Neidio i'r prif gynnwy

Darparu amrywiaeth o adnoddau i blant a phobl ifanc, ymarferwyr addysg, gweithwyr proffesiynol ym maes addysg, rhieni a gofalwyr i gefnogi’r gwaith o ddarparu addysg ar ddiogelwch ar-lein, a'i hyrwyddo.

Gweithredoedd a diweddariadau

Cam gweithredu 6.1 – Galluogi ysgolion i asesu ymarfer diogelwch ar-lein

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda SWGfL i hyrwyddo a darparu mynediad i 360 safe Cymru, sef adnodd hunanasesu diogelwch ar-lein dwyieithog sydd ar gael i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru, drwy gofrestru unwaith â Hwb. Caiff cynnwys yr adnodd, yn ogystal â’r templedi polisi cysylltiedig, eu diweddaru unwaith bob dwy flynedd.

Diweddariad 2020

Mewn cydweithrediad â SWGfL, rydym wedi comisiynu adolygiad o adnodd 360 safe Cymru. Bydd hyn yn gwella ac yn symleiddio’r agweddau hunanadolygu presennol o 28 i 21, a bydd hefyd yn cynnwys diweddaru’r templedi polisi sampl i ysgolion eu defnyddio yn unol â’r canllawiau diweddaraf. Disgwylir i’r adnodd newydd gael ei lansio ym mis Ionawr 2021 fel rhan o gyfres newydd o adnoddau, a fydd hefyd yn cynnwys adnodd hunanadolygu dysgu digidol 360 safe Cymru.

Mae 95 y cant o ysgolion a gynhelir yng Nghymru wedi’u cofrestru ag adnodd presennol 360 safe Cymru ar hyn o bryd, gyda thros 66 y cant o’r rhain wedi cwblhau pob un o’r 28 o agweddau. Caiff ysgolion negeseuon atgoffa drwy e-bost bob tymor yn hyrwyddo manteision cwblhau’r adolygiad hunanasesu, yn ogystal ag annog arfarnu parhaus. Ar hyn o bryd mae 89 y cant o ysgolion cofrestredig wedi defnyddio’r adnodd yn ystod y 12 mis diwethaf.

Statws y cam gweithredu: Wedi cau.

Cam gweithredu 6.2 – Datblygu adnoddau diogelwch ar-lein ystafell

Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu adnoddau diogelwch ar-lein dwyieithog ar gyfer dysgwyr cynradd ac uwchradd ar amrywiaeth o faterion penodol yn ymwneud â diogelwch ar-lein.

Diweddariad 2024

Yn ystod haf 2024, buom yn gweithio gyda Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU o gyhoeddi pecynnau addysg dwyieithog ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Cyhoeddwyd y pecynnau hyn ym mis Tachwedd 2024. Mae'r pecynnau hyn ar gyfer dysgwyr cynradd ac uwchradd ac maent yn llawn gweithgareddau ar gyfer gwersi ar ddiogelwch ar-lein.

Pecynnau addysg cynradd

Pecynnau addysg uwchradd

Drwy ein partneriaeth gyda Common Sense Education, ym mis Mehefin 2024, gwnaethom gyhoeddi 8 gweithgaredd llythrennedd deallusrwydd artiffisial, gyda'r nod o gefnogi dysgwyr i feddwl yn feirniadol am sut y gallant ddefnyddio AI mewn ffordd gyfrifol a moesegol.

Cam gweithredu 6.3 – Darparu adnoddau diogelwch ar-lein sy’n addas ar gyfer addysg yn y cartref

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr adnoddau diogelwch ar-lein sydd ar gael a sut y gellir eu teilwra ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n addysgu yn y cartref.

Diweddariad 2023

Drwy ardal Cadw'n Ddiogel Ar-lein ar Hwb, rydym wedi llunio canllawiau ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â diogelwch ar-lein er mwyn helpu rhieni a gofalwyr i addysgu dysgwyr gartref, gan gynnwys egluro'r we dywyll a'r metafyd. Rydym hefyd yn parhau i gynnig casgliad helaeth o adnoddau addysgol cadernid digidol sydd ar gael i'r cyhoedd y gellir eu defnyddio ar gyfer addysgu a dysgu mewn ysgolion neu fel rhan o addysg yn y cartref.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 6.4 – Datblygu adnoddau diogelwch ar-lein dwyieithog ar gyfer ymarferwyr addysg

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu amrywiaeth o adnoddau diogelwch ar-lein dwyieithog ar gyfer ymarferwyr addysg, gan gynnwys adnoddau ystafell ddosbarth a chanllawiau i athrawon.

Diweddariad 2024

Ym mis Mawrth 2024, gyda chymorth Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, gwnaethom gyhoeddi canllawiau anstatudol newydd i gefnogi ysgolion, eu cyrff llywodraethu a lleoliadau addysg i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel ac yn gyfrifol: Arferion ac egwyddorion i ysgolion ar gyfer defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol. I ategu hyn, gwnaethom gyhoeddi fideo 10 munud gyda'r nod o helpu ysgolion i ddatblygu polisïau ac arferion a deall tueddiadau cyfredol o ran ymddygiad plant a phobl ifanc ar-lein a ble i ddod o hyd i ffynonellau cymorth pellach drwy adran Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb.

Ym mis Ebrill 2024, gwnaethom gyhoeddi fideo hyfforddiant 10 munud gyda'r nod o helpu ysgolion i ddeall y datblygiadau a'r pryderon diogelwch diweddaraf o ran rhannu delweddau a'u helpu i atal digwyddiadau ac ymateb iddynt.

Ym mis Mehefin 2024, gwnaethom gyhoeddi cyfres o weithgareddau llythrennedd deallusrwydd artiffisial gan Common Sense Education ar gyfer ysgolion uwchradd:

Ym mis Medi 2024, gwnaethom gyhoeddi dwy ddogfen ganllaw i ysgolion:

Ym mis Ionawr 2025, gwnaethom gyhoeddi canllawiau AI cynhyrchiol: cadw dysgwyr yn ddiogel ar-lein. Datblygwyd y cyngor hwn ar y cyd â Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU ac mae'n cefnogi ysgolion i ddeall y pryderon diogelu cyfredol sy'n gysylltiedig ag AI cynhyrchiol ac ymgorffori'r rhain mewn ymarfer a pholisi diogelu

Cam gweithredu 6.5 – Cefnogi ysgolion i asesu darpariaeth diogelu

Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn cyflwyno adnodd archwilio trefniadau diogelu a chanllawiau i ysgolion eu defnyddio i asesu eu darpariaeth diogelu.

Diweddariad 2020

Mae’r adnodd archwilio wedi’i gynnwys yng nghanllawiau Cadw dysgwyr yn ddiogel a bydd Estyn yn defnyddio’r adnodd wrth gynnal arolygiadau.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 6.6 – Diweddaru ein pecyn cymorth cwnsela

Bydd y fersiwn ddiweddaraf o becyn cymorth cwnsela Llywodraeth Cymru yn cynnwys pennod ar gwnsela ar-lein, gan roi canllawiau ar ddarparu gwasanaeth ar-lein diogel.

Diweddariad 2020

Cyhoeddwyd y Pecyn cymorth gweithredu cwnsela mewn ysgolion ac yn y gymuned ym mis Mehefin 2020 ac mae’n cynnwys pennod ar ddarparu gwasanaeth ar-lein.

Ym mis Ebrill 2020, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg £1.252 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cwnsela, gan gynnwys cyllid i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaeth ar-lein yn ystod pandemig COVID-19.

Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

Cam gweithredu 6.7 – Nodi adnoddau diogelwch ar-lein i ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymarfer cwmpasu bach ar adnoddau diogelwch ar-lein i ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Diweddariad 2024

Gwnaethom wahodd ysgol arbennig er mwyn casglu barn dysgwyr ag ADY ynghylch at ba ddiben maent yn defnyddio'r rhyngrwyd, beth sy'n dda am fod ar-lein a beth sy'n eu poeni a gwnaethom rannu hyn drwy Cadw'n ddiogel ar-lein fel rhan o ddathliadau Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024. Rydym wedi ceisio adborth gan ymarferwyr ar sut y gellir addasu gweithgareddau gwersi ar gyfer dysgwyr ag anghenion gwahanol a byddwn yn adeiladu ar y gwaith ymgysylltu hwn yn ystod 2024.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 6.8 – Datblygu pecyn cymorth diogelwch ar-lein ar gyfer ymarferwyr y blynyddoedd cynnar

Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn cyhoeddi pecyn cymorth diogelwch ar-lein i ymarferwyr sy’n gweithio mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.

Diweddariad 2020

Rydym wedi cyhoeddi’r Pecyn cymorth diogelwch ar-lein i ymarferwyr y blynyddoedd cynnar ar Hwb. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys canllawiau, dogfennau ategol a thaflen wybodaeth. Y nod cyffredinol yw cefnogi darpariaethau blynyddoedd cynnar i ddatblygu diwylliant lle mae plant a staff yn defnyddio technoleg yn ddiogel.

Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys polisïau enghreifftiol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ac adolygu polisïau a gweithdrefnau diogelwch ar-lein fel rhan o drefniadau diogelu darpariaethau blynyddoedd cynnar. Y nod allweddol yw codi ymwybyddiaeth o rai o’r risgiau posibl i blant sy’n gysylltiedig â thechnolegau ar-lein, a hyrwyddo arferion da. Mae’r pecyn cymorth hefyd yn nodi pwysigrwydd diogelwch data a chadw at y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), ac mae’n cynnig canllawiau a thempledi cytundebau defnydd derbyniol i gefnogi hyn.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 6.9 – Creu ffilmiau ar ddiogelwch ar-lein i deuluoedd

Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cyfres o chwe ffilm ar ddiogelwch ar-lein i rieni, gofalwyr a theuluoedd.

Diweddariad 2020

Yn ystod 2019–20, gwnaethom ddefnyddio dulliau digidol i gyrraedd rhieni, gofalwyr ac aelodau o’u teulu estynedig. Gan weithio gydag amrywiaeth o arbenigwyr yn ei meysydd perthnasol, creoedd SWGfL gyfres o ffilmiau byr. Nod y gyfres hon o ffilmiau ‘Dechrau’r sgwrs’ yw cynnig cyngor ac awgrymiadau i rieni, gofalwyr ac aelodau o’u teulu estynedig.

Bydd y ffilmiau byr hyn yn ategu’r gyfres ‘Canllaw i’r teulu ar ...’ (gweler Cam gweithredu 1.1), a byddant ar gael ar barth Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 6.10 – Gweithio gyda Common Sense Education

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Common Sense Education i gyhoeddi gwersi dwyieithog ar ddinasyddiaeth ddigidol ar gyfer ymarferwyr addysg.

Diweddariad 2021

Ym mis Mai 2021, cyhoeddwyd y gyfres newydd o adnoddau Dinasyddiaeth Ddigidol ddwyieithog gan Common Sense Education yn ardal Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb. Mae'r adnoddau wedi'u haddasu ar gyfer Cymru gan roi mynediad i ymarferwyr addysg at yr adnoddau diogelwch ar-lein a dinasyddiaeth ddigidol diweddaraf.

Mae'r adnoddau yn cynnwys 73 o gynlluniau gwers pwrpasol a sleidiau ar gyfer y gwersi hynny, taflenni gweithgareddau a chwisiau gwirio gwybodaeth yn ogystal â gweithgareddau teuluol y gellir eu gwneud mewn amgylchedd dysgu yn y cartref.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd

Cam gweithredu 6.11 – Gweithio gyda Childnet

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Childnet i ddarparu adnoddau dwyieithog ar aflonyddu rhywiol ar-lein ar gyfer ysgolion yng Nghymru.

Diweddariad 2022

Gan weithio gyda Childnet International rydym wedi cyhoeddi pecynnau cymorth addysgu dwyieithog, Codi Llaw, Codi Llais (pobl ifanc 13-17 oed) a Dim ond jôc? (plant 9-12 oed) ar gadw’n ddiogel ar-lein. Mae'r pecynnau cymorth hyn, sydd wedi'u llywio gan ymchwil ryngwladol gynhwysfawr, yn cynnwys cyfres o gynlluniau gwersi a gweithgareddau sy'n mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol ar-lein mewn ffordd sy'n briodol i oedran y dysgwyr, yn ogystal â chanllawiau ar gyfer lleoliadau addysg ar sut y gallant ddeall, atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol ar-lein.

Mewn ymateb i'r angen i integreiddio trafodaethau am aflonyddu rhywiol ar-lein yn well ar draws cyd-destunau'r ysgol a'r cartref, mae Dim ond jôc? yn cynnwys taflenni a ffilm wedi'i hanelu at rieni a gofalwyr.

Nod y pecynnau cymorth yw annog pobl ifanc i roi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein, a gwella cydweithrediad amlsector wrth atal ac ymateb i’r ymddygiad hwn. I gyd-fynd â lansio 'Codi Llaw, Codi Llais', darparodd Will Gardner, Prif Weithredwr Childnet International erthygl arbenigol fel rhan o gyfres ‘Barn yr arbenigwyr’, yn canolbwyntio ar ymchwil a wnaed i ddatblygu'r pecyn cymorth a phroblem aflonyddu rhywiol ar-lein sy'n wynebu pobl ifanc.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd

Cam gweithredu 6.12 – Gweithio gyda’r NSPCC

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r NSPCC i ddiweddaru, adolygu a chyhoeddi fersiynau dwyieithog o adnoddau Net Aware yr NSPCC a chymorth ychwanegol i rieni a gofalwyr.

Diweddariad 2022

Cafodd adnoddau Net Aware yr NSPCC eu datgomisiynu yn 2021, ac ers hynny maent wedi'u tynnu o ardal ‘Cadw'n ddiogel ar-lein’ gwefan Hwb. I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am apiau, cyfryngau cymdeithasol a gemau i deuluoedd, gweler ein hardal ‘Bydd wybodus’ ar Hwb.

Ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2022, cynigiodd yr NSPCC weithdai am ddim ar chwarae gemau ar-lein i rieni a gofalwyr a hyrwyddwyd ar Hwb. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r NSPCC ac yn hyrwyddo eu hadnoddau a'u hyfforddiant.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd

Cam gweithredu 6.13 – Datblygu adnoddau ar seiber gadernid

Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu rhaglen waith gynhwysfawr i ddarparu adnoddau ar seiber gadernid i randdeiliaid addysg ledled Cymru.

Cam gweithredu 6.14 – Creu gwybodaeth bwrpasol am gadernid digidol ar gyfer plant a phobl ifanc

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid i ehangu ei chynnwys ar gadernid digidol sydd wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc.

Diweddariad 2022

Yn ystod 2021-22 rydym wedi gweithio gyda Promo Cymru, sefydliad sydd â phrofiad ac arbenigedd mewn creu cynnwys pwrpasol ar gyfer plant a phobl ifanc, er mwyn datblygu gwybodaeth a chyngor wedi’i deilwra ar amrywiaeth o faterion diogelwch ar-lein. Cynhaliwyd grwpiau ffocws a dosbarthwyd holiadur i blant a phobl ifanc i sicrhau bod y prosiect yn cael ei lywio gan eu profiadau nhw a bod yr wybodaeth mor berthnasol a diddorol â phosibl i’r gynulleidfa hon, ac mor hwylus â phosibl iddynt ei defnyddio.

Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddwyd ein Cyngor i blant a phobl ifanc: problemau a phryderon ar-lein yn ardal ‘Cadw'n ddiogel ar-lein’ gwefan Hwb.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd

Cam gweithredu 6.15 – Sicrhau bod gwasanaethau Hwb yn addas at y diben

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod holl adnoddau a gwasanaethau Hwb yn cydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018, yn ogystal â chefnogi ysgolion i gyflawni eu rhwymedigaethau o ran diogelu data a bodloni eu gofynion o ran cadernid digidol drwy waith cydweithredol a rhaglenni addysg perthnasol, e.e. Cyber Essentials.

Diweddariad 2023

Fel rhan o raglen Hwb rydym yn parhau i adolygu a gwerthuso holl adnoddau a gwasanaethau Hwb er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU), Deddf Diogelu Data 2018 (Deddf 2018) a safonau Cod y Plant.

Rydym yn parhau i fonitro cynigion Llywodraeth y DU i ddiwygio'r Rheoliad Diogelu Data.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 6.16 – Darparu adnodd hunanadolygu i ysgolion

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda SWGfL i hyrwyddo a darparu mynediad i 360 safe Cymru, sef adnodd hunanadolygu diogelwch ar-lein dwyieithog sydd ar gael i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru, drwy gofrestru unwaith â Hwb. Caiff hwn ei ddiweddaru a’i ehangu i gynnwys adnodd 360 digi Cymru, sef adnodd hunanadolygu er mwyn helpu ysgolion a lleoliadau addysg i werthuso pa mor dda y maent yn cynllunio, yn cymhwyso ac yn cynnal dysgu digidol.

Diweddariad 2024

Mae 360 safe Cymru ar gael i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru drwy Hwb o hyd. Caiff y cynnwys hunanwerthuso a'r polisïau cysylltiedig eu diweddaru'n flynyddol o leiaf er mwyn adlewyrchu newidiadau yn y dirwedd diogelwch ar-lein a sicrhau bod cyngor ac arweiniad yn gyson ar draws Hwb. Cwblhawyd y diweddariad diwethaf ym mis Mai 2024. Caiff ysgolion eu hannog i adolygu eu prosesau hunanwerthuso yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod eu polisïau a'u harferion diogelwch ar-lein yn gyfredol.

Rydym yn diweddaru agweddau ar yr adnodd ac yn datblygu templed newydd i helpu ysgolion i ddatblygu eu polisïau, eu gweithdrefnau a'u hymarfer er mwyn adlewyrchu'r pryderon a'r heriau diweddaraf o ran diogelwch ar-lein, gan gynnwys AI cynhyrchiol.

Bydd polisi ar gamddefnyddio cyfrifiaduron a dewisiadau seiber hefyd yn cael ei ychwanegu at y casgliad o dempledi ategol.

Mae 360 digi Cymru ar gael i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru drwy Hwb o hyd. Mae 59% o ysgolion ledled Cymru wedi defnyddio'r adnodd. Caiff ysgolion eu hannog i gynnal adolygiad cychwynnol o'u prosesau hunanwerthuso yn ogystal â'u diweddaru'n rheolaidd, gyda chymorth y Consortia Addysg Rhanbarthol, er mwyn sicrhau bod eu polisïau a'u harferion digidol yn gyfredol. Mae cynnwys yr adnodd yn gyson â'r Daith ddysgu proffesiynol ddigidol a'r Safonau Digidol Addysg a chaiff ei ddiweddaru er mwyn adlewyrchu'r Dull Cenedlaethol ar gyfer Cadernid Digidol mewn Addysg.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.