Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Minecraft', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
Gêm fideo ar-lein y telir amdani yw Minecraft. Gall chwaraewyr chwarae ar eu pen eu hunain neu gydag eraill trwy’r modd aml-chwaraewr ar-lein. Mae’r gêm ar gael ar bron pob dyfais gemau, gan gynnwys Xbox, PlayStation, PC, iOS ac Android.
Mae Hwb yn darparu fersiwn o Minecraft a ariennir yn ganolog ar gyfer plant a phobl ifanc mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Yr enw ar y fersiwn hon yw Minecraft Education Edition. Mae wedi’i theilwra at ddefnydd addysgol ac mae’n cynnig offer ac adnoddau i wella dysgu. Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio ar y brif gêm Minecraft, nid y fersiwn addysgol.
Mae Minecraft yn canolbwyntio ar adeiladu ac archwilio mewn byd wedi’i wneud o flociau. Gall chwaraewyr greu strwythurau fel adeiladau, celfyddyd picsel a hyd yn oed planedau cyfan. Mae nifer o wahanol foddau gêm ar gael.
Dyma’r rhai mwyaf poblogaidd:
modd goroesi, lle mae’n rhaid i chwaraewyr gasglu adnoddau ac ymladd gelynion i oroesi
modd creadigol, lle gall chwaraewyr adeiladu beth bynnag y dymunan nhw heb gyfyngiadau
Mae Minecraft yn boblogaidd iawn ymhlith pobl ifanc oherwydd bod y gêm yn annog creadigrwydd, datrys problemau a chymdeithasu.
Mae gan Minecraft ddosbarthiad PEGI 7, sy’n golygu ei bod yn addas i blant 7 oed a hŷn. Bydd rheolaethau rhieni’n cael eu cymhwyso’n awtomatig i unrhyw gyfrif sy’n perthyn i chwaraewr iau nag 16 oed. Mae hyn wedi’i seilio ar y dyddiad geni a roddir wrth greu cyfrif.
Dylech greu’r cyfrif gyda’ch gilydd i sicrhau bod eich plentyn yn rhoi’r dyddiad geni iawn ac yn cael y buddion sy’n gysylltiedig â chyfrif plentyn. Nid oes gan Minecraft broses i wirio oedran.
Gall chwaraewyr ennill cyflawniadau trwy gwblhau tasgau ym Minecraft. Mae hyn yn ffordd o gyflwyno chwaraewyr newydd i’r gêm a rhoi heriau iddyn nhw.
Modd gêm sy’n caniatáu i chwaraewyr ymweld â bydoedd chwaraewyr eraill, heb allu dinistrio unrhyw strwythurau.
Y gwahanol diroedd ym mydoedd Minecraft. Mae 64 o wahanol amgylcheddau, gan gynnwys anialwch, jyngl a’r môr.
Y deunydd a ddefnyddir i adeiladu a chreu.
Y system negeseua yn y gêm sy’n caniatáu i chwaraewyr gyfathrebu â’i gilydd neu weithredu gorchmynion fel galluogi mantais.
Mae gorchmynion yn nodweddion sy’n cael eu galluogi trwy deipio testun yn y blwch sgwrsio. Er enghraifft, mae ‘/tp’ yn caniatáu i ddefnyddwyr delegludo.
Modd gêm sy’n caniatáu i chwaraewyr adeiladu a chreu byd heb orfod casglu adnoddau nac ymladd gelynion. Argymhellir hyn ar gyfer chwaraewyr iau.
Gelyn-gymeriad na ellir ei chwarae sy’n gallu difrodi’r byd a’r chwaraewr trwy ffrwydro.
Symudiadau y gall eich cymeriad eu cyflawni. Gellir defnyddio’r rhain wrth gymdeithasu â chwaraewyr eraill.
Yr eitemau a’r cyfarpar a ddefnyddir i gasglu deunyddiau, adeiladu a hela. Mae’r rhain yn cynnwys ceibiau, rhawiau a chleddyfau.
Arian cyfred yn y gêm a ddefnyddir i brynu cynnwys fel gwisgoedd cymeriadau a bydoedd o’r farchnad. Prynir Minecoins gydag arian go iawn.
Y Farchnad, neu’r Siop ar PlayStation, yw’r man lle gall chwaraewyr brynu cynnwys a grëwyd gan Minecraft a phartneriaid swyddogol Minecraft.
Mae hyn yn fyr am ‘mobile entity’ (‘endid symudol’). Cymeriadau deallusrwydd artiffisial na ellir eu chwarae yw’r rhain sy’n gallu ymosod ar gymeriad y chwaraewr neu ryngweithio ag ef.
Tanysgrifiad sy’n caniatáu i chwaraewyr greu a rheoli eu gweinyddion preifat eu hunain. Mae’r gweinyddion hyn trwy wahoddiad yn unig. Mae nifer y gwahoddiadau a ganiateir yn seiliedig ar haen danysgrifio.
Y bydoedd Minecraft y gall chwaraewyr chwarae ynddyn nhw. Gall y rhain gael eu creu gan Minecraft, chwaraewyr neu bartneriaid swyddogol Minecraft.
Mae chwaraewyr yn casglu adnoddau ac yn adeiladu strwythurau, ar yr un pryd â gorfod ymladd gelynion a dod o hyd i fwyd i oroesi.
Gelyn-gymeriadau sy’n ymosod ar y chwaraewr yn y nos.
Term ar gyfer niweidio chwaraewyr eraill yn y gêm neu ddinistrio eu hadeiladau’n fwriadol er difyrrwch. Mae hyn yn erbyn canllawiau cymunedol llawer o weinyddion.
Pan fydd chwaraewyr yn archwilio ogofâu i gasglu adnoddau.
Mae Minecraft yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc greu eu hadeiladau a’u celfyddyd picsel eu hunain, gyda chyfleoedd adeiladu diderfyn bron pan fyddan nhw’n chwarae yn y modd Creadigol. Mae hyn yn meithrin creadigrwydd, mewn ffordd debyg i greu pethau o flociau adeiladu.
Mae Minecraft yn cynnwys modd aml-chwaraewr ar-lein, sy’n caniatáu i bobl ifanc chwarae gyda’u ffrindiau a rhyngweithio â nhw hyd yn oed pan nad ydynt yn yr un lle. Gall chwaraewyr adeiladu strwythurau gyda’i gilydd sy’n gallu cryfhau eu cyfeillgarwch a datblygu eu sgiliau gwaith tîm.
Fe allai chwaraewyr eraill greu cynnwys amhriodol ac anfon negeseuon amhriodol yn y swyddogaeth sgwrsio. Caiff chwaraewyr eu rhybuddio cyn chwarae efallai na fydd cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr yn addas i bob oed.
Gellir cymryd camau i wneud eich plentyn yn llai tebygol o weld cynnwys amhriodol.
Adroddwch am unrhyw fydoedd sydd â chynnwys amhriodol ac sy’n torri canllawiau cymunedol Minecraft. Bydd hyn yn helpu i gael gwared â chynnwys niweidiol.
Defnyddiwch reolaethau rhieni i alluogi hidlyddion yn y swyddogaeth sgwrsio i rwystro geiriau sarhaus, cyfyngu ar y sgwrs fel y gellir negesu ffrindiau yn unig, neu ddiffodd sgwrsio’n llwyr.
Bydd chwarae mewn gweinyddion preifat ar ei ben ei hun neu gyda ffrindiau y mae’n ymddiried ynddyn nhw’n unig yn atal eich plentyn rhag rhyngweithio â phobl ddieithr, ac felly bydd yn llai tebygol o weld cynnwys amhriodol.
Gall mods y mae eich plentyn yn eu lawrlwytho gynnwys pethau nad ydyn nhw ar gael yn y gêm sylfaenol. Nid yw’r cynnwys hwn wedi’i raddio ac fe allai fod yn anaddas i bobl ifanc. Adolygwch unrhyw mods y mae eich plentyn yn eu lawrlwytho i sicrhau eu bod yn briodol iddo.
Mae Minecraft yn rhoi rhyddid diderfyn bron i chwaraewyr, a’r gallu i adeiladu beth bynnag y dymunan nhw. Yn wahanol i lawer o gemau, nid oes stori na lefelau, felly nid oes diwedd naturiol. Oherwydd hyn, fe allai chwaraewyr fynd yn gaeth i’r gêm a threulio gormod o amser ar eu dyfais.
Gall y camau hyn helpu i atal eich plentyn rhag treulio gormod o amser yn chwarae’r gêm.
Yng ngosodiadau’r rhan fwyaf o ddyfeisiau, fe allwch osod terfynau amser sy’n rheoli pa mor hir y gall eich plentyn ddefnyddio dyfais neu gêm benodol bob dydd. Gall gosod terfynau amser ar ddyfais eich plentyn ei atal rhag treulio gormod o amser ar Minecraft.
Gall gosod ffiniau gyda’ch plentyn ynglŷn â ble a phryd y gall chwarae Minecraft helpu i gadw ei amser sgrin yn gytbwys.
Siaradwch â’ch plentyn am amser sgrin ac anogwch ef i fod yn ymwybodol o ba mor hir y mae’n chwarae’r gêm a sut mae’n gwneud iddo deimlo.
Mae gan Minecraft weinyddion cyhoeddus, sy’n caniatáu i chwaraewyr ryngweithio â phobl ddieithr o amgylch y byd.
Fe all hyn ddod â risgiau fel:
bwlio
rhannu cynnwys amhriodol
gofyn iddyn nhwryngweithio ar blatfformau eraill
I gadw’ch plentyn yn ddiogel rhag chwaraewyr eraill, ystyriwch y camau canlynol.
Gan ddefnyddio gosodiadau rhieni Minecraft, fe allwch gyfyngu ar nodweddion sgwrsio fel bod eich plentyn yn gallu negesu ei ffrindiau yn unig neu neb o gwbl. Bydd hyn yn atal cyswllt â phobl ddieithr.
Bydd cadw llygad ar restr ffrindiau eich plentyn, gan sicrhau bod eich plentyn yn eu hadnabod nhw i gyd ac yn ymddiried ynddyn nhw yn y byd go iawn, yn lleihau’r tebygolrwydd y bydd rhywun dieithr yn rhyngweithio ag ef.
Bydd chwarae ar weinyddion preifat neu weinyddion a fwriadwyd ar gyfer plant yn unig yn lleihau’r risg y bydd pobl ddieithr yn cysylltu â’ch plentyn trwy’r gêm. Ar gyfer plant iau, fe allech ganiatáu iddynt chwarae ar eu pen eu hunain yn unig.
Bydd siarad â’ch plentyn yn rheolaidd am ei fywyd digidol yn eich helpu i wybod pwy mae’n rhyngweithio ag ef. Bydd hyn yn eich galluogi i weithredu os yw’n cyfathrebu â phobl ddieithr.
Bydd dangos i’ch plentyn sut i ddefnyddio’r offer blocio a riportio ar Minecraft yn ei rymuso i atal cyswllt ag unrhyw un sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus ar y platfform.
Gall chwaraewyr brynu arian cyfred y gêm, sef ‘Minecoins’, gan ddefnyddio arian go iawn. Fe allai eich plentyn deimlo bod angen iddo wario arian ar Minecoins i brynu cynnwys newydd ac eitemau cosmetig i gael yr un pethau â’i ffrindiau neu chwaraewyr eraill.
Gall y camau hyn helpu i gadw gwariant eich plentyn dan reolaeth.
Gan ddefnyddio gosodiadau teulu, fe allwch sefydlu rheolaethau talu fel y bydd angen i’ch plentyn gael eich caniatâd cyn prynu eitemau yn y gêm.
Siaradwch â’ch plentyn am wario. Helpwch ef i sylweddoli gwerth arian trwy gymharu’r arian mae’n ei wario ar Minecraft ag eitemau y gallai eu prynu mewn bywyd go iawn am yr un swm. Cytunwch ar faint y gall ei wario ar y gêm bob mis.
Os yw’ch plentyn eisiau chwarae Minecraft, fe all y gosodiadau canlynol wneud ei brofiad ar y gêm yn fwy diogel.
Bydd arnoch angen eich cyfrif Microsoft eich hun i sefydlu Microsoft Family Safety.
Mae gan Minecraft amrywiaeth o osodiadau diogelwch, sydd ar gael trwy Microsoft Family Safety. I osod rheolaethau ar gyfrif eich plentyn, yn gyntaf bydd rhaid i chi gysylltu’r cyfrif Microsoft y mae’n ei ddefnyddio ar gyfer Minecraft â’ch cyfrif Microsoft chi.
I wneud hyn:
Lawrlwythwch ac agorwch yr ap Microsoft Family Safety.
Mewngofnodwch i’ch cyfrif Microsoft chi.
Dewiswch ‘Create a family group’.
Gwahoddwch eich plentyn gan ddefnyddio ei gyfrif Microsoft ef.
Derbyniwch y gwahoddiad a anfonwyd at ei gyfrif Microsoft ef.
Gallwch bellach osod rheolaethau gan gynnwys:
galluogi neu analluogi aml-chwaraewr
pwy sy’n gallu cyfathrebu â’ch plentyn
pwy sy’n gallu gweld cyfrif eich plentyn
Mae hidlyddion testun yn cael eu cymhwyso’n ddiofyn i gyfrifon sy’n perthyn i bobl ifanc iau nag 16 oed. Fodd bynnag, os ydych eisiau hidlo iaith anweddus neu atal pobl ddieithr rhag anfon negeseuon at eich plentyn 16 oed neu hŷn, fe allwch wneud hyn trwy osodiadau sgwrsio Minecraft.
I hidlo sgwrsio:
Agorwch Minecraft ac ewch i’r brif ddewislen.
Dewiswch ‘Settings’.
Dewiswch ‘Chat Settings’ i:
ddiffodd sgwrsio
hidlo iaith anweddus
caniatáu negeseuon gan ffrindiau yn unig
Gallwch ddysgu’ch plentyn sut i riportio neu flocio chwaraewyr eraill sy’n gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus.
Tra byddwch yn chwarae, ewch i’r rhestr chwaraewyr ar ochr dde’r sgrin.
Dewiswch y chwaraewr rydych eisiau ei riportio.
Ar broffil y chwaraewr, dewiswch y botwm ‘Report’.
Dilynwch y promptiau.
Ewch i’r rhestr chwaraewyr ar ochr dde’r sgrin neu teipiwch enw’r chwaraewr yn y cyfleuster chwilio yn y brif ddewislen.
Ar ei broffil, newidiwch ‘Block’ i ‘On’.
Canllaw gam wrth gam Internet Matters ynglŷn â rheolaethau rhieni (Saesneg yn unig)