Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae Hwb yn defnyddio dulliau amgryptio i ddiogelu negeseuon e-bost.

Nid yw e-bost yn ddiogel yn ddiofyn, yn ddamcaniaethol gall unrhyw un sydd â mynediad at e-bost wrth iddo deithio ar hyd y rhyngrwyd weld ei gynnwys. Mae cynnwys e-bost heb ei ddiogelu’n debyg i gerdyn post tra bydd ar ei ffordd drwy system ddanfon y post.

Mae’r diagram isod yn dangos taith syml e-bost heb ei amgryptio. Nid yw’n debygol y bydd rhywun â mynediad at y llwybr mae’r e-bost yn ei ddilyn ar hyd y rhyngrwyd yn gallu ei ddarllen, ond mae’n bosibl.

Gellir defnyddio amgryptio i leihau’r perygl y bydd yr e-bost yn cael ei weld ar ei daith rhwng systemau e-bost.

Argymhellir fod unrhyw e-bost sy’n cynnwys data personol yn cael ei amgryptio. Bydd gwneud hynny’n sicrhau na fydd haciwr, boed yn lwcus neu’n glyfar, yn gallu darllen cynnwys yr e-bost ar ei daith ar hyd y rhyngrwyd.

Mae sawl opsiwn gwahanol ar gyfer amgryptio e-bost, ac mae rhai’n haws i’w defnyddio na’i gilydd, er y dylai’r dewis o ddull amgryptio gael ei seilio’n bennaf ar sensitifrwydd yr e-bost.

Mae tair ffordd o amgryptio e-bost ar gael yn Hwb:

TLS Gofodol

Mae amgryptio sy’n seiliedig ar TLS (yr un dull amgryptio sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer mynediad diogel i wefannau; yng nghyd-destun negeseuon e-bost cyfeirir ato’n aml fel STARTTLS) yn ddewisol ar gyfer gweinyddion e-bost sy’n cyfnewid negeseuon e-bost dros y rhyngrwyd.

Mae’r diagram isod yn dangos cwmpas effeithiolrwydd TLS wrth ei ddefnyddio i gyfathrebu rhwng gweinyddion e-bost.

Ar ôl i e-bost gael ei anfon i weinydd e-bost y derbynnydd, dylid nodi fod amgryptio negeseuon wedi hynny’n ddibynnol ar unrhyw daith ymlaen a hefyd ar ffurfwedd ap e-bost y derbynnydd.

Gall y rhan fwyaf o wasanaethau e-bost, fel Office 365 a Gmail, ddefnyddio TLS, ond nid yw pob gwasanaeth yn gallu ei ddefnyddio, felly ni ellir ei ffurfweddu fel gofyniad ar gyfer pob e-bost i ac oddi wrth Hwb, gan y byddai hynny’n atal rhai systemau e-bost rhag gallu anfon neu dderbyn negeseuon e-bost gan Hwb.

Fodd bynnag, gydag Office 365 mae modd gorfodi TLS mewn modd dethol; mae gwasanaeth e-bost Hwb wedi’i ffurfweddu i ganiatáu’r defnydd ymarferol ehangaf o TLS gorfodol.

Ffurfwedd Hwb

Mae Hwb wedi’i ffurfweddu i orfodi TLS ar gyfer pob e-bost sy’n cael eu hanfon a’u derbyn:

Nid oes angen i ddefnyddwyr wneud dim, mae amgryptio’n cael ei roi ar waith yn dryloyw’n ôl rheolau sydd wedi’u rhag ddiffinio.

Mae’r ffurfwedd ar gyfer TLS gorfodol ar Hwb yn cynnwys:

  • Gwirio cofnod DNS MX cyrchfan y parth

  • Cadarnhau bod y gweinydd post yn gydnaws â STARTTLS

  • Creu rheol llif post Exchange Online sy’n datgan bod TLS ar gyfer pob e-bost yn seiliedig ar:

    • Parth

      Mae hyn yn dweud wrth Office 365 pa negeseuon sy’n berthnasol i’r rheol.

      Enghraifft ffurfwedd: hwbcymru.net

    • Cyfeiriad gweinydd e-bost (o gofnod MX)

      Mae hyn yn helpu i atal newidiadau maleisus i DNS o ganlyniad i e-bost yn cael ei ailgyfeirio i systemau sy’n cael eu rheoli gan hacwyr. Enghraifft ffurfwedd: protection.outlook.com

    • Gofyniad am dystysgrif TLS a gyhoeddir gan CA

      Mae hyn yn helpu i sicrhau bod y gweinydd post yn cael ei ‘ddilysu’ mewn modd dibynadwy cyn bod yr e-bost yn cael ei anfon.

Mae’r ffurfwedd yn un na all fethu, sy’n golygu os bydd yr amgryptio’n methu am unrhyw reswm, ni fydd yr e-bost yn cael ei anfon.

Mae’r tabl canlynol yn crynhoi sefyllfaoedd ac ystyriaethau defnydd posibl ar gyfer defnyddio pob un o’r dewisiadau sydd ar gael yn Hwb.

Amgryptio E-bost

Sefyllfa defnydd

Ystyriaethau

TLS Gorfodol

Rheolaeth Safonol

Argymhellir fel y lefel sylfaenol ar gyfer unrhyw e-bost sy’n cynnwys data personol

Dim angen i ddefnyddwyr wneud dim. 

Wedi’i ffurfweddu gan Dîm Hwb, OND ni fydd yn gweithio oni bai bod sefydliadau partner yn ei gefnogi

Message Encryption Office 365

Rheolaeth Uwch

Ar gyfer rhannu gwybodaeth sensitif gyda dosbarthiad cyfyngedig.

Mae’n addas ar gyfer negeseuon e-bost na ellir eu diogelu drwy ddefnyddio’r dewisiadau eraill, er enghraifft e-bost at rieni.

Mae gwahanol gyfyngiadau’n bosibl ar gyfer gwahanol lefelau o sensitifrwydd.

Gall helpu i leihau’r peryglon sy’n gysylltiedig â’r defnydd o ddyfeisiadau personol.

Bydd angen i dderbynwyr allanol heb gyfrif Microsoft alluogi HTML yn eu cleient e-bost. 

S/MIME 

Rheolaeth Uwch.

Yn addas ar gyfer yr wybodaeth fwyaf sensitif lle mae angen sicrwydd cadarn mai dim ond y derbynwyr a fwriadwyd fydd yn gallu gweld y cynnwys. 

Bydd angen tystysgrif S/MIME ar yr anfonwyr a’r derbynnydd /derbynwyr.

Nid yw Hwb wedi’i ffurfweddu ar hyn o bryd i ddefnyddio S/MIME gydag Outlook ar y we. Gellir defnyddio hwn gydag Outlook bwrdd gwaith yn unig.

Nid yw’n addas iawn ar gyfer dosbarthu i grwpiau mawr.

Parthau Dibynadwy

Mae Hwb wedi’i ffurfweddu i orfodi TLS ar gyfer pob e-bost sy’n cael eu hanfon a’u derbyn i’r parthau dibynadwy yma.

Awdurdod Lleol

Blaenau Gwent County Borough Council

@blaenau-gwent.gov.uk

Bridgend County Borough Council

@bridgend.gov.uk

Caerphilly County Borough Council

@caerphilly.gov.uk

Cardiff Council

@cardiff.gov.uk

Carmarthenshire County Council

@carmarthenshire.gov.uk or @sirgar.gov.uk

Ceredigion County Council

@ceredigion.gov.uk

Conwy County Borough Council

@Conwy.gov.uk

Denbighshire County Council

@Denbighshire.gov.uk

Flintshire County Council

@flintshire.gov.uk

Gwynedd Council

@gwynedd.gov.uk or @gwynedd.llyw.cymru

Isle of Anglesey County Council

@ynysmon.gov.uk

Merthyr Tydfil County Borough Council

@merthyr.gov.uk

Monmouthshire County Council

@monmouthshire.gov.uk

Neath Port Talbot County Borough Council

@neath-porttalbot.gov.uk or npt.gov.uk

Newport City Council

@newport.gov.uk

Pembrokeshire County Council

@pembrokeshire.gov.uk

Powys County Council

@powys.gov.uk

Rhondda Cynon Taf County Borough Council

@RCTCBC.gov.uk

Swansea County Borough Council

@swansea.gov.uk

Torfaen County Borough Council

@torfaen.gov.uk

Vale of Glamorgan Council

@valeofglamorgan.gov.uk

Wrexham County Borough Council

@Wrexham.gov.uk