Neidio i'r prif gynnwy

Darparu gwybodaeth i blant a phobl ifanc, ymarferwyr addysg, gweithwyr proffesiynol ym maes addysg, rhieni a gofalwyr er mwyn hyrwyddo diogelwch ar-lein i bobl ifanc.

Gweithredoedd a diweddariadau

Cam gweithredu 1.1 - Datblygu canllawiau dwyieithog i deuluoedd

Er mwyn cydnabod cyfraniad pwysig rhieni a gofalwyr at gadw eu plant yn ddiogel ar-lein, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu canllawiau dwyieithog ar faterion diogelwch ar-lein amrywiol er mwyn eu helpu i gadw eu teuluoedd yn ddiogel ar-lein.

Diweddariad 2024

Yn ystod 2024, rydym wedi parhau i gyhoeddi canllawiau er mwyn helpu teuluoedd i gadw eu plant yn ddiogel ar-lein:

Cafodd y canllawiau ynghylch apiau i deuluoedd eu diweddaru ym mis Mawrth a mis Rhagfyr 2024 i gynnwys nodweddion a gosodiadau preifatrwydd newydd sydd ar gael yn yr apiau.

Ym mis Ionawr 2025, gwnaethom gyhoeddi ‘AI cynhyrchiol: canllaw i rieni a gofalwyr’ sef canllaw newydd â gwybodaeth am y ffordd y mae AI cynhyrchiol yn cael ei integreiddio'n fwyfwy mewn dyfeisiau clyfar, gan dynnu sylw at y risgiau posibl sy'n gysylltiedig ag apiau sy'n boblogaidd ymhlith plant a phobl ifanc.

Cam gweithredu 1.2 - Rhannu awgrymiadau a chyngor i rieni a gofalwyr

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i rannu awgrymiadau a chyngor rheolaidd â rhieni a gofalwyr ynglyn â defnyddio amser o flaen sgrin yn ddiogel drwy wefan a thudalennau Facebook ein hymgyrch ‘Magu Plant. Rhowch amser iddo.’.

Diweddariad 2024

Mae ymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo yn dal i fynd rhagddi, gan gynnig awgrymiadau a chyngor arbenigol i rieni sydd â phlant hyd at 18 oed. Mae rhai o adnoddau Magu plant. Rhowch amser iddo wedi cael eu hadolygu a'u diweddaru ac maent wedi cael eu lanlwytho yn ôl ar y wefan ddwyieithog benodedig. Cafodd ymgyrch newydd gan Lywodraeth Cymru, Teulu Cymru, ei lansio ym mis Ebrill ’24, gan ddwyn ynghyd gyngor a chymorth i deuluoedd a rhieni. Mae postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, o dan ymgyrch Teulu Cymru, yn parhau i ganolbwyntio ar gefnogi ymddygiad plant (gan gysylltu ag opsiynau eraill yn lle cosbi corfforol), pwysigrwydd arferion rheolaidd a hyrwyddo manteision amser iach o flaen sgrin, ac maent yn hyrwyddo adnodd diogelwch ar-lein Hwb yn rheolaidd i rieni a theuluoedd.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 1.3 - Datblygu canllawiau dwyieithog i lywodraethwyr

Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn darparu canllawiau ac adnoddau dwyieithog ar ddiogelwch ar-lein i lywodraethwyr ysgolion er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth bellach o faterion diogelwch ar-lein a’u helpu i gyflawni eu cyfrifoldeb i gadw dysgwyr yn eu hysgolion yn ddiogel ar-lein.

Diweddariad 2024

Ym mis Mawrth 2024, gyda chymorth Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, gwnaethom gyhoeddi canllawiau anstatudol newydd Arferion ac egwyddorion i ysgolion ar gyfer defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol er mwyn cefnogi ysgolion, eu cyrff llywodraethu a lleoliadau addysg i ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel ac yn gyfrifol.

I ategu hyn, cyhoeddwyd fideo 10 munud ar Hwb gyda'r nod o helpu ysgolion i ddatblygu polisïau ac arferion a deall tueddiadau cyfredol o ran ymddygiad plant a phobl ifanc ar-lein a ble i ddod o hyd i ffynonellau cymorth pellach drwy adran Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb.

Ym mis Medi 2024, gwnaethom gyhoeddi dwy ddogfen ganllaw bellach.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam Gweithredu 1.4 – Datblygu cyngor i blant a phobl ifanc

Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cyngor a gwybodaeth newydd wedi'u teilwra i gefnogi plant a phobl ifanc yn uniongyrchol gyda phroblemau a phryderon ar-lein. Bydd yn cael ei gyd-awduro gyda phobl ifanc a'i gyhoeddi mewn ardal bwrpasol newydd ar Hwb.

Diweddariad 2024

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi plant a phobl ifanc drwy ddarparu gwybodaeth a chanllawiau i'w helpu gyda phroblemau a phryderon ar-lein yn. Ym mis Gorffennaf 2023, cafodd y casgliad presennol o ganllawiau ynghylch Problemau a phryderon ar-lein ei ddiweddaru a'i ehangu i 19 o ganllawiau sy'n cwmpasu ystod eang o bynciau sy'n ymwneud â diogelwch ar-lein. Mae'r canllawiau hyn wedi cael eu creu ar y cyd â phobl ifanc drwy gyfres o sesiynau ymgysylltu. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal y canllawiau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cynnwys y cyngor a'r canllawiau diweddaraf. Ym mis Ionawr 2024, ehangwyd y maes i gynnwys 20 o ganllawiau, ac ychwanegwyd canllaw a fideo ychwanegol ar AI Cynhyrchiol at y casgliad.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam Gweithredu 1.5 – Sefydlu panel cynghori plant a phobl ifanc ar gyfer cadernid digidol

Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu panel cynghori newydd ar blant a phobl ifanc i sicrhau bod llais y dysgwr yn cael ei gynrychioli ac yn llywio gwybodaeth, cyngor a chyfeiriad polisi yn y dyfodol.

Diweddariad 2024

Mae Grŵp Ieuenctid Cadw'n Ddiogel Ar-lein yn parhau i roi safbwynt gwerthfawr i'n gwaith sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc. Mae iteriad newydd o'r grŵp wedi cael ei sefydlu a chynhaliwyd ei gyfarfod cyntaf yn ystod tymor yr hydref. Mae'r grŵp yn parhau i ddarparu gwybodaeth amhrisiadwy sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc, gan gyfrannu at ein gwaith a rhoi cyfle uniongyrchol i ni glywed eu profiadau bywyd o ymdrin â'r byd digidol.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.