Porth yw Apple School Manager (ASM) sy’n cael ei ddefnyddio i reoli myfyrwyr, staff a dyfeisiau, ac i brynu cynnwys. Mae'n cysylltu ag Intune ar gyfer defnyddio apiau a chofrestru dyfeisiau trwy'r Rhaglen Cofrestru Dyfeisiau (DEP).
Gellir cael mynediad at ASM gan ddefnyddio cyfrif gweinyddol generig a ddarperir gan Hwb, a gellir dod o hyd iddo yn y Porth Rheoli Defnyddwyr. O ran awdurdodau lleol, mae hyn yn cynnwys y gallu i reoli dyfeisiau sy'n cael eu hychwanegu at DEP ac aseinio i'w taleb Rheoli Dyfeisiau Symudol (MDM), yn ogystal â phrynu neu reoli apiau ar gyfer ysgolion yn eu hawdurdod. O ran ysgolion, mae hyn yn cynnwys prynu a rheoli apiau ar gyfer yr ysgol yn unig.
Dim ond apiau a chredyd sy'n perthyn i gyfrif VPP blaenorol y gellir eu symud i Apple School Manager Hwb.
I ofyn am gael trosglwyddo apiau o gyfrif VPP blaenorol, cysylltwch â desg wasanaeth Hwb, gan ddarparu'r Apple Id a chyfrinair y cyfrif.
Unwaith y bydd y trosglwyddo wedi digwydd, bydd apiau ar gael mewn lleoliad ‘etifeddiaeth’ yn Apple School Manager. Bydd angen i reolwr cynnwys o’r ysgol wirio'r apiau a'u symud i'w prif leoliad er mwyn iddynt fod ar gael i'w defnyddio yn Intune.
Bydd unrhyw gredyd a drosglwyddir yn parhau i fod yn gysylltiedig â'r cyfrif VPP blaenorol a rhaid ei wario gan ddefnyddio'r cyfrif hwnnw. Bydd Hwb yn gallu darparu gwybodaeth am faint o gredyd, os o gwbl, sydd wedi cael ei drosglwyddo, a darparu'r manylion perthnasol i fewngofnodi.
Mewngofnodwch i Apple School Manager gan ddefnyddio'r cyfrif ASM generig
Ewch i Apps and Books
Hidlwch Location ar gyfer y lleoliad 'etifeddol’ (“[School Number] VPP Legacy Location”)
Dewiswch yr ap i drosglwyddo
Cliciwch Transfer wrth ymyl y lleoliad blaenorol
Nodwch faint o drwyddedau sydd angen eu trosglwyddo a chlicio Transfer
Mewngofnodwch i Apple School Manager gan ddefnyddio cyfrif rheolwr cynnwys ar gyfer yr ysgol
Cliciwch Apps and Books
Chwiliwch am yr ap rydych chi am ei gael
Dewiswch y lleoliad i aseinio'r ap i (ar gyfer ysgolion, dim ond un lleoliad ddylai fod)
Rhowch sawl ap rydych chi am ei gael
Cliciwch Get
Defnyddiwch nifer call wrth nodi nifer yr apiau am ddim, oherwydd gall defnyddio nifer sylweddol achosi oedi wrth gyflawni gweithredoedd eraill yn Intune/ASM sy'n gwirio trwyddedau. Argymhellir ystyried faint sydd eu hangen arnoch chi ac ychwanegu byffer bach.
Er mwyn prynu apiau, rhaid i chi osod archeb gyda'ch cyflenwr am gredyd yn gyntaf, a gellir defnyddio’r credyd wedyn yn Apple School Manager.
Gall prosesau archebion prynu fod yn wahanol i bob awdurdod lleol, felly holwch eich awdurdod lleol sut i archebu. Bydd angen i chi roi Apple Id i'r cyflenwr – rydyn ni’n argymell defnyddio'r cyfrif Rheolwr Cynnwys a ddarperir gan Hwb ar gyfer yr ysgol, ond gellir defnyddio unrhyw Apple Id.
Unwaith y byddwch chi wedi derbyn cadarnhad e-bost bod y credyd yn y porth VPP:
Ewch i'r porth credyd VPP a chliciwch Sign In
Mewngofnodwch gyda'r un Apple Id a nodwyd gennych chi wrth osod yr archeb - os byddwch yn defnyddio'r cyfrif Rheolwr Cynnwys a ddarperir gan Hwb, byddwch yn cael eich ailgyfeirio i sgrin mewngofnodi safonol Hwb.
Cliciwch Orders yn y ddewislen ar y chwith i restru'r holl archebion sy'n gysylltiedig â'r Apple Id
Cliciwch Download wrth ymyl yr archeb briodol
Agorwch y ffeil CSV sydd wedi'i lawrlwytho a chopïo'r cod o dan y golofn Redemption Code
Ewch i Apple School Manager a mewngofnodi gyda chyfrif y Rheolwr Cynnwys ar gyfer yr ysgol
Cliciwch ar enw'r cyfrif yn y gornel chwith isaf, yna Preferences -> Payments and Billing
Cliciwch Add o dan Store Credit
Rhowch y cod adbrynu a gopïwyd o'r ffeil CSV, a chliciwch Redeem
Cadarnhewch fod y swm credyd wedi cynyddu
Prynwch yr ap(iau) rydych chi’n dymuno eu cal gan ddilyn yr un weithdrefn ag ar gyfer caffael apiau am ddim
Bydd apiau sy'n perthyn i leoliad y mae taleb wedi'i ychwanegu ar ei gyfer yn Intune yn cysoni yn awtomatig ddwywaith y dydd. Fodd bynnag, gallwch orfodi cysoni yn Intune drwy ddilyn y camau canlynol:
Mewngofnodwch gyda'ch cyfrif gweinyddu Intune Hwb
Cliciwch ar Tenant Admin > Connectors and tokens > Apple VPP Tokens
Chwiliwch am y daleb berthnasol
Cliciwch ar (...) ac yna cliciwch Sync
Dim ond gweinyddwyr Intune awdurdodau lleol all ddiweddaru talebau MDM. Rhaid gwneud hyn unwaith y flwyddyn.
Ewch i Apple School Manager
Mewngofnodwch gyda'r cyfrif gweinyddol cyffredinol ASM
Cliciwch ar y cyfrif yn y gornel chwith isaf, yna cliciwch Preferences
Dewiswch y daleb MDM briodol o dan Your MDM Servers
Cliciwch Download Token
Cadarnhewch trwy glicio Download Server Token
Ewch i’r Microsoft Intune admin centre
Mewngofnodwch gyda'ch cyfrif gweinyddu Intune Hwb
Ewch i Devices > Enroll devices > Apple enrollment > Enrollment program tokens
Chwiliwch am y daleb MDM briodol, os oes angen, a chliciwch arni
Cliciwch Renew Token
Cliciwch Select a file a dewiswch y daleb newydd wedi'i lawrlwytho gan Apple School Manager
Gadewch yr Apple ID fel y mae
Cliciwch Next a chwblhau’r broses
Ewch i Apple School Manager
Mewngofnodwch gyda’r cyfrif gweinyddu generig ASM admin
Cliciwch ar y cyfrif yn y gornel chwith isaf, yna cliciwch Preferences > Payments and Billing
O dan Server Tokens, cliciwch Download sydd nesaf at y daleb sydd angen ei hadnewyddu
Mewngofnodwch gyda'ch cyfrif gweinyddu Intune Hwb
Cliciwch ar Tenant Admin > Connectors and tokens > Apple VPP Tokens
Chwiliwch am y daleb VPP briodol, os oes angen, a chlicio arni
Cliciwch Settings o dan Basics
Cliciwch Select a file a dewis y daleb newydd a lawrlwythwyd o Apple School Manager
Gadewch enw’r daleb a’r Apple ID fel y maent
Cliciwch Review + save
Mae hefyd yn bosibl diweddaru talebau VPP gyda’i gilydd ar yr un pryd gan ddefnyddio sgript PowerShell, sydd ar gael trwy gais i Ddesg Gwasanaeth Hwb.
Mae Apple Id a reolir yn gyfrifon y gellir eu defnyddio gyda gwasanaethau a dyfeisiau Apple. Maen nhw ar gael i staff a myfyrwyr ac yn galluogi'r defnyddiwr i fewngofnodi i wasanaethau Apple gyda'i enw defnyddiwr a chyfrinair Hwb. Mae cyfrifon yn cael eu creu a'u cynnal trwy ddata MIS yr ysgol.
Er mwyn i gyfrifon Apple Id a reolir gael eu darparu ar gyfer yr ysgol mae'n rhaid i’r ysgol optio i mewn - gall awdurdod lleol neu weinyddwr Intune ysgol wneud hyn drwy'r Porth Rheoli Defnyddwyr. Ar ôl i’r Apple Ids gael eu creu, gellir eu gweld a'u rheoli trwy Apple School Manager.
Gall ysgolion unigol optio i mewn drwy eu dangosfwrdd. Gall hyn gael ei wneud gan weinyddwr Intune yn yr awdurdod lleol neu gan weinyddwr Intune yn yr ysgol:
Mewngofnodwch i'r Porth Rheoli Defnyddwyr gyda chyfrif sydd â'r rôl Gweinyddwr Intune
Dewiswch Apple School Manager o'r ddewislen Gweinyddwr
Rhowch dic yn y blwch i droi darpariaeth defnyddiwr Apple School Manager ymlaen
Cadarnhewch y naidlen
Gall gweinyddwyr Intune mewn awdurdodau lleol optio i mewn ar ran pob ysgol gynradd, ysgol arbennig, ysgol ganol, a/neu ysgol uwchradd ar yr un pryd:
Mewngofnodwch i'r Porth Rheoli Defnyddwyr gyda chyfrif sydd â'r rôl Gweinyddwr Intune
Dewiswch Apple School Manager o'r ddewislen Gweinyddwyr
Rhowch dic yn y blwch ar gyfer Pob ysgol gynradd a chyfnod arbennig, Pob ysgol ganol neu Pob ysgol uwchradd– gallwch wneud un, dau, neu'r tri ar unwaith, neu ychwanegu detholiad arall yn nes ymlaen.
Cliciwch y botwm Diweddaru, a chadarnhau'r naidlen
I optio allan o ddarpariaeth defnyddwyr Apple School Manager rhaid i chi gofnodi cais gyda desg wasanaeth Hwb, gan na fydd ysgolion a gweinyddwyr awdurdodau lleol yn gallu optio allan.
Gellir defnyddio Apple Id wedi'i reoli i fewngofnodi ar iPad gyda chyswllt defnyddiwr, fel dyfeisiau athrawon, neu iPad sy’n cael ei rannu. Gall defnyddwyr gael 'proffil' ar wahân a mewngofnodi i apiau gyda'u cyfrif Hwb heb boeni am y defnyddiwr nesaf.
Wrth fewngofnodi i iPad sy’n cael ei rannu am y tro cyntaf, bydd defnyddiwr yn cael ei ysgogi i osod cod mynediad – 4 digid i ddysgwyr, ac 8 nod neu fwy (llythrennau a rhifau) ar gyfer staff. Yna gellir defnyddio hwn i fewngofnodi i unrhyw iPad sy’n cael ei rannu heb fod angen cyfrinair Hwb.
Gellir ailosod codau mynediad trwy borth Apple School Manager. Gall staff ysgolion ailosod codau mynediad ar gyfer dysgwyr gan ddefnyddio eu cyfrif Hwb. Gall gweinyddwyr awdurdodau lleol ailosod codau mynediad ar gyfer staff ysgolion a dysgwyr gan ddefnyddio eu cyfrif gweinyddol ASM generig. Gall staff yr ysgol hefyd ailosod codau mynediad dysgwyr trwy ap Apple Classroom
Cyfrinair dros dro yw hwn a bydd yn dod i ben mewn 90 diwrnod. Bydd y defnyddiwr yn cael ei atgoffa i newid ei god mynediad ar ôl cofnodi’r un dros dro.
Mewngofnodwch i Apple School Manager
O dan Users, chwiliwch am y defnyddiwr targed a chlicio arno
Cliciwch Reset Shared iPad Passcode
Rhowch god mynediad newydd, neu gadewch i Apple School Manager greu un
Dewiswch anfon y cod mynediad dros dro at y defnyddiwr fel e-bost, neu gallwch greu PDF y gellir ei lawrlwytho i weld y cod mynediad dros dro ar y sgrin
Gellir defnyddio dosbarthiadau Apple yn yr apiau Apple Classroom neu Apple Schoolwork ar ddyfeisiau a reolir. Rhaid i ddefnyddwyr fod ag Apple Id a reolir i ddefnyddio'r apiau hyn.
Gall athrawon greu dosbarthiadau Apple eu hunain o fewn yr apiau, neu gellir creu dosbarthiadau a reolir trwy'r Porth Rheoli Defnyddwyr. Mae dosbarthiadau Apple a reolir gan Hwb yn cael eu cynnal gan ddefnyddio'r data MIS, sy'n diweddaru aelodaeth y dosbarth pryd bynnag y bydd defnyddiwr yn ymuno â’r ysgol neu’n gadael.
I greu dosbarth Apple wedi'i reoli:
Mewngofnodwch i'r Porth Rheoli Defnyddwyr gyda chyfrif gweinyddol neu staff
Yn y dangosfwrdd ysgol, ewch i Gweinyddiaeth > Gweld grwpiau
Dewch o hyd i'r grŵp a ddymunir a'i ddewis
Cliciwch y botwm Ychwanegu dosbarth Apple
Cliciwch Cadarnhau ar y naidlen
I gael gwybodaeth am ddefnyddio apiau Apple Classroom ac Apple Schoolwork, gweler y dogfennau Apple cyfatebol:
https://support.apple.com/en-gb/guide/classroom/welcome/web
https://support.apple.com/en-gb/guide/schoolwork-teacher/welcome/ios
Os hoffech ragor o gymorth cysylltwch â Desg Gwasanaeth Hwb.