Neidio i'r prif gynnwy

Codi proffil diogelwch ar-lein i gyrraedd cynulleidfa eang ac atgyfnerthu pwysigrwydd defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel a chyfrifol.

Gweithredoedd a diweddariadau

Cam gweithredu 3.1 - Ymgysylltu â rhanddeiliaid ym maes addysg

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid ym maes addysg sy’n cynnwys ffocws ar ddiogelwch ar-lein.

Diweddariad 2024

Ym mis Chwefror 2024, cynhaliodd DRiE amrywiaeth o weminarau ar gyfer ymarferwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru er mwyn dathlu Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024. Roedd y gweminarau yn cynnwys diweddariadau gan Estyn, Childnet, SWGfL, Heddlu Gogledd Cymru ac Adobe. Yn ogystal, cynigiwyd gweminar i ymarferwyr i'w harwain drwy'r holl adnoddau Cadw'n Ddiogel Ar-lein.

Roedd gan Dîm Hwb stondin mewn digwyddiad chwarae gemau ar-lein a gynhaliwyd ar y cyd gan Undeb Rygbi Cymru i ddathlu Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024. Daeth dysgwyr ac ymarferwyr o ysgolion arbennig a cholegau yng Nghymru i'r digwyddiad hwn.

Ym mis Tachwedd 2024, gwnaethom ddwyn arbenigwyr mewn diogelwch ar-lein ynghyd unwaith eto i rannu eu hymchwil ddiweddaraf, eu gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a materion sy'n dod i'r amlwg. Eleni, Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU a roddodd y prif gyflwyniad ac yna cynhaliwyd trafodaeth bord gron gyda phawb a oedd yn bresennol.

Caiff y pwyntiau allweddol a godwyd yn y drafodaeth eu defnyddio i lywio ein rhaglen waith ar gyfer 2025 i 26.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 3.2 - Parth Cadw’n ddiogel ar-lein ar Hwb

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu parth diogelwch ar-lein deinameg ar Hwb, sy’n cynnwys ffynonellau newyddion, digwyddiadau ac adnoddau i blant, pobl ifanc, gweithwyr proffesiynol ym maes addysg, llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr mewn perthynas â diogelwch ar-lein.

Diweddariad 2024

Yn ystod 2024, gwnaethom gyhoeddi cyfres o fideos arloesol ar gadw'n ddiogel ar-lein er mwyn helpu ymarferwyr addysgol i ddatblygu eu dealltwriaeth o'r canlynol:

  • materion cadernid digidol sy'n dod i'r amlwg ac sydd â blaenoriaeth uchel i ysgolion (cymorth ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, rhannu delweddau noeth ac ymgysylltiad rhieni),

  • tueddiadau cyfredol yn ymddygiad plant a phobl ifanc ar-lein,

  • lle gallant gael ffynonellau cymorth pellach drwy adran Cadw'n Ddiogel Ar-lein Hwb a defnyddio hyn yn ymarferol wrth ymdrin â phroblemau.

Ym mis Ebrill 2024, gwnaethom ychwanegu dwy dudalen pwnc newydd at yr hafan Cadw'n Ddiogel Ar-lein, sef ‘blacmel rhywiol’ a ‘gwe-grafu’, er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r bygythiadau hyn sydd ar gynnydd a sicrhau y gall ysgolion gefnogi a diogelu dysgwyr yn briodol.

Ym mis Mehefin 2024, gwnaethom ychwanegu tudalen pwnc newydd ar ‘AI Cynhyrchiol’, sy'n cynnwys adnoddau, hyfforddiant a chanllawiau i gefnogi ysgolion a chymuned ehangach yr ysgol gyda'r cyfleoedd a'r heriau a gyflwynir gan adnoddau AI cynhyrchiol.

Rydym wedi parhau i ehangu ein nodwedd ‘Barn yr Arbenigwyr’, a chyhoeddwyd yr erthyglau canlynol yn ystod 2024:

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 3.3 - Cefnogi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yng Nghymru bob blwyddyn er mwyn codi proffil a phwysigrwydd diogelwch ar-lein ledled Cymru.

Diweddariad 2024

Er mwyn dathlu Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel ym mis Chwefror 2024, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfres o ddigwyddiadau ar-lein i ysgolion a dysgwyr er mwyn hybu diogelwch ar-lein.

Gwahoddwyd ysgolion i roi gwybod i ni beth roeddent yn ei wneud. Cafodd cyfraniadau eu cymedroli ac yna eu cyhoeddi ar ein tudalen i ddathlu Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2024.

I baratoi ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025, cefnogodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid gan Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU (UKSIC) yng Nghymru ym mis Tachwedd 2024.

Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i ymgysylltu ag ysgolion a phartneriaid diogelwch ar y rhyngrwyd i rannu'r thema nesaf ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, ac annog rhanddeiliaid i gynnal gweithgareddau ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a chymryd rhan ynddynt.

Mae UKSIC yn paratoi pecynnau gweithgareddau addysgol bob blwyddyn ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Caiff y gwaith o baratoi pecynnau dwyieithog i ysgolion Cymru ei gefnogi bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru, a chaiff y pecynnau dwyieithog eu lletya a'u hyrwyddo ar Hwb. Cafodd y pecynnau addysg ar gyfer 2025 eu cyhoeddi ar Hwb ym mis Tachwedd 2024.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag ysgolion ledled Cymru i greu cynnwys digidol er mwyn annog plant a phobl ifanc i amddiffyn eu hunain ac eraill rhag sgamiau ar-lein. Caiff y cynnwys hwn ei gyhoeddi ar Hwb ym mis Ionawr 2025 yn barod ar gyfer Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2025.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 3.4 - Ymgysylltu drwy’r cyfryngau cymdeithasol

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu a chodi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth helaeth o’r gweithgareddau diogelwch ar-lein sy’n digwydd ledled Cymru.

Diweddariad 2023

Rydym yn parhau i rannu gwybodaeth am yr amrywiaeth eang o gyfleoedd ac adnoddau sy'n ymwneud â diogelwch ar-lein, a chodi ymwybyddiaeth ohonynt, drwy ein sianeli cyfathrebu, cylchlythyrau a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 3.5 - Darparu’r newyddion diweddaraf ar ddiogelwch ar-lein

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda SWGfL i ddarparu cylchlythyr dwyieithog misol ar ddiogelwch ar-lein.

Diweddariad 2021

Yn ystod 2021, fe wnaethom barhau i gyhoeddi cylchlythyr dwyieithog misol ar ddiogelwch ar-lein ar Hwb. Roedd y cylchlythyr a luniwyd gan SWGfL yn rhoi crynodeb o'r newyddion, yr adnoddau a’r digwyddiadau diogelwch ar-lein diweddaraf, ac yn rhoi Diweddariad ar gyferau ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a gweithgareddau diogelwch ar-lein eraill.

Ym mis Mawrth 2021, daeth ein contract gyda SWGfL i ben, byddwn yn parhau i ddarparu Diweddariad ar gyfer dwyieithog bob hanner tymor gan roi crynodeb o'r newyddion, yr adnoddau a’r digwyddiadau cadernid digidol diweddaraf a fydd yn cael eu cyhoeddi yn yr ardal cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb.

Byddwn yn parhau i ddarparu Diweddariad ar gyferau ar gadernid digidol yn yr ardal cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb, gweler cam gweithredu 3.11.

Statws y cam gweithredu: Wedi cau.

Cam gweithredu 3.6 - Ymgyrchu yn erbyn rheolaeth drwy orfodaeth mewn cydberthnasau

Gan adeiladu ar ymgyrch ‘Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn’, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ymgyrch ar

Diweddariad 2020

Roedd ymgyrch gyfathrebu Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ‘Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn’ yn cynnwys cam dynodedig, ‘Dyw hyn ddim yn iawn’, wedi’i anelu at bobl ifanc sy’n dioddef rheolaeth drwy orfodaeth mewn cydberthnasau. Lansiwyd ‘Dyw hyn ddim yn iawn’ i gyd-daro ag Wythnos y Glas prifysgolion, gan dargedu pobl ifanc 19 i 21 oed, cyn mynd ati i rannu negeseuon wedi’u hanelu at bobl ifanc 16 i 18 oed. Datblygwyd negeseuon ar gyfer rhieni a gofalwyr a phobl eraill sy’n poeni, gan godi ymwybyddiaeth o’r arwyddion y gallant gadw golwg amdanynt.

Cafodd hysbysebion digidol yr ymgyrch eu harddangos dros dair miliwn o weithiau a chafodd fideos yr ymgyrch eu gwylio fwy na 200,000 o weithiau.

Gan gydnabod y gallai nifer yr achosion o drais a cham-drin gynyddu o ganlyniad i bandemig COVID-19, gwnaethom lansio ein hymgyrch ‘Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre’ ym mis Mai 2020. Ein nod yw sicrhau bod pob dioddefwr yn gwybod bod gwasanaethau ar gael o hyd, ac annog y rhai sy’n dyst i’r ymddygiadau hyn a phobl eraill sy’n poeni, i gael gafael ar help a gwybodaeth.

Ymgyrch aml-gyfrwng yw ‘Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre’ ac mae wedi’i rhannu ar draws sianeli teledu a radio, yn y newyddion a’r wasg genedlaethol a lleol, ar-lein, a thrwy rwydweithiau cymunedol fel fferyllfeydd, archfarchnadoedd lleol a heddluoedd, gan gyrraedd y gynulleidfa ehangaf a’r nifer mwyaf o bobl agored i niwed.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd (gweler y camau gweithredu newydd).

Cam gweithredu 3.7 - Ymgysylltu â’r sector gwaith ieuenctid

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â’r sector gwaith ieuenctid i sicrhau bod adnoddau priodol ar gael ar ddiogelwch ar-lein, a’u bod yn cael eu hyrwyddo.

Diweddariad 2024

Roedd adroddiad terfynol y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021, yn cynnwys 14 o argymhellion er mwyn sicrhau model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid. Mae Bwrdd Gweithredu'r Strategaeth Gwaith Ieuenctid, a benodwyd yn ystod hydref 2022, yn rhoi cyngor ar ddatblygu’r argymhellion hyn, sy'n cynnwys argymhelliad i sefydlu cyfnewidfa gwybodaeth ieuenctid er mwyn ei gwneud yn haws i bobl ifanc gael gwybod beth sydd ar gael iddynt yn eu hardal leol, ac argymhelliad i ddatblygu cynllun hawliau pobl ifanc.

Mae Grŵp Cyfranogiad Gwybodaeth Ieuenctid a Gweithredu Digidol, sydd â chynrychiolaeth o amrywiaeth o bartneriaid, yn parhau i gynnig cyngor, arbenigedd a her a gweithio ochr yn ochr â'r Bwrdd ar yr argymhellion hyn. Mae diogelwch ar-lein yn ystyriaeth allweddol yn y gwaith hwn, yn ogystal â rôl gwaith ieuenctid digidol mewn cynigion sy'n cael eu datblygu i gryfhau'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid.

Yn ogystal â'r gwaith datblygu tymor hwy hwn, rydym wedi parhau i rannu a hyrwyddo ffynonellau gwybodaeth a chymorth ar ddiogelwch ar-lein drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol a'r cylchlythyr Gwaith Ieuenctid a gyhoeddir bob tymor i ymarferwyr gwaith ieuenctid a phartïon eraill â diddordeb er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelwch ar-lein o fewn gwaith ieuenctid.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 3.8 - Cefnogi gweithgareddau addysg yn CYBERUK

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i gefnogi a datblygu gweithgareddau addysg i’w cynnwys yn Rhaglen CYBERUK 2021.

Diweddariad 2022

Cynhaliwyd Cyber UK 2022 ar 10 a 11 Mai 2022 yng ngwesty'r Celtic Manor yng Nghasnewydd. Fel rhan o Cyber UK 2022 buom yn gweithio gyda'r NCSC a phartneriaid eraill gan gynnwys Thales ar ddatblygu rhaglen allgymorth i ysgolion. Gwahoddwyd dysgwyr i ddod i’r digwyddiad a darparwyd taith o amgylch neuadd arddangos Cyber UK 2022 a chyfle i ymweld â stondinau yn cynnwys AWS, CyberFirst, Palo Alto, Siemens a Fortinet. Cafodd y dysgwyr hefyd gymryd rhan mewn cyfres o gemau seiber, gan gynnwys ystafell ddianc, pos cryptograffeg, her codio a fforenseg ddigidol. Cafodd y dysgwyr hefyd gyfle i glywed gan banel a oedd yn cynnwys prentisiaid o Thales yn trafod eu taith i yrfa ym maes seiberddiogelwch.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 3.9 - Datblygu ymgyrch ymwybyddiaeth o we-rwydo

Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu ymgyrch i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r risg o we-rwydo er mwyn cefnogi rhanddeiliaid addysg yng Nghymru.

Diweddariad 2022

Ym mis Hydref 2022 cyhoeddwyd yr ymgyrch ynghylch gwe-rwydo 'Paid â chael dy ddal' ar gyfer ymarferwyr, dysgwyr a'u teuluoedd. Byddwn yn parhau i hyrwyddo hyn drwy gydol 2022 a 2023, trwy ein sianeli cyfathrebu.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 3.10 - Ymgyrchu yn erbyn rheolaeth drwy orfodaeth mewn cydberthnasau

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adeiladu ar ymgyrch ‘Nid cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn’, a’i datblygu.

Diweddariad 2021

Gwnaethom barhau i adeiladu a datblygu'r ymgyrchoedd 'Ddylai Neb fod yn Ofnus Gartref', 'Paid Cadw’n Dawel' a 'Nid Cariad yw hyn. Rheolaeth yw hyn’ dros y 18 mis diwethaf. Gan gydnabod y potensial ar gyfer cynnydd mewn trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) o ganlyniad i bandemig COVID-19, lansiwyd yr ymgyrch gennym fel bod dioddefwyr yn gwybod bod gwasanaethau'n dal i weithredu ac yn cynnig cymorth, ac i annog pobl eraill bryderus i gael gafael ar gymorth a gwybodaeth.

Drwy gydol yr ymgyrch hyd yma, mae sianeli digidol (Facebook, Twitter, Google, Snapchat, LinkedIn) wedi cyrraedd bron i 19,000,000 o ddefnyddwyr. Mae’n bosibl bod y cyfryngau cenedlaethol (cyfryngau teledu, radio ac argraffu) wedi cyrraedd dros 24,200,000 o ddefnyddwyr. Cafwyd dros 20,800 o ymweliadau â gwefan Byw Heb Ofn yn ystod yr ymgyrch.

Ymgyrch aml-gyfrwng yw 'Ddylai neb deimlo'n ofnus gartre', ac mae wedi'i rhannu ar draws sianeli teledu a radio, yn y newyddion a'r wasg genedlaethol a lleol, ar-lein, a thrwy rwydweithiau cymunedol fel fferyllfeydd, archfarchnadoedd lleol a heddluoedd.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 3.11 - Darparu Diweddariad ar gyferau rheolaidd ar gadernid digidol

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Diweddariad ar gyferau bob hanner tymor ar y newyddion, yr adnoddau a’r digwyddiadau cadernid digidol diweddaraf.

Diweddariad 2024

Yn ystod 2023 i 2024 rydym wedi cyhoeddi Diweddariad ar gyferau bob hanner tymor yn yr ardal Cadw'n ddiogel ar-lein ar Hwb i gefnogi ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol gyda'r newyddion, yr adnoddau a’r digwyddiadau cadernid digidol diweddaraf. Mae’r rhain ar gael yn ardal newyddion Hwb.

Diweddariad diwedd tymor ar ddiogelwch ar-lein: Mawrth 2024

Diweddariad diwedd tymor ar ddiogelwch ar-lein: Gorffennaf 2024

Diweddariad diwedd tymor ar ddiogelwch ar-lein: Rhagfyr 2024

Statws y cam gweithredu: Parhaus.