Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Discord', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
Platfform cymdeithasol am ddim yw Discord, sy’n galluogi defnyddwyr i ddod o hyd i gymuned yn seiliedig ar eu hobïau. Mae’n boblogaidd ymhlith chwaraewyr gemau, sy’n ei ddefnyddio i gyfathrebu wrth chwarae gemau.
Gall defnyddwyr gyfathrebu ar Discord drwy alwadau fideo, sgwrsio llais a sgwrsio testun. Mae’r platfform yn ychwanegu elfen ryngweithiol a chymdeithasol at gemau a hobïau eraill, yn enwedig ar gyfer y rhai sy’n dueddol o chwarae gemau un chwaraewr neu nad oes ganddyn nhw ffrindiau sy’n rhannu’r un hobïau.
Yn ôl Telerau Gwasanaeth Discord, rhaid i ddefnyddwyr fod o leiaf 13 oed neu’n hŷn i ddefnyddio’r platfform. Fodd bynnag, mae App Store Apple yn nodi ei fod yn addas i ddefnyddwyr 17 oed neu’n hŷn yn unig. Mae hyn oherwydd y cynnwys sy’n cael ei greu gan ddefnyddwyr, a all gynnwys iaith dramgwyddus a chysylltiad posibl gan bobl ddieithr.
Yn ddiofyn, mae cynnwys sensitif wedi’i bylu ar gyfer defnyddwyr ac ni allan nhw fynd i sianeli sydd â chyfyngiad oedran nes iddyn nhw gwblhau proses gwirio oedran Discord.
Mae’r ‘Activity status’ yn rhoi smotyn bach gwyrdd wrth ochr yr eicon Discord i ddangos pan fydd defnyddiwr ar-lein.
Gwasanaethau allanol yw’r rhain y gellir eu hymgorffori yn Discord i fanteisio ar nodweddion ychwanegol. Gall y rhain amrywio o gemau i wasanaethau ffrydio.
Talfyriad o ‘robot’. Fel arfer, estyniadau trydydd parti sy’n cynnwys ystod o swyddogaethau yw ‘bots’ ar Discord, o gymedroli cyfleuster sgwrsio yn awtomatig â rheolau sydd wedi’u diffinio gan y defnyddiwr i greu negeseuon sy’n croesawu defnyddwyr newydd i’r gweinydd.
Dyma ble gall defnyddwyr ryngweithio â’i gilydd trwy sgwrs llais neu destun neu fideo.
Gall defnyddwyr anfon negeseuon uniongyrchol (direct message) at ei gilydd. Hefyd, gall defnyddwyr wneud galwad fideo trwy eu negeseuon uniongyrchol neu sianeli llais y gweinydd.
Offeryn y gallwch optio i mewn iddo sy’n eich helpu i ddysgu mwy am weithgarwch eich plentyn ar Discord a’r cymunedau y maen nhw’n ymuno â nhw. Gallwch weld ‘Activity Feed’ a chael crynodebau wythnosol drwy’r e-bost am ddefnydd eich plentyn.
Gall defnyddwyr ychwanegu ffrindiau trwy gysylltiadau ffôn, gan ddefnyddio enw defnyddiwr a thag rhywun ar Discord neu drwy sgan cyfagos gan ddefnyddio Bluetooth a WiFi ffôn symudol i ddod o hyd i ffrindiau cyfagos.
Gall defnyddwyr ffrydio eu sgrin neu ffrydiau eu hunain yn chwarae gêm mewn sianel llais fel y gall pobl eraill yn y sianel honno wylio mewn amser real.
Sgwrs mewn grŵp y mae’n rhaid cael gwahoddiad i fynd at y grŵp.
Gwasanaeth tanysgrifio premiwm sy’n cynnig nodweddion arbennig i ddefnyddwyr fel:
tagiau Discord personol
y gallu i ddefnyddio emotes personol (emojis statig ac animeiddiedig y mae defnyddwyr yn eu dylunio eu hunain) ar bob gweinydd
terfyn uwch ar gyfer lanlwytho ffeiliau
‘server boosts’ am bris gostyngol
Mae hyn yn golygu ‘Not Safe For Work’ ac mae’n cael ei ddefnyddio i labelu sianeli sydd â chynnwys i oedolion. Mae angen i oedran defnyddwyr gael ei wirio er mwyn iddyn nhw gael edrych ar gynnwys NSFW.
Dyma ofod y defnyddiwr lle mae’n treulio amser gyda’i ffrindiau. Mae’n ystafell rithwir ddynodedig ar ei gyfer ac unrhyw un y mae’n ei wahodd. Gall defnyddwyr ddewis creu gweinyddwyr ar gyfer grwpiau preifat, ‘For me and my friends’, neu grwpiau cyhoeddus ‘For a club or community’.
Gall defnyddwyr yng nghymuned yr un gweinydd gydweithio â’i gilydd i brynu ‘Server boost’, sy’n cynnig nodweddion cyfunol ac uwchraddiadau ar gyfer y defnyddwyr hynny.
Dyma ble gall defnyddwyr brynu addurniadau ychwanegol ar gyfer eu proffil ac avatar.
Mae ‘Stage Channels’ yn caniatáu sgyrsiau byw sain yn unig. Mae’r nodwedd ‘Discovery’ yn helpu defnyddwyr i ddod o hyd i weinyddion neu ddigwyddiadau cyhoeddus.
Yn caniatáu i ddefnyddwyr sydd yn yr ysgol ddilysu eu cyfrif â’u cyfeiriad e-bost ysgol i ddatgloi man unigryw i fyfyrwyr yn eu hysgol. Mae hyn yn galluogi defnyddwyr i ymuno â grwpiau astudio neu ddosbarthiadau drwy’r ap.
Yn aml, mae Discord yn cael ei ddefnyddio i:
gysylltu â phobl sydd â diddordebau tebyg
cyfathrebu â phobl eraill wrth chwarae gemau
Mae hyn yn golygu y gall Discord droi gemau un chwaraewr yn weithgaredd cymdeithasol.
Mae rhai gweinyddion Discord yn canolbwyntio ar addysg, fel rhai lle mae defnyddwyr yn rhannu cyngor ar godio, ieithoedd neu gelf. Gall pobl ifanc ddefnyddio ‘Student Hubs’ i ymuno â grwpiau astudio â’u cyd-ddisgyblion.
Mae bron yr holl gynnwys ar Discord yn cael ei greu gan ddefnyddwyr, felly gallai’ch plentyn weld negeseuon a sgyrsiau sy’n cynnwys iaith a chyfryngau amhriodol. Fodd bynnag, mae camau y gallwch eu cymryd i leihau’r risg y bydd eich plentyn yn gweld cynnwys amhriodol gan ddefnyddwyr eraill.
Yn ddiofyn, bydd Discord yn pylu unrhyw gyfryngau rhywiol neu graffig sy’n cael eu hanfon gan ffrindiau neu mewn sianeli gweinyddion, sy’n golygu bod rhaid i ddefnyddwyr glicio ar y cynnwys i’w weld. Bydd cyfryngau rhywiol neu graffig gan bobl ddieithr yn cael eu rhwystro’n gyfan gwbl.
Yng ngosodiadau’r cyfrif, gallwch olygu’r rheolyddion hyn fel na all eich plentyn weld unrhyw gyfryngau amhriodol ar y platfform. Hefyd, gallwch alluogi hidlo negeseuon i hidlo unrhyw negeseuon amhriodol.
Mae ‘Family Centre’ Discord yn caniatáu i chi weld pwy mae’ch plentyn yn rhyngweithio â nhw ar y platfform. Mae hyn yn golygu y gallwch gymryd camau os bydd eich plentyn yn anfon negeseuon at rywun nad ydych chi’n eu hadnabod neu’n ymuno â gweinyddion amhriodol.
Sgwrsiwch â’ch plentyn am yr hyn y mae’n ei wneud ar-lein. Dylech ei annog i ymuno â gweinyddion â phobl y mae’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw go iawn yn unig. Bydd hyn yn lleihau’r siawns y bydd yn rhyngweithio â phobl ddieithr ac y bydd cynnwys amhriodol yn cael ei hanfon ato.
Bydd addysgu’ch plentyn sut i ddefnyddio’r nodweddion blocio a riportio ar Discord yn ei helpu i ddeall sut i ddod â’i gysylltiad ag unrhyw un sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus i ben.
Gall Discord fod yn blatfform caethiwus i bobl ifanc. Efallai y bydd yn poeni am golli allan ar sgyrsiau mewn gweinydd neu’n teimlo dan bwysau i ateb negeseuon ar unwaith. Gall gosod terfynau yn ymwneud ag amser o flaen sgrin ar Discord helpu i hybu cydbwysedd.
Yn y gosodiadau rheolyddion rhieni ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau, gallwch osod terfynau o ran pa mor hir y gall eich plentyn ddefnyddio apiau fel Discord bob dydd. Gall hyn helpu i’w atal rhag treulio gormod o amser ar yr ap.
Anogwch eich plentyn i ddiffodd ei hysbysiadau Discord. Mae diffodd hysbysiadau yn atal hysbysiadau negeseuon rhag tynnu sylw oddi wrth bethau eraill y dylai ganolbwyntio arnyn nhw.
Siaradwch â’ch plentyn am sut mae’n defnyddio Discord a chytunwch ar ba bryd y gall ddefnyddio platfform.
Gall defnyddwyr wario arian ar Discord trwy uwchraddio i danysgrifiad premiwm o’r enw Nitro a thrwy brynu ‘server boosts’. Gallai hyn annog gorwario, oherwydd efallai y bydd am wario arian i gadw i fyny â’i ffrindiau.
Gallwch wneud y pethau canlynol i leihau’r risg y bydd eich plentyn yn gorwario ar Discord.
Ar ddyfeisiau iOS ac Android, gallwch addasu’r gosodiadau fel bod angen cymeradwyaeth i brynu a gwneud taliadau. Bydd hyn yn atal eich plentyn rhag gwneud trafodion ar Discord heb eich caniatâd chi.
Siaradwch â’ch plentyn am brynu eitemau yn yr ap a’i helpu i ddeall gwerth yr arian sy’n cael ei wario ar yr ap trwy ei gymharu â phethau y gallai eu prynu yn y byd go iawn am yr un swm.
Os yw’ch plentyn yn defnyddio Discord, gall y gosodiadau canlynol ei helpu i gael profiad mwy diogel ar y platfform.
Mae gosod ‘Family Centre’ yn caniatáu i chi gysylltu eich proffil Discord chi â chyfrif eich plentyn a gweld ei weithgarwch ar y platfform. Mae hyn yn golygu y gallwch chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae’n ei wneud ar Discord ac ymateb i unrhyw weithgarwch sy’n peri pryder.
I osod ‘Family Centre’:
ar hafan Discord, dewiswch ‘You’ yn y gornel dde isaf
dewiswch eicon y gêr yn y gornel dde uchaf
yn ‘Settings’, dewiswch ‘Family Centre’
dewiswch ‘Connect with Teen’
sganiwch y cod QR ar sgrin eich plenty
gofynnwch i’ch plentyn dderbyn y cais i chi gysylltu eich proffil â’r broffil
Yn y gosodiadau cynnwys, gallwch benderfynu sut mae’ch plentyn yn gweld cyfryngau sy’n cael eu canfod gan hidlwyr cynnwys sensitif Discord. Gallwch gymhwyso gwahanol osodiadau ar gyfer negeseuon gan ffrindiau, pobl eraill ac mewn sianeli gweinyddion.
Ar hafan Discord, dewiswch yr eicon ‘You’.
Ar y dudalen ‘You’, dewiswch eicon y gêr.
Yn y gosodiadau, ewch i ‘Content & Social’.
Dan y pennawd ‘Content’, dewiswch a ydych chi eisiau rhwystro neu bylu cynnwys sensitif gan ffrindiau, pobl eraill ac mewn sianeli gweinyddion.
Ar hafan Discord, dewiswch eicon y gêr.
Yn y gosodiadau, ewch i ‘Content & Social’.
Dan y pennawd ‘Content’, dewiswch a ydych chi eisiau rhwystro neu bylu cynnwys sensitif gan ffrindiau, pobl eraill ac mewn sianeli gweinyddion.
Gallwch addysgu’ch plentyn i gadw eu hunain a’r platfform yn fwy diogel trwy ddefnyddio’r offer blocio a riportio. Archwiliwch yr offer hyn a siaradwch â’ch plentyn am ba bryd y dylai’u defnyddio.
Agorwch broffil defnyddiwr o’r rhestr Aelodau (Members).
Dewiswch y 3 smotyn a dewiswch ‘Block’.
Dewiswch ‘Block’ eto i gadarnhau’r weithred.
Agorwch broffil defnyddiwr o’r rhestr Aelodau (Members).
Dewiswch y 3 smotyn a dewiswch ‘Report User Profile’.
Dewiswch elfennau’r proffil rydych chi’n eu riportio a dewiswch ‘Next’.
Dewiswch yr enghraifft o dorri polisi rydych chi’n ei gweld a rhowch fwy o wybodaeth.
Dewiswch ‘Submit Report’ i gwblhau’r adroddiad.
Gwybodaeth am 'Family Centre' Discord (Saesneg yn unig)
Canllaw cam-wrth-gam Internet Matters ar reolyddion rhieni (Saesneg yn unig)