Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Grand Theft Auto', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
Cyfres gêm fideo yw Grand Theft Auto (GTA) a gynhyrchir gan Rockstar. Mae fersiynau o GTA ar gael ar y rhan fwyaf o ddyfeisiau gemau, gan gynnwys PC, Xbox, PlayStation, Nintendo Switch, iOS ac Android.
Mae’r canllaw hwn yn cyfeirio at y gemau GTA y gellir eu chwarae ar yr ap, ond mae rhannau ohono hefyd yn berthnasol i fasnachfraint GTA yn fwy cyffredinol.
Platfform gemau byd agored yw GTA lle mae chwaraewyr yn chwarae gyda phwrpas a rôl benodol o fewn naratif y gêm. Mae chwaraewyr yn rheoli cymeriadau sy’n cwblhau tasgau i symud ymlaen trwy’r gêm. Mae’r gêm yn realistig, yn soffistigedig ac yn debyg i ffilm o ran ei hansawdd. Mae’r gêm wedi’i dylunio fel bod chwaraewyr yn ymgorffori eu cymeriadau ac maen nhw’n gallu sgwrsio’n fyw a darlledu eu llais i chwaraewyr eraill.
Mae gan GTA ddosbarthiad PEGI 18, sy’n golygu ei bod yn briodol i oedolion yn unig.
Mae’r dosbarthiad PEGI 18 yn adlewyrchu’r cynnwys aeddfed y mae chwaraewyr yn debygol o ddod ar ei draws yn y gêm, gan gynnwys:
lladd cymeriadau diamddiffyn eraill (yn aml heb reswm)
defnyddio cyffuriau a gweithgarwch benodol rhywiol
iaith anweddus
Mae’r swyddogaeth sgwrsio’n caniatáu i chwaraewyr gyfathrebu â’i gilydd wrth chwarae’r gêm.
Yr aelodaeth sydd ar gael i chwaraewyr sy’n talu bob mis i gael cynnwys arbennig a nodweddion chwarae bonws yn y gêm. Mae hyn ar gael i chwaraewyr ar PlayStation 5 a Chyfres X|S Xbox yn unig.
Mae’n bosibl i chwaraewyr ffrydio eu gêm yn fyw gan ganiatáu i bobl eraill eu gwylio’n chwarae ar yr un pryd.
Microdrafodion sy’n caniatáu i chwaraewyr wario arian go iawn yn gyfnewid am arian cyfred yn y gêm.
Os byddwch yn caniatáu i’ch plentyn chwarae GTA, fe ddylech ystyried y risgiau canlynol.
Mae’r gêm yn cynnwys cysylltiad sylweddol â:
themâu rhywiol
trais (gan gynnwys lladd)
iaith anweddus
cyffuriau
troseddoldeb
storïau aeddfed iawn sy’n cynnwys cyfeiriadau at alcohol, cyffuriau a golygfeydd mewn clwb stripio
Dyluniwyd GTA i fod yn gêm aml-chwaraewr. Mae hynny’n golygu bod ei chwaraewyr yn dod mewn cysylltiad â phobl ddieithr maen nhw’n cyfarfod â nhw trwy’r gêm. Mae hyn yn cyflwyno risgiau anhysbys o ran iaith anweddus a dylanwad, bwlio a chamfanteisio. Mae camau y gallwch eu cymryd i gyfyngu ar y risg sy’n gysylltiedig â chwaraewyr eraill.
Mae gan GTA fodd stori un chwaraewr. Os byddwch yn penderfynu caniatáu i’ch plentyn chwarae GTA, mae’n syniad da iddo chwarae yn y modd hwn gan y bydd yn ei atal rhag rhyngweithio â phobl ddieithr.
Fel arall, fe all chwarae mewn sesiynau gwahoddiad yn unig, sy’n golygu y bydd yn chwarae gyda ffrindiau cymeradwy yn unig.
Os yw’ch plentyn yn chwarae ar-lein gyda phobl ddieithr, fe allwch analluogi’r nodweddion sgwrsio testun a llais. Bydd hyn yn atal eich plentyn rhag clywed neu weld negeseuon amhriodol gan bobl ddieithr.
Bydd dysgu’ch plentyn sut i ddefnyddio’r nodweddion rhwystro ac adrodd yn ei rymuso i atal cysylltiad â chwaraewyr sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus ac yn helpu i wneud y gêm yn fwy diogel i bawb.
Bydd sgwrsio’n rheolaidd am brofiad ar-lein eich plentyn yn eich helpu i wybod pwy mae’n rhyngweithio â nhw tra’i fod yn chwarae GTA.
Trafodwch ymddygiad ar-lein diogel gydag ef, fel peidio â rhannu gwybodaeth bersonol nac ymuno â grwpiau neu sgyrsiau gyda phobl ddieithr.
Gall GTA fod yn ymdrwythol ac yn gymhellol i chwaraewyr. Gall hyn arwain at gyfnodau hir o chwarae ac emosiynau cryf. Mae diweddariadau wythnosol, digwyddiadau arbennig rheolaidd, a heriau a thasgau newydd cyson yn golygu bod chwaraewyr yn cael eu hannog o hyd i ddychwelyd i’r gêm dro ar ôl tro.
Os byddwch yn caniatáu i’ch plentyn chwarae GTA, gall cymryd y camau canlynol helpu i’w atal rhag treulio gormod o amser ar y gêm.
Yng ngosodiadau’r ddyfais, fe allwch osod terfynau amser ar y rhaglen GTA i atal eich plentyn rhag treulio gormod o amser ar y sgrin.
Cytunwch ar ffiniau gyda’ch plentyn. Er enghraifft, bydd cytuno na chaiff chwarae GTA yn ei ystafell wely yn helpu i gyfyngu ar ei amser ar y gêm a’i hatal rhag effeithio ar ei gwsg.
Mae GTA yn dibynnu ar brynu o fewn y gêm i greu refeniw ychwanegol. Mae llawer o bethau i’w prynu yn y gêm. Efallai bydd eich plentyn eisiau gwario arian go iawn ar arian cyfred yn y gêm i brynu’r cerbydau a’r tai gorau a chael yr un pethau â’i ffrindiau. Gallwch wneud y canlynol i atal gorwario.
Gall siarad â’ch plentyn am brynu o fewn y gêm ei helpu i reoli ei wariant. Mae’n bosibl na fydd gwario arian ar-lein wir yn teimlo fel gwario arian. Esboniwch werth arian trwy gymharu’r hyn mae’n ei wario yn y gêm â’r hyn y gallai’r un swm ei brynu mewn bywyd go iawn.
Yng ngosodiadau’r ddyfais, fe allwch osod terfynau ar wariant neu analluogi trafodion yn gyfan gwbl.
Dewch i gytundeb gyda’ch plentyn ar faint y gall ei wario ar chwarae gemau. Gyda’ch gilydd, fe allech osod cyllideb fisol i sicrhau nad yw’n gorwario.
Os byddwch yn caniatáu i’ch plentyn chwarae GTA, fe all y gosodiadau hyn roi profiad mwy diogel iddo yn y gêm.
Bydd analluogi sgwrsio yn atal pobl ddieithr rhag gallu cysylltu â’ch plentyn.
I wneud hyn:
Yn GTA Ar-lein, agorwch y Ddewislen Ryngweithio.
Ewch i ‘Preferences’.
Dewiswch ‘Voice Chat’.
Gosodwch ef i ‘No One’.
Agorwch y ddewislen ‘Online’.
Dewiswch ‘Players’.
Dewch o hyd i’r chwaraewr rydych eisiau adrodd amdano neu ei rwystro.
Dewiswch rwystro neu adrodd.
Er bod modd chwarae rhai fersiynau o GTA am ddim, gellir prynu pethau o fewn y gêm. Gallwch analluogi prynu yn yr ap ar bob dyfais unigol.
Ewch i ‘Settings’.
Ewch i ‘Screen time’.
Ewch i ‘Content and privacy restrictions’.
Dewiswch ‘iTunes and app store purchases’ a gosodwch yr opsiwn i ‘Don’t allow’.
Ewch i’r ap ‘Google Play Store’.
Dewiswch ‘Menu’.
Dewiswch ‘Settings’.
Dewiswch ‘Require authentication for purchases’.
Cymorth Rockstar Games (Saesneg yn unig)