Neidio i'r prif gynnwy

Cynnal canllawiau statudol ac anstatudol i adlewyrchu datblygiadau technolegol a newidiadau yn y ffordd y defnyddir y rhyngrwyd.

Gweithredoedd a diweddariadau

Cam gweithredu 4.1 - Canllawiau statudol ar ddiogelu

Bydd Llywodraeth Cymru yn diwygio ac yn diweddaru’r canllawiau statudol ar ddiogelwch, Cadw dysgwyr yn ddiogel, a fydd yn cynnwys diweddariad ar ddiogelwch ar-lein.

Diweddariad 2022

Yn ystod 2022 rydym wedi parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i gefnogi gweithredu'r canllawiau 'Cadw dysgwyr yn Ddiogel'.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 4.2 – Diogelu plant rhag achosion o feithrin perthynas amhriodol ar-lein a chamfanteisio rhywiol

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod materion yn ymwneud â meithrin perthynas amhriodol ar-lein a chamfanteisio’n rhywiol ar blant yn cael eu hystyried wrth ddiweddaru’r canllawiau statudol 'Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc rhag Camfanteisio Rhywiol'.

Diweddariad 2021

Ar 18 Mawrth 2021, cyhoeddwyd canllawiau i sefydliadau ar sut i ddiogelu plant sydd mewn perygl y bydd rhywrai yn camfanteisio arnynt, gan gynnwys yn rhywiol.

Cyhoeddwyd fersiwn hawdd ei deall a fersiwn i bobl ifanc hefyd (Mehefin 2021) i gyd-fynd â’r canllawiau – Cyfrol 7 o Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl (Diogelu Plant rhag Camfanteisio Rhywiol). Cyhoeddwyd y canllawiau hyn o dan adran 28 o Ddeddf Plant 2004 (y cyfeirir ati fel Deddf 2004), ac adran 139 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y cyfeirir ati fel Deddf 2014).

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 4.3 – Diogelu plant sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin ar-lein

Bydd grwp gorchwyl a gorffen amlasiantaeth yn datblygu canllawiau ymarfer Cymru gyfan ar ddiogelu plant sy’n wynebu risg o gael eu cam-drin ar-lein. Bydd Bwrdd Diogelu Caerdydd a’r Fro yn ymgynghori ar y canllawiau hyn ac yn eu cyhoeddi ar ran Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a’r Byrddau Diogelu yng Nghymru. Bwriedir i’r Gweithdrefnau Amddiffyn Cenedlaethol a’r canllawiau ymarfer ategol gael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2019.

Diweddariad 2021

Mae Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn parhau i gefnogi dysgu gan ymarferwyr mewn perthynas â Chanllawiau Ymarfer Cymru Gyfan a Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar draws asiantaethau ac ar draws Cymru. Cyfeirir at y canllaw hefyd mewn canllawiau diweddara 'Cadw dysgwyr yn ddiogel' a gyhoeddwyd yn 2020.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 4.4 – Datblygu safonau hidlo’r we a argymhellir ar gyfer ysgolion

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal y safonau hidlo’r we a argymhellir ar gyfer ysgolion yng Nghymru.

Diweddariad 2024

Mae'r safonau hidlo cynnwys y we a argymhellir ar gyfer ysgolion yng Nghymru yn cael eu hadolygu er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gyson â chyngor ac arweiniad ehangach.

Disgwylir i ddiweddariad gael ei gyhoeddi yn ystod tymor y gwanwyn 2025. Yn ogystal â chefnogi'r defnydd effeithiol o hidlo cynnwys y we, mae'r canllawiau yn cynnwys cyngor ar gyfer monitro prosesau diogelu ar ddyfeisiau iOS.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 4.5 – Darparu canllawiau gwrthfwlio

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn diwygio’r canllawiau gwrthfwlio anstatudol, 'Parchu eraill', sy’n cynnwys cyngor ar fynd i’r afael ag achosion o fwlio ar-lein mewn ysgolion.

Diweddariad 2020

Ym mis Tachwedd 2019, gwnaethom gyhoeddi cyfres o ganllawiau gwrthfwlio, sef Hawliau, parch, cydraddoldeb, sy’n darparu canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ac awdurdodau lleol, er mwyn helpu i fynd i’r afael ag achosion o fwlio mewn lleoliadau addysg yng Nghymru, a’u hatal. Mae’r gyfres hefyd yn cynnwys canllawiau cynghori i blant, pobl ifanc a’u rheini a gofalwyr, er mwyn helpu’r rhai y mae bwlio yn effeithio arnynt, gan amlinellu hawliau a chyfrifoldebau.

Er mwyn cefnogi’r broses ymarferol o roi’r canllawiau ar waith, rydym wedi llunio rhestrau chwarae adnoddau ar-lein ar gyfer pob grwp rhanddeiliaid.

Yn ystod 2020, byddwn yn cefnogi’r broses o roi’r canllawiau ar waith.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 4.6 – Cefnogi ymarferwyr addysg i herio achosion o fwlio

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r adnoddau gwrthfwlio sydd ar gael i ysgolion ar hyn o bryd ac yn asesu unrhyw anghenion i helpu ymarferwyr addysg i fynd i’r afael ag achosion o fwlio mewn lleoliadau addysg.

Diweddariad 2024

Mae Hawliau, parch, cydraddoldeb, sef y canllawiau gwrthfwlio statudol wrthi'n cael eu diweddaru ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod gan bob ysgol a lleoliad adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel i atal achosion o fwlio, gwahaniaethu a digwyddiadau hiliol, ac ymateb iddynt.

Bydd y diweddariad hwn yn cynnwys adlewyrchu datblygiadau polisi a deddfwriaethol diweddar a chysylltu â nhw, gan gynnwys y Cwricwlwm i Gymru a'r Fframwaith ar ymgorffori dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol.

Bydd y diweddariad hefyd yn ymdrin ymhellach ag achosion o fwlio ac aflonyddu sy'n gysylltiedig â rhagfarn, gan gynnwys digwyddiadau hiliol, yn unol â nod Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol o sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Bydd cyflwyno diweddariadau mewn perthynas ag achosion o fwlio ac aflonyddu sy'n gysylltiedig â rhagfarn yn golygu bod y canllawiau yn adlewyrchu dealltwriaeth ddiweddar o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, a'r ffordd orau o atal achosion o'r fath ac ymateb iddynt.

Bydd diweddariadau hefyd yn cyd-fynd â'r nodau addysg gynhwysol yng Nghynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru, ac argymhellion y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, er mwyn sicrhau y defnyddir dulliau gweithredu cyson i ymdrin ag achosion o fwlio sy'n gysylltiedig â rhagfarn mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig.

Caiff y diweddariad hwn ei lywio gan farn a phrofiadau plant a phobl ifanc, gan ddefnyddio adnoddau ac ymchwil gyhoeddedig lle y bo'n briodol, ac ehangu hyn â gwaith ymgysylltu ychwanegol â rhanddeiliaid, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus yn y dyfodol.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 4.7 – Atal eithafiaeth dreisgar

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal canllawiau Gwrthsafiad a pharch i ysgolion.

Diweddariad 2024

Daeth Canllawiau diwygiedig y Swyddfa Gartref ar Ddyletswydd Prevent (PDG) i rym ar 31 Rhagfyr 2023. Caiff canllawiau Gwrthsafiad a pharch: Datblygu cydlyniant cymunedol Llywodraeth Cymru eu hadolygu yn ystod 2024.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 4.8 – Mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ‘Cysylltu Cymunedau: Strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach’ ar waith.

Diweddariad 2024

Roedd cyhoeddi ein strategaeth yn gam pwysig tuag at ffurfio cysylltiadau cymdeithasol cryfach yng Nghymru. Rydym yn parhau i wneud cynnydd da o ran rhoi'r strategaeth ar waith, ac rydym wedi gweithio gydag aelodau o'n Grŵp Cynghori ar Unigrwydd ac Ynysigrwydd er mwyn sicrhau ansawdd y gwaith cyflawni ac ystyried beth yn rhagor y gellir ei wneud

Gwnaeth ein Cronfa Unigrwydd ac Ynysigrwydd Cymdeithasol tair blynedd, Cysylltu Cymunedau, a lansiwyd ym mis Medi 2021, gefnogi ystod o sefydliadau rheng flaen lleol ar lawr gwlad, sy'n dod â phobl o bob oed ynghyd, gan eu helpu i ffurfio cysylltiadau cymdeithasol o fewn cymunedau a rhyngddynt. Ledled Cymru, mae gennym enghreifftiau niferus lle mae'r gronfa wedi cael ei defnyddio i wella llesiant a lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd.

Ar hyn o bryd, rydym wrthi'n ystyried pa gymorth ariannol pellach y gellir ei ddarparu er mwyn cefnogi'r agenda bwysig hon yn y dyfodol.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 4.9 - Darparu canllawiau i ymarferwyr ar ffrydio byw

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu, diweddaru a chyhoeddi ei chanllawiau Ffrydio byw a fideogynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu.

Diweddariad 2024

Er mwyn cefnogi ysgolion, rydym yn parhau i adolygu a diweddaru ein Yn ystod 2023, rydym wedi parhau i adolygu a diweddaru ein canllawiau ar Ffrydio byw a fideogynadledda: arferion ac egwyddorion diogelu. Mae'r rhain yn parhau i gael eu hadolygu er mwyn cefnogi'r canllawiau Parhad Dysgu. Drwy Wersi byw Hwb, gall ymarferwyr gyflwyno gwersi byw gan ddefnyddio Microsoft Teams a Google Meet. Caiff y tudalennau hyn eu hadolygu'n rheolaidd yn unol â diweddariadau a wneir gan Microsoft a Google.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 4.10 - Datblygu canllawiau ar rannu delweddau noeth a hanner noeth

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn hyrwyddo canllawiau 'Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc. Canllawiau i leoliadau addysg yng Nghymru'.

Diweddariad 2021

Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddwyd y canllawiau Rhannu delweddau noeth a hanner noeth: Ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc.

Bwriad y canllawiau yw cynorthwyo lleoliadau addysg i ddatblygu gweithdrefnau i ymateb i ddigwyddiadau sy’n ymwneud â rhannu delweddau noeth neu hanner noeth fel rhan o'u trefniadau diogelu. Dylid darllen y cyngor ochr yn ochr â chanllawiau statudol Llywodraeth Cymru, Cadw Dysgwyr yn Ddiogel.

Yn ogystal â'r canllawiau, datblygwyd Trosolwg i staff sy'n gweithio mewn lleoliadau addysg yng Nghymru sy’n rhoi arweiniad i bob ymarferydd ar sut i ymateb i ddigwyddiadau lle mae delweddau noeth a hanner noeth wedi’u rhannu.

Mae Canllaw i ymarferwyr ar ymateb i ddigwyddiadau o rannu delweddau noeth a hanner noeth hefyd wedi'i gyhoeddi ar gyfer ymarferwyr nad oes ganddynt gyfrifoldeb arweiniol dros ddiogelu ar sut i roi gwybod am ddigwyddiadau yn ogystal â chefnogi ac addysgu dysgwyr.

Ym mis Ionawr 2021, ar y cyd â SWGfL, cynhaliwyd gweminar i ymarferwyr er mwyn archwilio a deall y canllawiau ymhellach. Gellir ei gweld ar Hwb.

Er mwyn sefydlu’r canllawiau ymhellach, mae modiwl hyfforddi ar-lein ar gael (a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021) i gefnogi’r Person Diogelu Dynodedig ac uwch-reolwyr i sicrhau ymateb priodol a chymesur i ddigwyddiad.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 4.11 – Darparu canllawiau i ysgolion ar heriau niweidiol ar-lein a storïau celwydd

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn hyrwyddo canllawiau i ysgolion ar baratoi ar gyfer heriau niweidiol feirol ar-lein a storïau celwydd ac ymateb iddynt.

Diweddariad 2024

Rydym yn sicrhau ein bod yn effro i dueddiadau niweidiol ac yn gweithio gyda chydweithwyr diogelu i hyrwyddo'r canllawiau er mwyn helpu ysgolion i reoli digwyddiadau (megis heriau bwlio feirol).

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 4.12 – Darparu canllawiau i ysgolion o ran beio dioddefwyr

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ac yn hyrwyddo canllawiau i ysgolion i gefnogi gweithwyr proffesiynol i herio’r arfer o feio dioddefwyr. Mae i lawer o’r rhain elfennau ar-lein.

Diweddariad 2022

Yn ystod 2021-22 rydym wedi cyfrannu at ddatblygu canllawiau Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd o ran beio dioddefwyr, gan sicrhau eu bod yn berthnasol i Gymru. Bydd y canllawiau yn addas ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol rheng flaen sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc a byddant yn arbennig o berthnasol ar gyfer delio ag achosion o gam-drin ar-lein. Nod y canllawiau yw helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall, adnabod a herio agweddau sy’n beio’r dioddefwr o fewn eu lleoliadau. Dylai'r canllawiau fod ar gael ar Hwb yn ddiweddarach yn 2022.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 4.13 – Darparu canllawiau ar seibergadernid i ysgolion

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau i gefnogi ysgolion i ddeall a chynyddu seibergadernid.

Diweddariad 2024

Ar ôl cael cymeradwyaeth yr holl randdeiliaid, gan gynnwys awdurdod lleol Casnewydd a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, cyhoeddwyd Cynllun Ymateb Ysgolion i Ddigwyddiadau Seiber ym mis Medi 2024, ac mae'n parhau i gael ei hyrwyddo. Un o agweddau allweddol y cynllun ymateb i ddigwyddiadau seiber yw hyfforddiant i ysgolion sy'n cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â heddluoedd Cymru (Tarian ac Uned Troseddau Cyfundrefol Rhanbarthol Heddlu Gogledd Cymru).

Statws y cam gweithredu: Parhaus.