Sut i gael trwyddedau Microsoft 365 am ddim a gosod Microsoft 365 i'w ddefnyddio yn y cartref.
Gall holl ddysgwyr, staff ysgol, llywodraethwyr, athrawon cyflenwi mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru Lawrlwytho a gosod yr offer diweddaraf gan Microsoft yn rhad ac am ddim ar hyd at 15 o ddyfeisiau personol drwy Hwb.
Mae hyn yn cynnwys Word, Excel a PowerPoint, yn ogystal â Minecraft Education. Mae hyn hefyd ar gael i ddefnyddwyr Hwb o bartneriaid gwella ysgolion ac awdurdodau lleol.
Rydym am sicrhau bod yr un cyfle gan bob dysgwr ledled Cymru i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn byd cynyddol ddigidol.
Beth sydd wedi'i gynnwys
Gallwch osod y rhaglenni Microsoft 365 hyn am ddim ar eich dyfeisiau personol (ar hyd at 5 gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith, 5 llechen a 5 ffôn clyfar).
Cyfrifiaduron bwrdd gwaith Windows, Chrome a Mac
Word, Excel, PowerPoint, OneNote, Teams, Outlook, Minecraft Education a llawer mwy.
Llechi a ffonau clyfar
Word, Excel, PowerPoint, OneNote, Teams, Outlook, Minecraft Education a llawer o apiau eraill gan gynnwys Planner, Sway a To-Do.
Gallwch ddefnyddio’r offer cwmwl Microsoft hyn ar unrhyw ddyfais sydd wedi'i galluogi ar gyfer porwr.
Dyfeisiau ysgol
Gellir trwyddedu pob dyfais a ddefnyddir gan aelodau'r staff neu ddysgwyr.
Dysgwyr
Bydd pob dysgwr yn cael trwydded Microsoft 365 yn awtomatig.
Pan fydd dysgwr wedi'i nodi fel 'ymadawr' yn System Gwybodaeth Reoli (SIMS, Teacher Centre) yr ysgol, a'r Cleient Darparu wedi'i redeg, bydd y cyfrif yn cael ei analluogi'n awtomatig a'r trwyddedau M365 yn cael eu tynnu.
Staff yr ysgol
Bydd cyfrifon staff yn cael trwydded Microsoft 365 yn awtomatig yn seiliedig ar y rolau o’r Cyfrifiad Blynyddol o’r Gweithlu Ysgolion (CBGY) a dderbyniwn drwy system MIS yr ysgolion. Defnyddir y rolau hyn i adnabod staff fel penaethiaid, dirprwy benaethiaid neu athrawon.
Gall aelodau staff nad ydynt yn cael trwydded drwy rôl CBGY barhau i fanteisio ar holl nodweddion Microsoft 365 ar-lein (A1).
Gall aelodau'r staff na ddyrennir trwydded iddynt barhau i fanteisio ar holl nodweddion Office 365 (A1).
Dyfeisiau personol (defnydd cartref)
Caniateir gosod fersiynau bwrdd gwaith o Office ar hyd at 5 cyfrifiadur personol neu Mac fesul defnyddiwr trwyddedig.
Caniateir gosod apiau Office ar hyd at 5 llechen a 5 ffôn fesul defnyddiwr trwyddedig.
Mae Gwasanaeth Rheoli Allweddi yn ymdrin â'r trwyddedau. Mae'r awdurdodau lleol wedi derbyn yr wybodaeth ofynnol er mwyn rhoi cymorth i ysgolion gydag unrhyw ymholiadau.
Bydd defnyddwyr sydd â thrwydded Microsoft A5 yn gallu lawrlwytho Office 365 ar hyd at 5 dyfais bersonol gan gynnwys cyfrifiaduron personol, cyfrifiaduron Mac a dyfeisiau symudol.
Ar eich dyfais gartref:
Mewngofnodwch i Hwb ac ewch i Microsoft 365.
Cliciwach ar apiau ar ochr chwith y sgrin a dewis y gwymplen Gosod Apiau (yng nghornel dde uchaf y dudalen).
Cliciwch Apiau Microsoft 365.
O dan Microsoft 365 Apps, cliciwch Install Microsoft 365.
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin (gall gymryd amser i'w osod, yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad â'r rhyngrwyd).
Pan fyddwch wedi'i osod, agorwch ap fel Word a darllenwch a derbyn "Y print mân".
Bydd ffenestr naid yn ymddangos yn gofyn ichi ddewis Default File Type. Dewiswch Microsoft Open XML formats: Cliciwch OK.
Cliciwch Sign in to get the most out of Microsoft 365 (yng nghornel dde uchaf y dudalen) a rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair ar gyfer Hwb. Bydd hyn yn cysylltu'r gwasanaethau ychwanegol â Microsoft 365, megis OneDrive.
Os ydych chi'n defnyddio Windows 10, mae'n rhaid ichi dderbyn y neges sy'n ymddangos. Efallai y byddwch yn dymuno tynnu'r tic ar Allow my organisation to manage my device a dewis This app only.