyso amser eich plentyn o flaen sgrin.
Yng ngosodiadau dyfais iOS neu Android eich plentyn, gallwch osod terfynau amser ar apiau.
Bydd diffodd hysbysiadau yn atal rhybuddion o’r gêm rhag tynnu sylw eich plentyn. Bydd hyn yn atal negeseuon yng nghyfleuster sgwrsio’r clan neu hysbysiadau am ymosodiadau.
Er y gellir lawrlwytho a chwarae Clash of Clans am ddim, mae gan chwaraewyr yr opsiwn i brynu ‘Gems’, sef yr arian cyfred yn y gêm. Efallai y bydd defnyddwyr dan bwysau i orwario ar ‘Gems’ i gadw i fyny ag aelodau eraill o’u clan.
Mae yna gamau y gallwch eu cymryd i atal eich plentyn rhag gorwario.
Siaradwch â’ch plentyn am brynu yn yr ap a gwnewch yn siŵr ei fod yn deall bod arian go iawn yn cael ei ddefnyddio i brynu pethau yn y gêm. Helpwch ef i ddeall gwerth arian trwy gymharu pris trafodion yn y gêm â phethau y gallai eu prynu yn y byd go iawn.
Gallwch osod y gosodiadau prynu perthnasol yn yr ap ar y ddyfais sy’n cael ei defnyddio a sicrhau nad yw’r gêm wedi’i chysylltu â’ch cardiau banc na’ch manylion ariannol heb i chi fod yn ymwybodol.
Os yw’ch plentyn eisiau chwarae Clash of Clans, gall y gosodiadau hyn ei helpu i chwarae’n ddiogel.
Agorwch y cyfleuster sgwrsio yn y gêm.
Dewch o hyd i’r neges neu’r chwaraewr yr hoffech ei riportio.
Tapiwch y neges neu’r chwaraewr a dewiswch ‘Report’.
Dewiswch y chwaraewr yr hoffech ei dawelu.
Dewiswch yr eicon ‘Emote’ a dewiswch ‘Mute’.
Yng ngosodiadau’r ddyfais y mae’ch plentyn yn ei defnyddio i chwarae Clash of Clans, gallwch alluogi prynu eitemau yn yr ap heb awdurdod. Bydd hyn yn atal eich plentyn rhag gorwario ar ficrodrafodion.
Gyda ‘Screen Time’ wedi’i alluogi, ewch i ‘Settings’.
Agorwch ‘Screen Time’ a dewiswch ‘Content & Privacy Restrictions’.
Trowch y togl ymlaen wrth ochr ‘Content & Privacy Restrictions’.
Dewiswch ‘iTunes & App Store Purchases’.
Dewiswch ‘In-app Purchases’ a dewiswch ‘Don't Allow’.
Ewch i’r ap ‘Google Play Store’.
Dewiswch eicon y proffil.
Dewiswch ‘Payments and subscriptions’.
Dewiswch ‘Purchase verification’.
Dewiswch ‘Verification frequency’.
Dewiswch ‘Always’ ac yna ‘OK’.