Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi gwaith ymchwil i’r defnydd a wneir o’r rhyngrwyd gan blant a phobl ifanc er mwyn bod cam ar y blaen i fygythiadau sy’n datblygu a pharhau i lywio’r gwaith o ddatblygu polisïau a chamau gweithredu sy’n angenrheidiol i hyrwyddo diogelwch ar-lein.

Gweithredoedd a diweddariadau

Cam gweithredu 5.1 – Ystyried y defnydd o amser o flaen sgrin ymhlith plant ifanc

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y defnydd o amser o flaen sgrin ymhlith plant ifanc yng Nghymru ar hyn o bryd, er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu polisi yn y maes hwn.

Diweddariad 2023

Drwy ein hymgyrch ‘Magu plant. Rhowch amser iddo.’ rydym wedi cyhoeddi adnodd gwybodaeth ‘cydbwyso amser sgrin’ ac awgrymiadau defnyddiol sy'n rhoi cyngor ar y canlynol:

  • faint yw gormod o amser o flaen sgrin

  • arwyddion o ormod o amser o flaen sgrin a sut i'w leihau

  • bod yn fodel rôl o ran amser o flaen sgrin

Mae'r adnodd ar gael ar wefan Magu plant. Rhowch amser iddo a bydd yn parhau i gael ei hyrwyddo drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Byddwn yn parhau i ystyried y gwaith ymchwil sydd wedi'i gyhoeddi ar hyn o bryd ynghylch faint o amser o flaen sgrin sy'n briodol i blant a phobl ifanc, a hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol yn y meysydd perthnasol er mwyn cefnogi'r gwaith ehangu.

Statws y cam gweithredu: Parhaus.

Cam gweithredu 5.2 – Arolwg Cenedlaethol Cymru a diogelwch ar-lein

Yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2020–21, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnwys diogelwch ar-lein fel pwnc.

Diweddariad 2021

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddwyd Arolwg Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys canlyniadau cwestiynau ar ddiogelwch ar-lein a ofynnwyd i rieni a gofalwyr plant 5 i 15 oed.

Canlyniadau'r arolwg yw sail y rhaglen Cadernid Digidol mewn Addysg.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 5.3 - Treialu ‘Cyber Essentials’ mewn lleoliadau addysg yng Nghymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol i dreialu ardystiad ‘Cyber Essentials’ mewn lleoliadau addysg yng Nghymru.

Diweddariad 2022

Daeth y cynllun peilot i ben ym mis Mawrth 2022 gydag ysgolion ar draws yr awdurdodau lleol dan sylw. Ar hyn o bryd rydym yn aros am ganlyniadau terfynol yr adroddiad a fydd yn llywio cyfeiriad ein polisi a'n cefnogaeth i ysgolion wrth symud ymlaen.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 5.4 - Gwerthuso seiber ddiogelwch yn y sector addysg yng Nghymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu ymchwil i werthuso aeddfedrwydd prosesau seiber sefydliadau addysg yng Nghymru.

Diweddariad 2022

Mae canfyddiadau allweddol ac argymhellion yr astudiaeth ymchwil bellach wedi'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Oherwydd natur sensitif y canfyddiadau ni fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi, fodd bynnag, mae'r canfyddiadau'n cael eu defnyddio i lywio’n uniongyrchol rhaglen weithgaredd a gynhelir gan Cadernid Digidol mewn Addysg yn ystod 2022-23 i gefnogi ysgolion i gynyddu eu seibergadernid.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd.

Cam gweithredu 5.5 - Ystyried technoleg i atal achosion o feithrin perthynas amhriodol ar-lein

Bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Prosiect Datblygu Cadernid yn erbyn Achosion o Feithrin Perthynas Amhriodol Ar-lein a arweinir gan Brifysgol Abertawe, ynghyd â’i chynnig i ddatblygu cyfres o adnoddau rhyng-gysylltiedig i atal a mynd i’r afael ag achosion o feithrin perthynas amhriodol ar-lein.

Diweddariad 2024

Daeth cyfnod prawf lansiad tawel adnodd Shield i ben ym mis Awst 2024 ac mae modiwl hyfforddiant DRAGON-Shield bellach yn fyw.

Statws y cam gweithredu: Cwblhawyd