Neidio i'r prif gynnwy

Cydweithio â phartneriaid ledled y DU a sefydliadau eraill i gymryd camau ar y cyd i gyflawni ein nodau cyffredin.

Gweithredoedd a diweddariadau

Cam gweithredu 2.1 - Gweithio gyda Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU i helpu i ddarparu digwyddiadau diogelwch ar-lein, gan gynnwys y Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel blynyddol, sesiynau paratoi rhanddeiliaid a sesiynau gwybodaeth ‘Diogelwch Ar-lein yn Fyw’.

Diweddariad 2024

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Chanolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU (UKSIC) er mwyn hyrwyddo a chefnogi diogelwch ar-lein, yn enwedig gyda gweithgareddau Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel (gweler cam gweithredu 3.3).

Ym mis Mehefin 2024, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi UKSIC gyda chyfres o sesiynau briffio Online Safety Live yng Nghymru; mae'r sesiynau briffio hyn yn rhan o raglen genedlaethol ledled y DU.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.2 - Cyfrannu at Strategaeth Diogelwch ar y Rhyngrwyd y DU

Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Llywodraeth y DU i ddatblygu Strategaeth Diogelwch ar y Rhyngrwyd y DU a’r Papur Gwyn ‘Online Harms’.

Diweddariad 2024

Ers i'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein gael Cydsyniad Brenhinol y llynedd, rydym wrthi'n gweithio gydag Ofcom, fel y rheoleiddiwr ar gyfer diogelwch ar-lein yn y DU, ar yr hyn y mae'n ei olygu i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Rydym hefyd wedi cyfrannu at yr ymgyngoriadau cychwynnol a gynhaliwyd gan Ofcom ar y Ddeddf.

Rydym yn parhau i fonitro rheoliadau digidol ehangach y DU er mwyn asesu'r effaith i ysgolion yng Nghymru.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.3 - Cynrychioli Cymru ar Gyngor y DU ar gyfer Diogelwch Plant ar y Rhyngrwyd (UKCCIS)

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyfrannu at Fwrdd Gweithredol Cyngor y DU ar gyfer Diogelwch Plant ar y Rhyngrwyd (UKCCIS) er mwyn sicrhau bod Cymru yn cael ei chynrychioli ar lefel y DU.

Diweddariad 2024

Yng nghyfarfod diwethaf Gweithgor y System Rhybudd Cynnar (06.06.24), nodwyd na chafwyd unrhyw ddiweddariad gan y Gweinidog Addysg ynglŷn â'r cynnig i ailddechrau'r grŵp hwn. O ystyried y cyfnod cyn etholiad, ni ddisgwylir y bydd hyn yn newid yn y dyfodol agos.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.4 - Cefnogi’r Grwp Diogelu mewn Addysg Cenedlaethol

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r Grwp Diogelu mewn Addysg Cenedlaethol, gan ddwyn ynghyd arweinwyr awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i rannu arferion da a gwneud gwaith prosiect ym maes diogelu. Bydd swyddogion o Lywodraeth Cymru yn mynychu er mwyn cynrychioli rhaglen waith diogelwch ar-lein Hwb.

Diweddariad 2024

Rydym yn parhau i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf, a oedd yn cynnwys rhannu'r canlynol yn ystod 2024:

  • canllawiau diwygiedig ar ‘ymateb i achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth’

  • cyngor i leoliadau addysg ynghylch blacmel rhywiol

  • cyfleoedd hyfforddiant mewn perthynas â ‘deall aflonyddu rhywiol ar-lein’ canllawiau newydd ar ‘ymateb i faterion enw da ar-lein ac aflonyddu a gyfeirir at ysgolion a staff ysgol’

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.5 - Cydweithio â’r Grwp Cynghori ar Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh)

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio â’r Grwp Cynghori ar Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh), gan ystyried materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein, fel sy’n briodol. Bydd y Grwp Cynghori ar ABCh yn parhau i sicrhau ansawdd gwersi yn ymwneud ag ABCh pan fydd angen.

Diweddariad 2021

Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru, bydd y Grwp Cynghori ar ABCh yn esblygu i gefnogi'r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles, a bydd hyn yn cynnwys cefnogi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

Cam gweithredu 2.6 - Ymgorffori diogelwch ar-lein mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb

Bydd diogelwch ar-lein yn chwarae rôl allweddol mewn addysg cydberthynas a rhywioldeb yn y dyfodol yn dilyn argymhellion y Panel Arbenigol ar Addysg Rhyw a Pherthnasoedd ym mis Mawrth 2017.

Diweddariad 2023

Mae'r holl adnoddau ar Hwb yn cael eu hadolygu er mwyn sicrhau eu bod yn gyson â'r Cwricwlwm i Gymru, a'r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb lle y bo'n berthnasol.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.7 - Ymgorffori sgiliau cadernid yn y Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo’r defnydd o’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol drwy barhau i weithio gydag ysgolion i ymgorffori’r sgiliau digidol, yr wybodaeth a’r agweddau sydd eu hangen ym mhob rhan o’r cwricwlwm i ddiogelu dysgwyr ar-lein.

Diweddariad 2024

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £300,000 yn ystod blwyddyn ariannol 24/25 ar gyfer Technocamps (Prifysgol Abertawe). Mae'r rhaglen hon, y gellir manteisio arni ledled Cymru, yn cefnogi ymarferwyr a dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u hyder o ran defnyddio technoleg, gan ddefnyddio cyd-destun o'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, megis codio a meddwl cyfrifiadurol.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.8 - Hyrwyddo defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg ddigidol

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid drwy’r Grant Gwella Ysgolion Rhanbarthol er mwyn galluogi’r consortia rhanbarthol i hyrwyddo dinasyddiaeth ddigidol, a defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg ddigidol.

Diweddariad 2020

Darperir £1.5m o gyllid grant fel cymorth parhaus i’r consortia rhanbarthol ar gyfer Rhaglen Hwb am gyfnod o dair blynedd rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2022.

Mae’r pedwar consortiwm rhanbarthol yn parhau i gynnig amrywiaeth o ddewisiadau cymorth a chyfleoedd datblygu o dan y rhaglen.

Ym mis Ebrill 2020, rhoddwyd ail flwyddyn Cam 3 y grant ar waith drwy neilltuo £500k o gyllid. Disgwylir y bydd y consortia rhanbarthol yn defnyddio’r cyllid i barhau i gefnogi Rhaglen Hwb a mynd ati i hyrwyddo dinasyddiaeth ddigidol, a defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg ddigidol.

Statws y cam gweithredu: Ar y gweill.

Cam gweithredu 2.9 - Cefnogi Partneriaeth Diogelwch ar y Rhyngrwyd Cymru (WISP)

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at Bartneriaeth Diogelwch ar y Rhyngrwyd Cymru (WISP) er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglenni gwaith diogelwch ar-lein a thrafod materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein.

Diweddariad 2024

Mae Partneriaeth Diogelwch ar y Rhyngrwyd Cymru yn parhau i gyfarfod bob chwarter. Yn y cyfarfodydd, bydd cynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau sydd â diddordeb mewn diogelwch ar-lein i blant a phobl ifanc yn trafod eu blaenoriaethau, gweithgareddau ac unrhyw faterion o bwys sy'n berthnasol i'r grŵp. Mae'r wybodaeth hon yn cefnogi gwaith i ddatblygu ein blaenoriaethau ar gyfer cadernid digidol mewn addysg.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.10 - Gwella diogelwch ar-lein mewn lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS)

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried sut i gryfhau darpariaeth diogelwch ar-lein mewn lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion.

Diweddariad 2020

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i gyrff llywodraethu, pwyllgorau rheoli unedau cyfeirio disgyblion, a byrddau ac ymddiriedolwyr lleoliadau addysgol, gan gynnwys lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS), ynglyn â chadw’n ddiogel ar-lein.

Mae parth Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb ar gael i bob aelod o’r cyhoedd, gan sicrhau bod dysgwyr a’u rhieni a gofalwyr yn gallu manteisio ar y gyfres helaeth o adnoddau addysgol ar gadernid digidol sydd ar gael. Hefyd, yn ystod pandemig COVID-19, gwnaethom weithio gyda phartneriaid i lunio adnoddau penodol i gefnogi dysgu o bell ac, yn fwy diweddar, dysgu cyfunol.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 2.11 - Cefnogi ffyrdd o ddarparu cymorth iechyd meddwl mewn ysgolion

Bydd portffolios Iechyd ac Addysg Llywodraeth Cymru yn cyd-ariannu cynllun peilot i brofi’r mewngymorth iechyd meddwl a ddarperir gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) i ysgolion.

Diweddariad 2021

Cyhoeddwyd adroddiad gwerthuso llawn terfynol cynllun peilot mewngymorth ysgolion CAMHS ar 7 Mehefin. Mae Gweinidogion wedi sicrhau bod £5m ar gael yn y flwyddyn gyfredol ar gyfer cyflwyno'r cynlluniau peilot yn genedlaethol ac mae’r Byrddau Iechyd Lleol yn y broses o sefydlu a recriwtio i'r gwasanaethau newydd.

Cam gweithredu 2.12 - Ymgorffori diogelwch ar-lein o fewn Cwricwlwm i Gymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag Ysgolion Arloesi drwy’r meysydd dysgu a phrofiad perthnasol, gan gynnwys Iechyd a Lles, er mwyn sicrhau bod materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein yn llywio’r gwaith o ddatblygu’r fframwaith Cwricwlwm i Gymru.

Diweddariad 2020

Gwnaethom gyhoeddi canllawiau diwygiedig Cwricwlwm i Gymru ym mis Ionawr, ac maent yn adlewyrchu pwysigrwydd materion yn ymwneud â diogelwch ar-lein, yn enwedig ym Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles.

Byddwn yn parhau i weithio gydag ymarferwyr a rhanddeiliaid eraill i sicrhau y caiff ysgolion ac ymarferwyr eu cefnogi i wireddu’r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys yr agwedd hon.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 2.13 - Gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan yn 2019–20 mewn partneriaeth â’r heddlu. Mae diogelwch ar-lein yn faes a gwmpesir gan y rhaglen.

Diweddariad 2020

Cynhaliwyd adolygiad yr heddlu o’r rhaglen a chytunwyd y byddai’r cyllid yn parhau ar gyfer y rhaglen yn 2019–20. Rydym hefyd wedi cadarnhau y caiff y cyllid ar gyfer y rhaglen ei gynnal ar gyfer 2020–21.

Rydym wedi ymgynghori’n agos â Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan wrth ddatblygu’r canllawiau i leoliadau addysgol, sef Rhannu lluniau noeth a rhannol noeth: ymateb i ddigwyddiadau a diogelu plant a phobl ifanc (i’w cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2020). Mae hyn wedi sicrhau y caiff gwybodaeth a chyngor perthnasol eu cynnwys ar y rôl bwysig y gall Swyddogion Cymuned Ysgol yr Heddlu ei chwarae wrth gefnogi ysgolion i ddelio ag achosion o rannu lluniau noeth a rhannol noeth.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.14 - Hyrwyddo rhaglenni Cyber First yng Nghymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i hyrwyddo rhaglenni Cyber First yng Nghymru.

Diweddariad 2024

Mae'r NCSC yn datblygu dull gweithredu newydd i sicrhau y gall CyberFirst gynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael a manteisio i'r eithaf arnynt. Rydym yn parhau i ymgysylltu â'r NCSC er mwyn ystyried sut y bydd y dull gweithredu newydd hwn yn datblygu. Byddwn yn parhau i hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael fel rhan o raglen CyberFirst NCSC i ddysgwyr ledled Cymru drwy Hwb.

Cam gweithredu 2.15 - Gweithio gyda Get Safe Online

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Get Safe Online er mwyn sicrhau y caiff y wefan Gymraeg newydd ei lansio’n effeithiol.

Diweddariad 2024

Rydym yn parhau i gefnogi ymgyrchoedd Get Safe Online a chyhoeddi awgrymiadau arbenigol drwy Hwb. Mae'r bartneriaeth hon yn cyfrannu at ein rhaglen waith ehangach i godi ymwybyddiaeth o dwyll a sgamiau ar-lein.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.16 - Cydweithio â llywodraethau eraill

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r cenhedloedd datganoledig eraill a Llywodraeth y DU i rannu arferion da o ran diogelwch ar-lein ac ystyried cyfleoedd i gydweithredu.

Diweddariad 2024

Yn ystod 2024, rydym yn parhau i rannu diweddariadau a thrafod materion sy'n dod i'r amlwg gydag Internet Matters drwy gyfarfodydd gweithgor Defnyddwyr Agor i Niwed Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd (UKCIS). Gwnaeth hyn alluogi dull gweithredu ar y cyd i ddathlu Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024, gyda phobl ifanc o Gymru ac Iwerddon yn cydweithio mewn fideo lle gwnaethant rannu eu dyheadau ar gyfer diogelwch ar y rhyngrwyd.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.17 - Gweithio gyda Google a ParentZone

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Google a ParentZone i gefnogi eu rhaglen addysg ar ddiogelwch ar-lein.

Diweddariad 2021

Buom yn gweithio gyda Google a ParentZone i hwyluso'r gwaith o gyfieithu'r adnoddau Be Internet Legends i'r Gymraeg er mwyn eu cynnal ar Hwb a sicrhau eu bod ar gael i bob ysgol yng Nghymru.

Yn ystod 2020 fe wnaethom barhau i weithio gyda Google a ParentZone i hyrwyddo gweithdai i athrawon a gynlluniwyd i helpu ysgolion i ddeall diogelwch ar-lein ac ymateb i heriau yn ystod y pandemig a thu hwnt.

Ar hyn o bryd rydym yn gwneud gwaith cwmpasu cychwynnol o amgylch rhaglen addysg Be Internet Citizens, rhaglen addysg dinasyddiaeth ddigidol Google, sy'n cael ei chynnal mewn partneriaeth â'r Sefydliad Deialog Strategol.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd

Cam gweithredu 2.18 - Gwybodaeth a chyngor i gefnogi’r broses o ymateb i achosion o hunan-niwed a theimladau hunanladdol

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cael gafael ar wybodaeth a chyngor hygyrch er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r mater yn ymwneud â hunan-niwed a hunanladdiad.

Diweddariad 2020

Ym mis Medi 2019, gwnaethom gyhoeddi canllawiau i athrawon, gweithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr a gwasanaethau ieuenctid, sef Ymateb i faterion hunan-niweidio a theimladau hunanladdol ymhlith pobl ifanc. Mae’r canllawiau’n nodi camau ymarferol i’w cymryd os bydd rhywun yn hunan-niweidio. Er bod y canllawiau wedi’u hanelu at staff cyflogedig a staff nad ydynt yn gyflogedig, mae’n cynnig awgrymiadau ymarferol i’r teulu a ffrindiau.

Ym mis Mehefin 2020, gwnaethom lansio Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc ar Hwb, sy’n cyfeirio pobl ifanc 11 i 25 oed at amrywiaeth o adnoddau ar-lein a all eu helpu i ymdopi yn ystod cyfnod pandemig COVID-19, y cyfyngiadau symud a’r tu hwnt. Mae pob un o’r chwe adran yn cynnwys gwefannau, apiau, llinellau cymorth, a mwy, sy’n cefnogi iechyd meddwl a lles.

Mae’r pecyn cymorth yn darparu dolenni i wefannau fel Papyrus, sy’n ymwneud yn benodol ag atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc, ac Young Minds, sy’n cynnig cymorth iechyd meddwl. Mae hefyd yn cynnwys dolenni i ap Stay Active, sef adnodd atal hunanladdiad, ap distrACT, a ddatblygwyd i gefnogi pobl ifanc sy’n hunan-niweidio, ac adnoddau fel Heads Above The Waves, sy’n hyrwyddo ffyrdd cadarnhaol a chreadigol i bobl ifanc ddelio ag iselder a hunan-niwed.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 2.19 - Gweithio gyda’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i ystyried cyfleoedd i gydweithio er mwyn darparu addysg a chodi ymwybyddiaeth o achosion o gam-drin a cham-fanteisio ar blant ar-lein.

Diweddariad 2024

Rydym yn parhau i weithio gyda'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) i sicrhau bod gwybodaeth allweddol yn cael ei rhannu â rhanddeiliaid ar Hwb.

Ar 29 Ebrill 2024, rhannodd yr NCA rybudd prin yn ymwneud â'r cynnydd mewn achosion o flacmel rhywiol ag ysgogiad ariannol.

Yn ôl yr NCA, mae cyfran fawr o'r achosion yn ymwneud â phobl ifanc yn eu harddegau, a dioddefwyr gwrywaidd rhwng 14 a 18 oed yn aml. Er mwyn sicrhau bod ysgolion a lleoliadau addysg yng Nghymru yn ymwybodol o'r duedd frawychus hon, bu swyddogion yn gweithio gyda'r NCA i gydlynu'r gwaith o gyhoeddi a hyrwyddo'r rhybudd yng Nghymru drwy Hwb.

Rhannodd yr NCA yr adroddiad effaith a oedd yn dangos bod y rhybudd wedi cael ei lawrlwytho dros 22,500 o weithiau ledled y DU yn ystod y mis ar ôl cyhoeddi'r rhybudd.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.20 - Gweithio gyda’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati, drwy’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, i ddatblygu ‘Diogelu. Darganfod. Cysylltu’ fel brand ar gyfer adnoddau cydweithredol.

Diweddariad 2021

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda sector gwaith cynhwysiant digidol Cyngor Iwerddon Prydain i gefnogi Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel (SID) yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn wedi gweld cyfres o adnoddau, wedi'u hanelu at y rhai sy'n 16 oed a hŷn, gan ddefnyddio brandio 'Byddwch yn Ddiogel. cael eu cynnwys. "Byddwch yn gysylltiedig." Lansiwyd yr ffeithlun cyntaf, 'Byddwch yn Ddiogel', sy'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer defnyddio cyfrinair diogel a gwneud diweddariadau meddalwedd, ar SID 2020, gyda fersiwn ddwyieithog wedi'i chyfieithu gennym ni, ar gael i bob sefydliad yng Nghymru drwy ein Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru.

Lansiwyd yr ail ffeithlun, Be Included, ar SID 2021 ac mae'n darparu awgrymiadau syml ar gyfer dechrau arni yn y byd ar-lein. Lansiwyd y trydydd ffeithlun yn y sector gwaith cynhwysiant digidol Gweinidogol ddechrau mis Mawrth 2021, Byddwch yn Gysylltiedig, ac mae'n cynnwys ffyrdd defnyddiol o gysylltu, gwneud y gorau o'r byd ar-lein a thynnu sylw at y manteision sydd ar gael.

Yn y Gweinidog, cytunwyd i'r sector gwaith barhau i gydweithio ar themâu hyrwyddo diogelwch ar-lein a sgiliau digidol, a mynd i'r afael â chynhwysiant digidol ar draws y Gweinyddiaethau Aelod, gan barhau i rannu arfer gorau yn y meysydd hyn.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 2.21 - Cydweithio ar seiber ddiogelwch gyda diwydiant a’r byd academaidd

Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â diwydiant a’r byd academaidd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gweithlu seiber ddiogelwch i sicrhau y gellir ateb y galw am sgiliau ac y gall gweithwyr proffesiynol ym maes seiber ddiogelwch gael swyddi gwerth chweil yng Nghymru.

Diweddariad 2024

Mae meithrin cyflenwad o ddoniau seiber yn un o'r pedwar maes blaenoriaeth a nodir yn y Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru fel y gall Cymru ffynnu drwy seibergadernid, doniau ac arloesedd seiber.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Gweinidogion Cymru wedi cadeirio cyfres o drafodaethau bord gron â chynrychiolwyr o'r diwydiant, y byd academaidd, sgiliau a'r llywodraeth i helpu i ddatblygu Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru.

Un o'r pethau y mae'r trafodaethau hyn wedi canolbwyntio arno yw sut i ddenu, datblygu a chadw'r sgiliau seiber sydd eu hangen arnom yng Nghymru a chreu darlun o'r llwybrau i yrfa yn y diwydiant seiber, o oedran ysgol hyd at ailhyfforddi'r gweithlu. Mae hyn wedi arwain at gydweithio pellach dan arweiniad y diwydiant er mwyn ysgogi dull cydgysylltiedig o ddatblygu sgiliau seiber a gwneud y mwyaf o'r ffordd y mae'r diwydiant yn cefnogi'r byd academaidd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyd-ariannu'r Hyb Arloesedd Seiber ar y cyd â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Caiff ei arwain gan Brifysgol Caerdydd, gyda phartneriaid sy'n cynnwys Airbus, yr Alacrity Foundation, CGI, Thales, Tramshed Tech, a Phrifysgol De Cymru gyda'r nod o drawsnewid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn glwstwr seiber sy'n arwain y DU. Ers ei lansio yn 2023, mae wedi bod yn dod â phartneriaid o'r diwydiant, y llywodraeth a phartneriaid economaidd ynghyd mewn dull gweithredu cydgysylltiedig o ymdrin â sgiliau, arloesedd a chreu mentrau newydd.

Mae'n darparu ystod o raglenni hyfforddiant ymarferol sy'n canolbwyntio ar anghenion y diwydiant. Mae'r rhain yn cynnwys cyrsiau byr sy'n cwmpasu pynciau megis Seiberhylendid ac Ymwybyddiaeth, Seiberddiogelwch drwy Ddyluniad a Thechnoleg Weithredol, o lefel gyflwyniadol hyd at ymarferwyr uwch. Mae'r Hyb hefyd yn gweithio gyda Choleg Caerdydd a'r Fro i ddarparu cyfres o sesiynau dwys ar gyfer unigolion sy'n dymuno symud i'r sector seiber. Cynhaliwyd y cyntaf o'r rhain yng Nghasnewydd, a chaiff yr ail ei gynnal yng Nglyn Ebwy.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.22 - Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn eu helpu i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau diogelu data

Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r Rhwydwaith Swyddogion Diogelu Data Ysgolion Cymru Gyfan.

Diweddariad 2024

Rydym yn parhau i ymgysylltu'n rheolaidd â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a chynnig cymorth a chyngor mewn perthynas â Hwb drwy grwpiau rhanddeiliaid awdurdodau lleol perthnasol.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.23 - Cydweithio ag Internet Matters

Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu ag Internet Matters i ystyried cyfleoedd i gydweithio.

Diweddariad 2024

Rydym yn parhau i rannu diweddariadau a thrafod materion sy'n dod i'r amlwg gydag Internet Matters drwy gyfarfodydd gweithgor Defnyddwyr Agor i Niwed Cyngor y DU ar Ddiogelwch Plant ar y Rhyngrwyd (UKCIS). Cyflwynodd Internet Matters ei ymchwil ddiweddaraf fel rhan o'n Symposiwm Cadernid Digidol cyntaf ym mis Tachwedd 2024.

Yn ystod 2024, gwnaethom gydweithio ar brosiect i ddatblygu fideo ‘Beth yw AI?’ a chyngor ategol i blant a phobl ifanc, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2025.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.24 - Gweithio gyda’r Internet Watch Foundation (IWF)

Bydd Llywodraeth Cymru yn meithrin ei chydberthynas â’r Internet Watch Foundation (IWF), gan gefnogi darpariaeth diogelwch ar-lein yng Nghymru.

Diweddariad 2024

Y gwasanaeth hwn oedd y corff llywodraethol cyntaf i ddod yn aelod o Sefydliad Gwylio'r Rhyngrwyd (IWF), ac mae bellach yn rhan greiddiol o raglen Hwb ac adnewyddwyd ein haelodaeth ym mis Hydref 2024. Rydym yn ymrwymedig i gefnogi gwaith hollbwysig IWF i wneud y rhyngrwyd yn lle mwy diogel, drwy nodi a dileu delweddau ar-lein byd-eang o gam-drin plant yn rhywiol.

Rydym yn parhau i dynnu sylw at ymgyrchoedd IWF, gan gynnwys ymgyrch eleni sef Think before you share ac rydym yn defnyddio gwybodaeth ac ymchwil y sefydliad i lywio ein gwaith, yn enwedig mewn perthynas ag AI a blacmel rhywiol.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2:25 - Gweithio gyda’r Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol

Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol i lunio a datblygu llwybrau i ddysgwyr yng Nghymru ymuno â’r diwydiant seiber ddiogelwch a hyrwyddo gweithgareddau allgymorth gydag ysgolion.

Diweddariad 2024

Mae rhaglen allgymorth addysgol y Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol, mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru, wedi cyflwyno gweithgareddau'n ymwneud â seiberddiogelwch yn llwyddiannus mewn dros 200 o ysgolion a sefydliadau Addysg Bellach yn rhanbarth y de-ddwyrain, gan gynnwys nifer sylweddol o weithgareddau ymgysylltu mynych. Bwriedir i'r prosiect gael ei gwblhau ym mis Mai 2025 ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn adolygu'r dirwedd gyffredinol er mwyn penderfynu ar y camau nesaf mwyaf priodol.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2:26 - Cam gweithredu newydd – Gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i godi ymwybyddiaeth o faterion megis camwybodaeth ac iaith sy’n ennyn casineb ar-lein tuag at ferched a menywod.

Diweddariad 2024

Rydym yn parhau i ymgysylltu â Chymdeithas Bêl-droed Cymru a nodi dyddiadau allweddol (e.e. Diwrnod Rhyngwladol y Menywod) drwy gydol y flwyddyn er mwyn hyrwyddo mentrau ar y cyd.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.27 - Gweithio gyda Grwp System Rhybudd Cynnar Cyngor y DU ar Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd (UKCIS)

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymuno â Grwp System Rhybudd Cynnar Cyngor y DU ar Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd (UKCIS) ac yn cael ei chynrychioli arno.

Diweddariad 2024

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn aelod o weithgor Rhybudd Cynnar UKCIS sy'n cyfarfod bob mis. Mae cynrychiolwyr yn mynychu cyfarfodydd er mwyn clywed gan arbenigwyr mewn sectorau eraill am faterion yn ymwneud â diogelwch ar-lein a chadernid digidol sy'n dod i'r amlwg y gallai fod angen rhoi sylw iddynt neu weithredu yn eu cylch.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.28 - Gweithio gyda Gweithgor Defnyddwyr Agored i Niwed Cyngor y DU dros Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymuno â Gweithgor Defnyddwyr Agored i Niwed Cyngor y DU ar Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd (UKCIS) ac yn cael ei chynrychioli arno.

Diweddariad 2023

Ers mis Ebrill 2023, caiff y cyfarfodydd eu cynnal bob chwarter yn hytrach na bob mis, ond mae cyfle i rannu diweddariadau neu wybodaeth am brosiectau newydd ag aelodau'r grŵp mewn neges e-bost fisol a gaiff ei chydgysylltu gan Internet Matters.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.29 - Gweithio gyda Gweithgor Cadernid Digidol Cyngor y DU dros Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd (UKCIS)

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymuno â Gweithgor Cadernid Digidol Cyngor y DU ar Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd (UKCIS) ac yn cael ei chynrychioli arno.

Diweddariad 2024

Nid yw gweithgor Cadernid Digidol UKCIS wedi cael ei gynnull yn 2024, ond caiff gwaith ymgysylltu parhaus ag UKCIS ei ddatblygu drwy'r Gweithgor Rhybudd Cynnar. Cymerodd Cadeirydd UKCIS ran yn y Symposiwm Cadernid Digidol a gynhaliwyd gan y tîm Cadernid Digidol mewn Addysg (DRiE) ym mis Tachwedd 2023.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 2.30 - Gweithio gyda Gweithgor Addysg Cyngor y DU dros Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymuno â Gweithgor Addysg Cyngor y DU dros Ddiogelwch ar y Rhyngrwyd (UKCIS).

Diweddariad 2024

Rydym yn parhau i gynrychioli Llywodraeth Cymru ar weithgor Addysg UKCIS.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.