Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'FIFA Mobile', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
Gêm bêl-droed gystadleuol, ar-lein am ddim yw EA Sports FC Mobile (FIFA Mobile gynt). Mae’n galluogi defnyddwyr i greu eu timau pêl-droed proffesiynol eu hunain sy’n cynnwys eu hoff chwaraewyr pêl-droed.
Trwy chwarae ac ennill gemau a thwrnameintiau, gall tîm defnyddiwr gael chwaraewyr gwell a datblygu o fewn cynghrair.
Mae Apple App Store yn rhoi sgôr 4+ i EA Sports FC Mobile, tra mae Google Play yn rhoi sgôr PEGI 3 iddi.
Dyma’r arian cyfred y gall defnyddwyr ei ennill yn y gêm a’i ddefnyddio i brynu pecynnau (‘packs’) yn y gêm heb ddefnyddio arian go iawn. Gall defnyddwyr ennill ‘Coins’ trwy chwarae gemau, digwyddiadau a gweithgareddau dyddiol.
Gweithgareddau dyddiol y gall defnyddwyr eu cwblhau i ennill gwobrau yn y gêm.
Modd chwarae cystadleuol lle gall defnyddwyr chwarae un yn erbyn un. Mae’n cynnig amcanion tymor byr, canolig a thymor hir gyda gwobrau.
Arian cyfred premiwm y gêm y mae’n rhaid i ddefnyddwyr ei brynu ag arian go iawn. Yna, gellir defnyddio’r rhain i brynu pecynnau (‘packs’).
Gall defnyddwyr:
ddod o hyd i ffrindiau a’u hychwanegu yn y gêm gan ddefnyddio’r eicon ‘Friends’
chwilio am ffrindiau hysbys gan ddefnyddio eu henw defnyddiwr
ychwanegu ‘Recommended users’ ar sail data cyfrifon ac ystadegau, fel lefel
anfon ceisiadau ffrindiau at ddefnyddwyr eraill ar ôl gemau ‘VSA’ neu ‘H2H’
Gêm 11 yn erbyn 11 sy’n para rhwng 4 a 6 munud, sy’n cael ei chwarae yn erbyn defnyddwyr eraill mewn amser real. Mae’r modd hwn yn caniatáu i chwaraewr gystadlu mewn cynghreiriau byd-eang ac ennill gwobrau.
Gall defnyddwyr ymuno â chynghreiriau neu greu eu rhai eu hunain i chwarae yn erbyn chwaraewyr eraill ar y platfform.
Digwyddiadau tymhorol sy’n cyd-daro â digwyddiadau chwaraeon go iawn mewn amser real.
Mae’r modd hwn yn caniatáu i ddefnyddwyr reoli eu tîm eu hunain, gan ddewis eu tactegau a’u strategaethau eu hunain i helpu i ddatblygu’r ffordd y mae eu tîm yn chwarae.
Dyma ble gall defnyddwyr brynu a gwerthu chwaraewyr i ddefnyddwyr eraill.
Gall defnyddwyr olygu eu tîm trwy gyfnewid chwaraewyr, eu hyfforddi a newid eu trefniant chwarae.
Pecynnau rhithwir yn y gêm yw’r rhain, sydd â chynnwys ar hap. Gall pecynnau gael eu hennill neu eu prynu gan ddefnyddio ‘Coins’ neu arian go iawn. Weithiau, cyfeirir atynt fel ‘loot boxes’, gan nad yw chwaraewyr yn gwybod beth sydd ynddyn nhw hyd nes iddyn nhw eu prynu neu eu hennill.
Yma, gall defnyddwyr brynu ac adbrynu gwahanol eitemau fel ‘packs’, ‘bundles’ a ‘special bundles’. Gellir prynu’r eitemau gan ddefnyddio ‘FIFA coins’ neu arian go iawn.
Gêm gyflym 90 eiliad sy’n cael ei chwarae mewn amser real yn erbyn gwrthwynebydd. Y nod yw sgorio cynifer â phosibl o goliau. Mae chwaraewyr yn cael eu paru â gwrthwynebwyr eraill sydd ag ystadegau tebyg ac yn cystadlu i ennill safleoedd mewn cynghreiriau byd-eang ac ennill gwobrau.
Mae’r gêm yn cynnwys gemau aml-chwaraewr trwy’r moddau ‘VSA’ a ‘H2H’, sy’n caniatáu i ddefnyddwyr chwarae yn erbyn pobl eraill ar y platfform. Ar ôl gêm, gellir anfon ceisiadau ffrindiau at wrthwynebwyr, a gellir ychwanegu ffrindiau sydd wedi’u derbyn at gynghreiriau, sy’n cynnwys cyfleuster sgwrsio. Mae hyn yn golygu y gallai pobl ddieithr anfon negeseuon at eich plentyn.
Mae yna gamau y gallwch eu cymryd i leihau’r risg o gysylltiad amhriodol gan ddefnyddwyr eraill.
Anogwch eich plentyn i dderbyn ceisiadau ffrindiau a chwarae â phobl maent yn eu hadnabod go iawn ac yn ymddiried ynddynt yn unig, yn hytrach na chwarae gyda phobl ddieithr. Byddwch yn ymwybodol o ba gynghreiriau y mae’ch plentyn wedi ymuno â nhw a phwy sydd yn y cynghreiriau hyn.
Trafodwch sut gall eich plentyn gadw’n ddiogel wrth ryngweithio â phobl eraill wrth chwarae gemau. Siaradwch am ba wybodaeth y mae’n iawn i’w rhannu ac nad yw’n iawn i’w rhannu. Sicrhewch fod eich plentyn yn gwybod y gall ddod atoch chi am gymorth os oes unrhyw un yn gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus ar-lein.
Bydd grymuso’ch plentyn i ddefnyddio’r offerynnau tawelu a riportio yn eu galluogi i ddod â chysylltiad ag unrhyw un sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus i ben. Bydd hyn hefyd yn helpu i sicrhau bod y gêm yn fwy diogel i bawb.
Gall defnyddwyr brynu ‘FC Points’ ag arian go iawn, y gellir eu defnyddio wedyn i brynu ‘Packs’ sy’n cynnwys hapddetholiad o chwaraewyr. Mae hyn yn debyg i system gamblo, gan nad yw defnyddwyr yn gwybod pa chwaraewyr y byddan nhw’n eu cael. Gall hyn eu hannog i barhau i brynu pecynnau nes iddyn nhw gael y chwaraewr sydd ei eisiau arnyn nhw.
Gall y camau canlynol helpu i atal gorwario.
Yng ngosodiadau dyfais eich plentyn, gallwch ei osod fel bod angen gwirio pob pryniant. Gall gwneud hyn atal eich plentyn rhag prynu eitemau heb eich caniatâd chi.
Helpwch eich plentyn i ddeall bod arian sy’n cael ei wario ar y gêm yn arian go iawn. Helpwch ef i ddeall gwerth yr arian y mae’n ei wario trwy gymharu cost ‘FC Points’ â phethau ffisegol y gall eu prynu am yr un pris.
Os yw’ch plentyn yn chwarae EA Sports FC Mobile, gall y gosodiadau hyn eu helpu i gadw’n fwy diogel.
Ewch i ‘League chat’.
Dewch o hyd i’r aelod yr hoffech ei dawelu.
Dewiswch ei neges a dewiswch yr opsiwn ‘Mute’.
Dewiswch yr uchelseinydd glas wrth ochr yr enw defnyddiwr neu enw’r Gynghrair.
Dewiswch y rheswm rydych chi’n ei riportio o’r gwymplen.
Rhowch unrhyw wybodaeth ychwanegol yn yr adroddiad.
Dewiswch ‘Send’ i gyflwyno’r adroddiad.
Gyda ‘Screen Time’ wedi’i alluogi, ewch i ‘Settings’.
Agorwch ‘Screen Time’ a dewiswch ‘Content & Privacy Restrictions’.
Trowch y togl ymlaen wrth ochr ‘Content & Privacy Restrictions’.
Dewiswch ‘iTunes & App Store Purchases’.
Dewiswch ‘In-app Purchases’ a dewiswch ‘Don't Allow’.
Ewch i ap ‘Google Play Store’.
Dewiswch eicon y proffil.
Dewiswch ‘Payments and subscriptions’.
Dewiswch ‘Purchase verification’.
Dewsiwch ‘Verification frequency’.
Dewiswch ‘Always’ a phwyswch ‘OK’.