Sut i greu cyfrifon Hwb ar gyfer llywodraethwyr a rhanddeiliaid addysgol eraill.
Mae cyfrifon Hwb ar gyfer staff ysgolion a dysgwyr yn cael eu creu'n awtomatig pan gânt eu hychwanegu at System Gwybodaeth Reoli (MIS) ysgol, er enghraifft SIMS neu Ganolfan Athrawon.
Gellir mynd ati i greu cyfrifon ar gyfer llywodraethwyr, myfyrwyr AGA a rhanddeiliaid addysg eraill, nad ydynt wedi'u cofnodi yn system MIS ysgol.
Mae cyfrifon Hwb ar gyfer dysgwyr newydd yn cael eu creu'n awtomatig unwaith y bydd y meysydd data canlynol wedi'u nodi yn system MIS yr ysgol:
cyfenw cyfreithiol
enw cyntaf cyfreithiol
rhif unigryw’r disgybl
rhif derbyn
dyddiad derbyn
Mae enwau defnyddwyr a chyfeiriadau e-bost Hwb yn cael eu creu ar sail cyfenw cyfreithiol ac enw cyntaf cyfreithiol y defnyddiwr. Darllenwch adran Newid manylion i gael gwybod sut i wneud newidiadau i gyfrif dysgwr.
Mae cyfrifon Hwb yn cael eu creu'n awtomatig pan fydd aelod newydd o staff yn cael ei ychwanegu at system MIS ysgol. Mae angen nodi'r wybodaeth ganlynol yn eich system MIS:
dyddiad dechrau
cod staff
rôl CBGY
Gall staff sy'n symud o un sefydliad i un arall barhau i ddefnyddio'r un cyfrif.
Mae gan bob llywodraethwr hawl i gael cyfrif Hwb. Mae hyn yn rhoi mynediad iddynt at adnoddau fel Office 365 a chyfeiriad e-bost Hwb.
Dim ond gweinyddwr Hwb all greu cyfrifon llywodraethwyr.
Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth rheoli defnyddwyr.
Cliciwch Gweld defnyddwyr: Gweld llywodraethwyr.
Cliciwch Ychwanegu defnyddiwr newydd.
Bydd neges rybudd yn ymddangos: Darllenwch y neges.
Cliciwch Rwy'n deall i fwrw ymlaen (neu cliciwch Mynd yn ôl i ganslo'r gorchymyn).
Teipiwch enw cyntaf a chyfenw y llywodraethwr yn y meysydd perthnasol.
Crewch gyfrinair drwy un o'r dulliau canlynol:
cliciwch Cynhyrchu cyfrinair dysgwr
teipiwch gyfrinair o'ch dewis (cymysgedd o lythrennau mawr a bach, a rhifau).
Cliciwch Ychwanegu defnyddiwr.
Bydd cyfrif y defnyddiwr yn ymddangos yn Gweld llywodraethwyr o fewn yr awr nesaf.
Gall gweinyddwyr Hwb consortia addysg rhanbarthol ac awdurdodau lleol greu cyfrifon ar gyfer staff consortia addysg ac awdurdodau lleol.
Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth rheoli defnyddwyr.
Cliciwch gwymplen Defnyddwyr awdurdodau lleol / consortia a dewiswch Rheoli'r defnyddiwr.
Cliciwch Ychwanegu defnyddiwr newydd +.
Teipiwch enw cyntaf a chyfenw y defnyddiwr yn y meysydd perthnasol a naill ai cliciwch Cynhyrchu cyfrinair dysgwr neu teipiwch gyfrinair o'ch dewis (cymysgedd o lythrennau mawr a bach, a rhifau).
Cewch ddewis llenwi meysydd Sefydliad, Teitl swydd, E-bost gwaith a Rhif cyswllt (a fydd yn eich helpu i adnabod y defnyddiwr unwaith y bydd y cyfrif wedi'i greu).
Cliciwch Ychwanegu defnyddiwr.
Bydd cyfrif y defnyddiwr yn ymddangos yn y rhestr defnyddwyr o fewn yr awr nesaf.