Neidio i'r prif gynnwy

Darparu hyfforddiant perthnasol i ymarferwyr addysg, gweithwyr proffesiynol ym maes addysg, ysgolion a phartneriaid eraill i gefnogi’r gwaith o ddarparu addysg ar ddiogelwch ar-lein i blant a phobl ifanc.

Gweithredoedd a diweddariadau

Cam gweithredu 7.1 – Darparu hyfforddiant ar ddiogelwch ar-lein

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu rhaglen hyfforddi gynhwysfawr ar ddiogelwch ar-lein, gan ganolbwyntio ar feysydd penodol yn ymwneud â diogelwch ar-lein.

Diweddariad 2024

Yn ystod tymor yr hydref 2024, gwnaethom ychwanegu modiwlau hyfforddiant ar-lein newydd er mwyn cefnogi ymarferwyr addysg gyda materion pwysig sy'n ymwneud â diogelwch ar-lein, gan gynnwys:

  • y cyfryngau cymdeithasol: mae'r fideo yn tynnu sylw at ganllawiau perthnasol i helpu ysgolion gynllunio eu dull o ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd ddiogel, broffesiynol a chadarnhaol fel rhan o brosesau cyfathrebu'r ysgol yn ogystal â thueddiadau cyfredol o ran ymddygiad plant a phobl ifanc ar-lein a ble i ddod o hyd i ffynonellau cymorth pellach drwy adran Cadw'n ddiogel ar-lein Hwb

  • rhannu delweddau noeth: mae'r fideo yn tynnu sylw at ganllawiau perthnasol i helpu i ddatblygu polisïau ac arferion ysgolion, tueddiadau cyfredol o ran rhannu delweddau a phryderon ynghylch diogelwch (gan gynnwys blacmel rhywiol a chyfryngau a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial) a chyngor cyfrinachol a gwasanaethau adrodd sydd ar gael

Gan adeiladu ar yr hyfforddiant i ysgolion a gyflwynwyd yn ystod 2022-23 ac yn dilyn canfyddiadau Estyn ynghylch aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn colegau Addysg Bellach, ym mis Chwefror 2024 gwnaethom weithio gyda Childnet i ddarparu dwy sesiwn hyfforddiant ychwanegol.

Cynlluniwyd yr hyfforddiant ar gyfer ysgolion a cholegau yng Nghymru er mwyn helpu staff i ddeall, atal ac ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein yn eu lleoliad.

Drwy ein partneriaeth gyda Common Sense Education, gwnaethom gyhoeddi modiwl hyfforddi ar-lein ar sylfeini AI ym mis Ionawr 2025 sy'n ystyried beth yw AI cynhyrchiol, sut y gallai effeithio ar addysg a sut i helpu dysgwyr i'w ddefnyddio mewn ffordd ddiogel a chyfrifol.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 7.2 – Hyrwyddo modiwlau hyfforddi ar ddiogelwch ar-lein

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo’r modiwlau 'Cadw dysgwyr yn ddiogel – Diogelwch ar-lein'.

Diweddariad 2024

Yn ystod 2024, rydym wedi parhau i adolygu a hyrwyddo'r modiwlau hyfforddiant ar gadw dysgwyr yn ddiogel sydd ar gael drwy Cadw'n Ddiogel Ar-lein. Hyd yma, mae'r modiwlau wedi cael eu gweld dros 109,000 o weithiau.

Yn ystod 2025, byddwn yn archwilio cyfleoedd i ehangu'r modiwlau hyfforddiant ar ddiogelu ymhellach er mwyn cefnogi ysgolion yng Nghymru.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 7.3 – Cefnogi cynhwysiant digidol

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod diogelwch ar-lein yn parhau i fod yn rhan allweddol o’r oll weithgarwch yn ymwneud â chynhwysiant digidol.

Diweddariad 2024

Mae bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein yn un o'r pum sgìl digidol sylfaenol cydnabyddedig sydd eu hangen ar bob dinesydd er mwyn ymwneud â'r byd digidol yn ddiogel ac yn hyderus. Mae'r rhaglen rydym wedi'i chaffael, sef Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant (DCW), yn rhoi hyfforddiant a chymorth i sefydliadau ym mhob sector yng Nghymru sy'n gallu cyrraedd pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, gan gynnwys mewn perthynas â diogelwch ar-lein. Ers mis Gorffennaf 2019, amcangyfrifir bod DCW wedi helpu 162,500 o ddinasyddion i feithrin y cymhelliant a'r hyder i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel ac yn effeithiol. Caiff y rhaglen ei chynnal tan 30 Mehefin 2025.

Dull o roi hyfforddiant ar gynhwysiant digidol a oedd yn pontio'r cenedlaethau oedd menter Arwyr Digidol, ac ymgysylltodd DCW ag ysgolion a cholegau a'u helpu i hyfforddi pobl ifanc, gan eu galluogi i wirfoddoli i gefnogi pobl yn y gymuned gyda hanfodion defnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel. Daeth Arwyr Digidol, fel rhan o DCW, i ben ym mis Mawrth 2024.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 7.4 – Cydweithio ar faterion yn ymwneud â gwrthderfysgaeth

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ddarparu deunydd hyfforddi a chymorth ar faterion yn ymwneud â gwrthderfysgaeth.Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ddarparu deunydd hyfforddi a chymorth ar faterion yn ymwneud â gwrthderfysgaeth.

Diweddariad 2023

Er gwaetha’r ffaith bod polisi gwrthderfysgaeth yn fater sydd heb ei ddatganoli, rydym yn parhau i gydweithio’n agos â Thîm Prevent y DU a Phlismona Gwrthderfysgaeth Cymru i gefnogi ein sectorau yng Nghymru i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015. Mae yna dri modiwl hyfforddi Prevent ar-lein sydd wedi’u diweddaru, pob un ar gael yn Gymraeg. Gallwch lawrlwytho fersiynau Cymraeg o’r cwrs hyfforddi a gweld fideos â thrawsgrifiadau Cymraeg. Rydym yn parhau i weithio gyda chydswyddogion yn Llywodraeth y DU i sicrhau bod yr holl ddeunyddiau hyfforddi, y gefnogaeth a’r canllawiau ar gael yn ddwyieithog.

Cwrs Ymwybyddiaeth Prevent

Cwrs rhagarweiniol yw cwrs Ymwybyddiaeth Prevent i unrhyw un sy’n newydd i Prevent, a’r rhai sydd ddim yn siwr beth yw Prevent a pha arwyddion i chwilio amdanynt o ran radicaleiddio. Y cwrs Ymwybyddiaeth yw cwrs cyntaf ein hyfforddiant ar ddyletswydd Prevent.

Mae’n gwrs i unrhyw un sy’n gweithio gyda’r cyhoedd yn rheolaidd, er enghraifft y rhai sy’n gweithio ym meysydd addysg, iechyd, y gwasanaeth prawf, yr heddlu a’r awdurdodau lleol. Gall aelodau o’r cyhoedd sydd am ddysgu mwy am sut i adnabod arwyddion sy’n peri pryder hefyd ddilyn y cwrs.

Cwrs Atgyfeiriadau Prevent

Lluniwyd y cwrs Atgyfeiriadau ar gyfer Arweinwyr Diogelu Dynodedig yn bennaf, gweithwyr proffesiynol Prevent neu rolau cyfatebol sy’n gwneud atgyfeiriadau Prevent. Os yw’r cyfrifoldeb hwnnw yn rhan o’ch rôl, beth bynnag yw teitl eich swydd, mae’r cwrs hwn i chi.

Mae’n gwrs hefyd i unrhyw un a allai fod angen gwneud atgyfeiriad Prevent, a’r rhai sy’n gweld rhywbeth sy’n peri pryder ac sy’n ei rannu ag Arweinydd Diogelu Dynodedig neu unigolyn cyfatebol, er mwyn gallu atgyfeirio’r achos i’r heddlu.

Cwrs Channel

Rhaglen amlasiantaethol yw Channel sy’n gweithredu ar draws Cymru a Lloegr, sy’n cynnig cymorth i unrhyw un sy’n agored i gael ei dynnu i mewn i derfysgaeth neu i’w chefnogi. Mae’r cwrs hwn i aelodau panel Channel, Cadeiryddion panel Channel mewn awdurdodau lleol, ac unrhyw un y gofynnir iddynt gyfrannu at banel Channel neu eistedd ar banel Channel.

Mae Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru yn cydweithio’n agos â’n harweinwyr ar y canlynol.

  • Adnoddau sy’n gysylltiedig â Getting On Together (GOT) – gan gysylltu o bryd i’w gilydd â phrosiect GOT wrth roi mewnbwn i athrawon ac ati ar brosesau atgyfeirio ynghylch bygythiadau/risgiau.

    Mae gan Brosiect GOT Project fodiwlau a ddefnyddir mewn ysgolion mewn nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae yna fodiwlau i ddysgwyr uwchradd ac i ddysgwyr o dan 11. Mae yna ddolen Ewropeaidd hefyd drwy ddolenni a gyllidir gan Erasmus.

  • Mewnbwn ynghylch eithafiaeth gan swyddogion SchoolBeat – mae yna 65 o swyddogion SchoolBeat ledled Cymru sydd eisoes yn gweithio fel unigolion cyswllt i ysgolion o ran yr agenda hon, ac mae modiwl newydd ar y gweill sy’n cynnwys ffilmio ‘golygfa’ i gyflwyno’r pwnc.

  • Gorgyffwrdd â mewnbwn ynghylch cydlyniant/troseddau casineb – oherwydd natur drawsbynciol yr agenda, mae gwaith Prevent yn cysylltu â mewnbwn a ddarperir drwy rai sefydliadau anllywodraethol, ee Dangos y cerdyn coch i hiliaeth, a’r agenda ddiogelu ehangach (yn cysylltu â diogelwch ar-lein ac ati).

  • Ysgolion Caerdydd – Caerdydd yw unig ardal flaenoriaeth Prevent y Swyddfa Gartref yng Nghymru, ac mae’n cael cyllid fellyl ar gyfer cydlynydd Prevent.

  • Mentrau sy’n datblygu – Mae ein cydweithwyr wedi helpu gyda briffiadau Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru i Brif Weinidog Cymru ynghylch yr agenda hon. Bydd Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru yn parhau i gefnogi ein partneriaid drwy ddarparu gwybodaeth wrth iddynt geisio datblygu/gwella’r ffordd y mae dysgu yn digwydd o ran agenda Prevent a diogelu.

  • Cyfnodau clo ysgolion – Yn aml mae agenda elfennau amddiffyn/paratoi yn gorgyffwrdd â Prevent a’r ystyriaeth ynghylch cyfnodau clo ysgolion a threfniadau adrodd.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 7.5 – Datblygu hyfforddiant ar seiber gadernid i ymarferwyr addysg

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i ddatblygu pecyn hyfforddi ar-lein ar seiber gadernid ar gyfer rhanddeiliaid addysg yng Nghymru.

Diweddariad 2023

Ym mis Mawrth 2023, gwnaethom gyhoeddi'r modiwl ar-lein Hyfforddiant ar godi ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch i staff ysgolion. Nod yr hyfforddiant yw helpu staff ysgolion i wella seibergadernid eu hysgolion. Byddwn yn parhau i hyrwyddo'r hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ohono ymhlith holl staff ysgolion yng Nghymru.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 7.6 – Hyfforddiant er mwyn cydnabod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV)

ydd Llywodraeth Cymru yn parhau i hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau addysg, i nodi achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV), ac ymateb iddynt.

Diweddariad 2024

Yn 2023, yn unol â'r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ehangu'r broses Gofyn a Gweithredu ac i gydnabod pwysigrwydd hyfforddiant er mwyn atal pob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV), cyhoeddodd swyddogion wybodaeth ategol er mwyn cyflwyno proses Gofyn a Gweithredu i awdurdodau ychwanegol. Bydd gwaith monitro yn mynd rhagddo, gan fesur faint sy'n manteisio ar yr hyfforddiant ac effaith y gwaith ehangu hwn.

Eleni bydd swyddogion yn adolygu canllawiau statudol y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar gyfer VAWDASV, sy'n cynnwys canllawiau ar y broses Gofyn a Gweithredu. Bydd yr adolygiad yn cynnwys ystyried y fethodoleg ar gyfer mesur effaith y rhaglenni hyfforddiant.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 7.7 - Datblygu hyfforddiant i gefnogi ysgolion gydag achosion o rannu delweddau noeth

Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn hyrwyddo modiwl hyfforddi ar-lein i gefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau addysg i ddatblygu a gweithredu gweithdrefnau effeithiol i ymdrin ag achosion o rannu delweddau noeth a hanner noeth.

Diweddariad 2023

Ym mis Medi 2022, gwnaethom adolygu a diweddaru'r canllawiau ar ‘Ymateb i achosion o rannu lluniau noeth’ a rhannu'r fersiwn wedi'i diweddaru, sydd bellach ar gael mewn fformat html, ochr yn ochr â'r modiwl hyfforddiant i rwydweithiau perthnasol, gan gynnwys SEG. Rydym hefyd wedi cyfeirio pobl at yr hyfforddiant hwn o'r hyfforddiant ar aflonyddu rhywiol ar-lein a gyflwynwyd yn ystod 2022-23 er mwyn helpu ysgolion i ymateb mewn ffordd gydlynus wrth ymdrin ag achosion o rannu lluniau noeth yn ogystal â mathau eraill o ymddygiad camdriniol ar-lein.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 7.8 – Darparu hyfforddiant ar seibergadernid i arweinwyr ysgolion

Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag Uned Tarian i ddarparu hyfforddiant trochi i arweinwyr ysgolion i'w cefnogi i ymateb i seiberddigwyddiadau a datblygu eu cynlluniau ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau.

Diweddariad 2024

Rydym yn darparu hyfforddiant ar ymateb i ddigwyddiadau seiber mewn ysgolion gydag Unedau Troseddau Cyfundrefol Rhanbarthol Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu De Cymru er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant yn cwmpasu Cymru gyfan. Mae wyth sesiwn hyfforddiant wedi'u trefnu rhwng mis Tachwedd 2024 a mis Gorffennaf 2025, ac mae dwy wedi'u cynnal hyd yn hyn.

Rydym hefyd yn gweithio gyda'r Unedau Troseddau Cyfundrefol Rhanbarthol i hwyluso hyfforddiant Dewisiadau Seiber i ymarferwyr ledled Cymru drwy Hwb rhwng mis Hydref 2024 a mis Ionawr 2025.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 7.9 - Datblygu hyfforddiant i gefnogi ysgolion gyda phroblem aflonyddu rhywiol ar-lein

Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu pecyn hyfforddi i gefnogi ysgolion gyda phroblem aflonyddu rhywiol ar-lein.

Diweddariad 2023

Yn ystod mis Hydref 2022, gwnaethom dreialu'r hyfforddiant ar ‘ddeall, atal ac ymateb’ ym maes aflonyddu rhywiol ar-lein ar gyfer Personau Diogelu Dynodedig gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys swyddogion arweiniol diogelu awdurdodau lleol.

Gwnaethom fireinio'r hyfforddiant a'r deunyddiau ategol ar ôl cael adborth, a rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth 2023 bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Childnet, sy'n arbenigwyr blaenllaw ym maes diogelwch ar-lein, i roi hyfforddiant ymarferol i bobl sy'n cyflawni rôl Person Diogelu Dynodedig mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru er mwyn eu helpu i ddeall y mater yn well a sicrhau ymateb effeithiol i achosion o aflonyddu rhywiol ar-lein pan fyddant yn digwydd.

Mae modiwl hyfforddiant ar-lein, sydd wedi'i fwriadu ar gyfer ymarferwyr addysg mewn ysgolion uwchradd, hefyd ar gael drwy ein hardal hyfforddiant Cadw'n Ddiogel Ar-lein ar Hwb. Mae'r hyfforddiant yn rhannu canfyddiadau allweddol o adroddiad Estyn ac yn tynnu sylw at ganllawiau ac adnoddau perthnasol er mwyn helpu holl staff ysgolion i ddeall yn well sut i gefnogi dysgwyr gyda'r mater hwn. Rydym hefyd wedi llunio cyngor wedi'i deilwra ar gyfer llywodraethwyr a theuluoedd er mwyn cydnabod y rôl bwysig sydd ganddynt i gefnogi ysgolion a phlant a phobl ifanc gyda'r mater cymdeithasol hwn.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 7.10 – Datblygu hyfforddiant i gefnogi ysgolion i adnabod a deall camwybodaeth

Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu modiwl hyfforddi i helpu ymarferwyr i adnabod a mynd i'r afael â chamwybodaeth.

Diweddariad 2023

Ym mis Tachwedd 2022, gwnaethom gyhoeddi modiwl hyfforddiant ar-lein ar gamwybodaeth ar gyfer ymarferwyr addysg, a ddatblygwyd ar y cyd â Full Fact. Nod y modiwl hyfforddiant hwn yw rhoi cyfoeth o wybodaeth i ymarferwyr am ffyrdd o fynd i'r afael â chamwybodaeth a helpu dysgwyr i wneud y canlynol yn effeithiol:

  • Deall beth yw camwybodaeth, y gwahanol fathau o gamwybodaeth a'r mathau o niwed y gall eu hachosi.

  • Dysgu'r sgiliau sylfaenol ar gyfer archwilio ffynonellau gwybodaeth, a beth yw ystyr bod yn ddibynadwy ac yn annibynadwy.

  • Dysgu'r cwestiynau meddwl yn feirniadol allweddol y gallwch eu gofyn am unrhyw honiad er mwyn penderfynu a yw'n debygol o fod yn wir.

  • Dysgu'r broses a ddefnyddir gan wirwyr ffeithiau er mwyn darganfod a yw rhywbeth yn wir ai peidio.

I gyd-fynd â'r modiwl hyfforddiant hwn, gwnaethom gyhoeddi erthygl Barn yr arbenigwyr a ysgrifennwyd gan reolwr hyfforddiant Full Fact, Joe O'Leary, sy'n esbonio pwysigrwydd meddwl yn feirniadol wrth archwilio camwybodaeth gyda phlant a phobl ifanc yn yr ystafell ddosbarth.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.