Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gael mynediad at ddyfeisiau Windows at ddefnydd addysgol am bris gostyngol.

Trosolwg

Mae rhaglen Shape the Future gan Microsoft yn cydweithio â gwneuthurwyr dyfeisiau fel bod gan fwy o fyfyrwyr fynediad at dechnoleg cyfrifiadura. Yna, mae Microsoft yn sicrhau’r prisiau gorau i ysgolion am ddyfeisiau newydd Windows.

Dyfeisiau mewn addysg

Mae partneriaid Microsoft yn cynnig pob math o ddyfeisiau ar gyfer addysg am brisiau amrywiol, gan gynnwys:

  • llechi

  • dyfeisiau 2-mewn-1 a chyfrifiaduron amnewidiol (convertibles)

  • nodiaduron (notebooks)

  • byrddau gwaith a byrddau gwaith popeth-mewn-un (All in One)

Sut i gael mynediad at raglen Shape the Future

Cysylltwch â Desg Gwasanaeth Hwb i gael rhif llythyr cymhwystra (LOE). Bydd angen y rhif hwn arnoch i sicrhau'r gostyngiadau priodol, felly gofalwch gael y rhif cyn gofyn am ddyfynbrisiau gan wneuthurwr eich dyfais.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau llythyr cymhwystra canolog i bob ysgol yng Nghymru gael gafael ar y dyfeisiau addysg hyn am bris gostyngol. Bydd cymhwystra’r ysgol yn cael ei wirio yn erbyn rhestr Llywodraeth Cymru o ysgolion a gynhelir.