Mae dyfeisiau a defnyddwyr wedi’u trefnu’n grwpiau ac mae ganddyn nhw drefn enwi sy’n dechrau gyda rhif yr awdurdod lleol neu’r ysgol i’w hadnabod. Mae’r grwpiau hyn wedi’u nythu o dan grŵp awdurdod lleol lefel uchaf i ffurfio hierarchaeth o ysgolion o fewn yr awdurdod lleol hwnnw ac maen nhw wedi’u rhannu’n ddwy gangen (dyfeisiau a defnyddwyr) i ddarparu arwahanrwydd a hyblygrwydd. Mae eitemau ffurfweddu yn cael eu neilltuo i grwpiau, felly mae defnyddio strwythur hierarchaidd yn caniatáu i neilltuadau cyffredin gael eu gosod unwaith ar lefel uwch a’u hetifeddu gan y grwpiau sy’n nythu ynddo.
Mae’r strwythur grŵp hwn i’w weld o fewn Intune for Education, sy’n dangos dim ond rhan o’r hierarchaeth y mae’r gweinyddwr wedi’i gwmpasu ar ei chyfer. Yn Intune for Education, mae modd neilltuo polisïau ac anfon apiau yn uniongyrchol ar grŵp unigol hefyd.
Mae gan bob ysgol 3 grŵp dyfeisiau (Dyfeisiau Darparu, Dyfeisiau Myfyrwyr, a Dyfeisiau Athrawon), a 2 grŵp defnyddwyr (Myfyrwyr ac Athrawon) sy’n cael eu cynnal gan wasanaeth darparu Hwb gyda data o System Gwybodaeth Reoli (MIS) yr ysgol.
Gellir creu grwpiau ychwanegol trwy’r Porth Rheoli Defnyddwyr er mwyn darparu hyblygrwydd wrth neilltuo apiau a pholisïau ffurfweddu i setiau gwahanol o ddyfeisiau neu ddefnyddwyr. Mae’r holl grwpiau defnyddwyr a dyfeisiau yn cael eu creu ar yr un lefel ac ni ellir eu nythu ymhellach. Mae’n arfer gorau creu grŵp ychwanegol at ddiben penodol ac yna ymuno defnyddiwr neu ddyfais â grwpiau lluosog i gyfuno eu heffeithiau.
Enghreifftiau:
Efallai fod cyfrifiaduron yr ystafell TG angen ap gwahanol i gyfrifiaduron eraill yn yr ysgol. Trwy greu grŵp dyfeisiau ychwanegol o’r enw "Ystafell TGCh1" a neilltuo’r ap i’r grŵp hwn yn Intune, dim ond i ddyfeisiau yn y grŵp hwn y bydd ar gael.
Dyfeisiau Ysgol
Dyfeisiau Darparu
Dyfeisiau Myfyrwyr
Dyfeisiau Athrawon
iPads
Ystafell TGCh 1
Efallai y bydd aelodau o’r uwch dîm rheoli angen mynediad i safle diogel a gynhelir ar SharePoint ar unrhyw ddyfais maen nhw’n mewngofnodi iddi. Trwy greu grŵp defnyddwyr ychwanegol o’r enw "Tîm Uwch-reolwyr" a phennu proffil ffurfweddu a osodir i gysoni’r llyfrgell ddogfennau â’u cleient OneDrive, bydd y safle diogel a rennir ar gael i’r defnyddwyr hyn ar yr holl ddyfeisiau maen nhw’n eu defnyddio.
Defnyddwyr Ysgol
Myfyrwyr
Athrawon
Defnyddwyr Tîm Uwch-reolwyr
Mae’r grŵp Dyfeisiau Darparu yn grŵp arbennig, a grëwyd gan dîm Hwb, i roi dyfeisiau cofrestredig yn awtomatig yng nghwmpas gweinyddol yr ysgol neu’r awdurdod lleol. Mae sawl rheol i bennu aelodaeth o’r grŵp dyfeisiau darparu, a rhaid bodloni o leiaf un o’r rhain er mwyn gallu gweld a rheoli’r ddyfais:
GroupTag = Dynodwr Darparu Dyfais*
Dim ond yn berthnasol i ddyfeisiau Windows a ddefnyddir trwy Autopilot.
Device Name Previx = Mae enw’r ddyfais yn dechrau gyda’r Dynodwr Darparu Dyfais*
Yn berthnasol i bob dyfais, ond dyma’r unig reol y gellir ei bodloni wrth gofrestru dyfeisiau Windows gan ddefnyddio pecyn darparu.
Enrolment profile name prefix = Mae’r enw proffil cofrestru yn dechrau gyda rhif yr awdurdod lleol neu’r ysgol
Mae hyn yn berthnasol i iPads yn unig – dylai dyfeisiau Windows sy’n defnyddio Autopilot ddefnyddio’r GroupTag yn lle. Ar gyfer Awdurdodau Lleol, dylai proffiliau cofrestru ddechrau gyda’u cod 3 digid ac yna bwlch i fodloni’r rheol (e.e. “660 Enw proffil cofrestru”).
Efallai y bydd oedi cyn i ddyfeisiau ymddangos yn y grŵp dyfeisiau darparu oherwydd y rheolau deinamig sydd angen eu prosesu. Unwaith y bydd dyfais yn weladwy yn y grŵp dyfeisiau darparu efallai y bydd angen ymuno â grwpiau eraill i dderbyn yr apiau a’r polisïau perthnasol - mae modd gwneud hyn ddefnyddio’r dudalen Intune Groups yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.
Nid ydym yn argymell defnyddio unrhyw apiau neu bolisïau i’r grŵp dyfeisiau darparu, dylid ei drin fel lle ar gyfer dyfeisiau yn unig. Dylid defnyddio grwpiau ar wahân ar gyfer proffiliau cofrestru Autopilot, a dylid cymhwyso polisïau ar gyfer ffurfweddau cyffredin i’r rhiant-grŵp dyfeisiau.
Gallwch reoli grwpiau dyfeisiau trwy’r dudalen Intune Device Groups yn y Porth Rheoli Defnyddwyr – Administration -> Intune Device Groups
Yn yr adran hon, gallwch:
weld grwpiau dyfeisiau presennol
creu grwpiau dyfeisiau newydd
gweld dyfeisiau mewn grŵp dyfeisiau presennol
symud neu ychwanegu dyfeisiau mewn grŵp dyfeisiau i grŵp dyfeisiau arall
gweld y Dynodwr Darparu Dyfais ar gyfer eich awdurdod lleol neu’ch ysgol
chwilio am allweddi Bitlocker a chyfrineiriau a reolir gan LAPS ar ddyfeisiau Windows
Cliciwch ar Create device group
Rhowch enw addas – mae’n dechrau gyda rhif yr ysgol ac ni ellir ei olygu maes o law
Cliciwch ar Create
Cliciwch ar y grŵp dyfeisiau presennol i restru’r dyfeisiau
Dewiswch y ddyfais neu’r dyfeisiau rydych chi am eu symud
Cliciwch ar Join to another group
Dewiswch y grŵp targed o’r gwymplen
Cliciwch ar Move neu Add i symud neu ychwanegu’r ddyfais at y grŵp targed
Bydd ‘Move’ yn tynnu’r ddyfais o’r grŵp presennol a bydd yn ymuno â’r grŵp targed. Bydd ‘Add’ yn ymuno’r ddyfais â’r grŵp targed a’i gadw yn yr un presennol.
Cliciwch ar y grŵp rydych chi am ddileu’r ddyfais ohono
Dewiswch y ddyfais/dyfeisiau yr hoffech eu dileu
Cliciwch ar Remove device from group
Cliciwch Confirm ar y neges
Does dim modd tynnu dyfeisiau o’r grŵp dyfeisiau darparu â llaw. I ddileu dyfais, rhaid i chi newid priodwedd (neu briodweddau) y ddyfais sy’n bodloni rheolau’r grŵp:
Autopilot (Windows) – tynnwch y GroupTag yn Autopilot
Pecyn darparu (Windows) – Newid enw’r ddyfais
iPads – dileu gwrthrych y ddyfais
Os ydych chi’n gosod enw dyfais Windows gyda’r rhagddodiad DPId trwy bolisi ffurfweddu, efallai y bydd angen i chi dynnu’r ddyfais o’r grŵp a neilltuwyd i’r polisi hwnnw, neu ei hychwanegu at grŵp heb y polisi hwnnw, er mwyn atal y ddyfais rhag cael ei hailenwi eto a bodloni’r rheol.
Cliciwch ar y grŵp dyfeisiau i weld rhestr o’r dyfeisiau
Dewiswch y ddyfais neu’r dyfeisiau rydych chi am eu dileu
Cliciwch ar Delete Device
Cliciwch ar Proceed ar y neges i gadarnhau’r dileu
Bydd hyn yn dileu’r ddyfais/dyfeisiau a ddewiswyd o Intune, Autopilot (Windows yn unig) ac Azure AD.
Ni all gweinyddwyr dirprwyedig ddileu grwpiau dyfeisiau, ond gellir cyflwyno cais i ddesg gwasanaeth Hwb.
Gwnewch yn siŵr fod y grŵp dan sylw yn cael ei dynnu o unrhyw ap neu bolisi yn Intune cyn gwneud y cais, oherwydd gall dileu tra bod neilltuadau’n dal i fodoli achosi problemau gyda golygu neilltuadau grŵp eraill ar y polisïau hynny.
Tynnwch y ddyfais o unrhyw grwpiau dyfeisiau yn yr ysgol bresennol (ac eithrio’r grŵp dyfeisiau darparu)
Tynnwch y ddyfais o’r grŵp dyfeisiau darparu
Ewch ati i ailosod dyfais i’w gosodiadau ffatri drwy Intune
Ewch ati i ailgofretru’r ddyfais, gan ddilyn y canllawiau cofrestru
Gellir rheoli grwpiau defnyddwyr drwy’r dudalen ‘Itune Device Groups’ yn y Porth Rheoli Defnyddwyr – Administration -> Intune User Groups
Yn yr adran hon, gallwch:
weld grwpiau defnyddwyr Intune diofyn
creu a gweld grwpiau defnyddwyr personol
ychwanegu neu ddileu defnyddwyr mewn grŵp defnyddwyr personol
Dim ond aelodau o grŵp Intune personol y gallwch chi eu rheoli. Mae grwpiau diofyn yn cael eu rheoli gan wasanaeth Darparu Hwb.
Cliciwch ar Add Group
Rhowch enw addas – mae’n dechrau gyda rhif yr ysgol ac ni ellir ei olygu maes o law
Cliciwch ar Add
Dewiswch y grŵp Intune personol i ychwanegu defnyddiwr ato
Cliciwch ar Add user to group
Rhowch enw defnyddiwr Hwb i’r defnyddiwr rydych chi’n ei ychwanegu a chlicio ar Search
Chwiliwch am fwy o ddefnyddwyr, os dymunir
Ailwiriwch y rhestr o ddefnyddwyr i ychwanegu a chlicio ar Add
Gallwch wneud hyn mewn swmp o’r rhestrau defnyddwyr hefyd - View Users -> View Learners/Staff
Dewiswch un neu fwy o ddefnyddwyr i’w hychwanegu at y grŵp
Cliciwch ar Selected Users > Assign to Group
Dewiswch Intune Group fel y math o grŵp
Dewiswch y grŵp targed o’r gwymplen
Cliciwch ar Add to group
Dewiswch y grŵp Intune personol i dynnu’r defnyddiwr ohono
Hidlwch i ddod o hyd i’r defnyddiwr targed, os oes angen
Cliciwch ar Remove ger enw’r defnyddiwr i’w ddileu o’r grŵp
Cliciwch ar Remove ar y neges i gadarnhau
Gallwch wneud hyn mewn swmp o’r rhestrau defnyddwyr hefyd - View Users -> View Learners/Staff
Dewiswch un neu fwy o ddefnyddwyr i’w hychwanegu at y grŵp
Cliciwch ar Selected Users > Assign to Group
Dewiswch Intune Group fel y math o grŵp
Dewiswch y grŵp targed o’r gwymplen
Cliciwch ar Remove from group