Canllaw i deuluoedd sydd â gwybodaeth allweddol am 'Pokemon Go', gan gynnwys y dosbarthiad oedran, terminoleg allweddol, risgiau a chyfarwyddiadau ar gyfer galluogi rheolaethau rhieni a gosodiadau diogelwch.
Gêm am ddim gan Niantic yw Pokémon Go. Gan ddefnyddio camera a gosodiadau lleoliad GPS dyfais, mae’r gêm yn anfon chwaraewyr i leoliadau yn y byd go iawn i ddal, casglu, hyfforddi a brwydro cymeriadau Pokémon. Mae Pokémon Go yn defnyddio realiti estynedig i wneud y profiad yn fwy realistig.
Gall defnyddwyr chwarae gyda ffrindiau trwy:
anfon ceisiadau ffrindiau
masnachu Pokémon
anfon rhoddion
ymuno â chyrchoedd (brwydrau mewn Gym)
cymryd cipluniau
brwydro yn erbyn ei gilydd
Pan gaiff ei defnyddio’n ddiogel, mae’r gêm hon yn ymwneud â hwyl ac archwilio.
Mae Niantic hefyd wedi cyhoeddi ‘Campfire’, sef ap cymdeithasol ar wahân. Gall defnyddwyr gysylltu’r ap hwn â’u cyfrifon Pokémon Go. Mae’n caniatáu i ddefnyddwyr:
wneud ffrindiau newydd
anfon negeseuon uniongyrchol at bobl
ymuno â chymunedau sy’n berthnasol i’w diddordebau
Nid yw ap ‘Campfire’ yn cael ei argymell ar gyfer defnyddwyr iau.
Mae gan Pokémon Go sgôr oedran PEGI 7. Mae Apple App Store yn ystyried bod y gêm yn addas i chwaraewyr dros 9 oed.
Os yw’ch plentyn dan 13 oed, bydd rhaid i chi greu a dilysu ei gyfrif. Yn rhan o’r broses hon, byddwch yn gallu gosod cyfrif eich plentyn, gan eich galluogi i:
adolygu’r wybodaeth sy’n cael ei rhannu ar y cyfrif
monitro’r ffrindiau newydd sy’n cael eu gwneud ac y rhyngweithiwyd â nhw wrth chwarae’r gêm
Un o nodweddion aml-chwaraewr Pokémon Go sy’n caniatáu i ddefnyddwyr olrhain ei gilydd a chystadlu mewn heriau gyda’i gilydd.
Pêl y mae hyfforddwyr yn ei defnyddio i gasglu creaduriaid Pokémon gwyllt.
Dyma arian cyfred y gêm. Gall chwaraewyr ennill ‘Poké coins’ wrth chwarae neu eu prynu.
Dyma’r lleoliad lle mae hyfforddwyr yn brwydro yn erbyn ei gilydd.
‘Poké Stops’ yw’r lleoliadau lle gall hyfforddwyr gasglu adnoddau ychwanegol ar gyfer eu Pokémon. Fel arfer, mae’r rhain wedi’u lleoli mewn mannau o ddiddordeb yn y byd go iawn.
Y creaduriaid y mae chwaraewyr yn eu casglu a’u hyfforddi.
Mae’r brwydrau hyn yn digwydd pan fydd Pokémon lefel uchel yn meddiannu ‘Poké Gym’. Yna, mae’n rhaid i chwaraewyr ymuno â’i gilydd i herio’r ‘Raid boss’ i gipio’r gampfa yn ôl. Gall hyd at 20 o chwaraewyr ymuno â’r frwydr a rhaid iddyn nhw fod yn lleoliad y gampfa i gymryd rhan.
Yr afatar (eicon) y mae pob chwaraewr yn ei greu i gasglu, hyfforddi a brwydro yn erbyn Pokémon.
Dyma’r cod unigryw sy’n cael ei roi i bob chwaraewr sy’n creu cyfrif. Mae rhannu’r cod hwn â defnyddwyr eraill yn galluogi chwaraewyr i ryngweithio â’i gilydd yn y gêm.
Gall Pokémon Go gymell pobl ifanc i fynd allan i’r awyr agored a symud. Mae Pokémon yn ymddangos yn y byd go iawn, sy’n golygu bod rhaid i ddefnyddwyr fynd am dro o gwmpas eu hardal leol i symud ymlaen yn y gêm.
Wrth chwarae Pokémon Go yn yr awyr agored, gallai pobl ifanc ddod i gysylltiad go iawn â phobl ddieithr. Mae Pokémon Go hefyd yn caniatáu i chwaraewyr ryngweithio â’i gilydd yn y gêm trwy frwydrau a masnachu. Mae’r rhyngweithiadau hyn wedi’u seilio ar bwy mae’ch plentyn yn ffrindiau â nhw.
Gallwch leihau’r tebygolrwydd o gysylltiad niweidiol â phobl eraill trwy’r camau canlynol.
Bydd creu eich cyfrif Pokémon Trainer Club eich hun ac yna cysylltu eich plentyn ag ef â chyfrif plentyn yn caniatáu i chi gyfyngu ar nodweddion cymdeithasol y gêm.
Gwiriwch â phwy mae’ch plentyn yn ffrindiau ar Pokémon Go a sicrhewch ei fod yn adnabod ac yn ymddiried yn yr holl ffrindiau hyn mewn bywyd go iawn. Holwch am y platfformau y mae’n eu defnyddio i ryngweithio â ffrindiau o’r gêm, gan fod rhai chwaraewyr yn cymryd rhan mewn sianeli Discord Pokémon Go, sy’n dod â’u risgiau eu hunain.
Os oes gennych blentyn iau, chwaraewch y gêm ochr yn ochr ag ef er mwyn sicrhau ei fod yn cadw’n ddiogel y tu allan. Ar gyfer plant hŷn, cynghorwch nhw i aros mewn ardaloedd diogel y maen nhw’n eu hadnabod ac i beidio â siarad â phobl ddieithr wrth chwarae.
Trafodwch â’ch plentyn pa wybodaeth y mae’n iawn neu nad yw’n iawn ei rhannu ar-lein. Dylech ei addysgu i osgoi rhyngweithio â phobl ddieithr, boed hynny ar-lein neu all-lein. Rhowch wybod iddo y gall ddod atoch chi am gymorth bob tro os oes rhywun yn gwneud iddo deimlo’n anghyfforddus.
Anogwch eich plentyn i ddefnyddio’r nodwedd riportio os yw defnyddiwr arall yn ymddwyn yn amhriodol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y platfform yn fwy diogel i bawb.
Gallai rhywbeth dynnu sylw eich plentyn wrth chwarae’r gêm, wrth iddo edrych ar ei ddyfais i ddod o hyd i Pokémon, yn hytrach na rhoi sylw i’r hyn sydd o’i gwmpas.
Addysgwch eich plentyn i fod yn ymwybodol o’r hyn sydd o’i gwmpas. Gallwch alluogi gosodiad crynu ar yr ap, a fydd yn rhybuddio’ch plentyn pan fydd yn agos at Pokémon, sy’n golygu nad oes rhaid iddo edrych ar y sgrin yn gyson.
Gall y gosodiadau hyn helpu eich plentyn i gadw’n ddiogel wrth chwarae Pokémon Go.
Ar eich dyfais, agorwch Pokémon Go a dewiswch ‘New Player’.
Dewiswch ‘Pokémon Trainer Club’.
Dewiswch ‘Create an Account’.
Cwblhewch y broses creu cyfrif safonol.
Yng ngosodiadau eich ‘Pokémon Trainer Club’, dewiswch ‘Add a Child’.
Llenwch fanylion eich plentyn a’u manylion mewngofnodi.
Ar ddyfais eich plentyn, agorwch Pokémon Go a dewiswch ‘New Player’.
Dewiswch ‘Pokémon Trainer Club’ a rhowch fanylion mewngofnodi eich plentyn.
Ar y dudalen nesaf, dewiswch ‘I’m the Parent/Guardian’.
Dewiswch ‘Continue as Parent or Guardian’.
Golygwch osodiadau rhieni eich plentyn, yna dewiswch ‘Continue’.
Dewiswch ‘Back to Pokémon Go’.
Ar y brif dudalen, dewiswch eicon y ‘Poké ball’.
Dewiswch y symbol ‘Settings’ yn y gornel dde uchaf.
Dewiswch yr opsiwn ‘Help’, sydd ag eicon swigen siarad.
Dewiswch yr opsiwn ‘Contact us’ a rhowch ‘Report a player’ yn y blwch negeseuon.