Sut gall gweinyddwyr newid enw yn gyfreithiol yn Hwb.
Gall gweinyddwyr Hwb olygu enw cyntaf a chyfenw unrhyw ddefnyddiwr. Gallant hefyd greu enw defnyddiwr newydd yn y Porth Rheoli Defnyddwyr, os, er enghraifft:
mae enw cyfreithiol defnyddiwr wedi newid, er enghraifft oherwydd priodas, ysgariad neu fabwysiadu
mae defnyddiwr eisiau cael ei adnabod o dan enw gwahanol i'w enw cyfreithiol
Bydd newid enw yn effeithio ar gyfeiriad e-bost a chyfrineiriau defnyddiwr.
Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth Rheoli Defnyddwyr.
Cliciwch Gweld Defnyddwyr: Gweld Dysgwyr.
Defnyddiwch y blwch Chwilio Term i ddod o hyd i'r defnyddiwr perthnasol, er enghraifft teipiwch ei gyfenw a chlicio Chwilio.
Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde i fanylion y defnyddiwr).
Cliciwch Rheoli'r Defnyddiwr: Golygu
Diweddarwch y meysydd Enw cyntaf a Cyfenw fel y bo'n briodol.
Os yw'r newid yn effeithio ar y llythyren gyntaf neu'r cyfenw, ticiwch y blwch Cynhyrchu Enw Defnyddiwr Newydd.
Cliciwch Diweddaru'r Defnyddiwr.
Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth Rheoli Defnyddwyr.
Cliciwch Gweld Defnyddwyr: Gweld Staff.
Defnyddiwch Chwilio Term i ddod o hyd i'r defnyddiwr, er enghraifft, teipiwch ei gyfenw a chlicio Chwilio.
Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde i fanylion y defnyddiwr).
Cliciwch Rheoli'r Defnyddiwr: Golygu.
Diweddarwch y meysydd Enw cyntaf a Cyfenw fel y bo'n briodol.
Os yw'r newid yn effeithio ar y llythyren gyntaf neu'r cyfenw, ticiwch y blwch Cynhyrchu Enw Defnyddiwr Newydd.
Os ydych am ddiweddaru cyfeiriad e-bost defnyddiwr i'w enw newydd, cliciwch ar y blwch ticio wrth ymyl Cynhyrchu Prif Gyfeiriad Ebost Newydd. Bydd hwn yn cael ei ddewis yn awtomatig os ticiwch yr opsiwn Cynhyrchu Enw Defnyddiwr Newydd.
Cliciwch Diweddaru'r Defnyddiwr.
Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth Rheoli Defnyddwyr.
Cliciwch Gweld Defnyddwyr: Gweld Llywodraethwyr
Defnyddiwch Chwilio Term i ddod o hyd i'r defnyddiwr, er enghraifft, teipiwch ei gyfenw a chlicio Chwilio.
Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde i fanylion y defnyddiwr).
Diweddarwch y meysydd Enw cyntaf a Cyfenw fel y bo'n briodol.
Os yw'r newid yn effeithio ar y llythyren gyntaf neu'r cyfenw, ticiwch y blwch Cynhyrchu Enw Defnyddiwr Newydd.
Cliciwch Diweddaru'r Defnyddiwr.
Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth Rheoli Defnyddwyr.
Cliciwch Gweld Defnyddwyr: Gweld Staff Dim MIS.
Chwiliwch am y defnyddiwr perthnasol gan ddefnyddio’r maes Chwilio Term fel y bo’n briodol e.e. teipiwch ei gyfenw a chlicio Chwilio.
Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde i fanylion y defnyddiwr).
Cliciwch Rheoli'r Defnyddiwr: Golygu.
Diweddarwch y meysydd Enw cyntaf a Cyfenw fel y bo'n briodol.
Os yw'r newid yn effeithio ar y llythyren gyntaf neu'r cyfenw, ticiwch y blwch Cynhyrchu Enw Defnyddiwr Newydd.
Cliciwch Diweddaru'r Defnyddiwr.
Os cynhyrchir enw defnyddiwr newydd gan Hwb, caiff y cyfrinair ar gyfer y cyfrif hwnnw ei newid yn awtomatig. Cofiwch roi'r enw defnyddiwr a'r cyfrinair newydd i'r defnyddiwr. Cewch hyd i'r rhain yn y Porth Rheoli Defnyddwyr.
Bydd unrhyw newidiadau i'r enw cyntaf a'r cyfenw yn cael eu hadlewyrchu ar unwaith yn y Porth Rheoli Defnyddwyr, Office 365 a Google Workspace for Education.
Efallai y bydd yn rhaid ichi aros hyd at 10 munud i enw defnyddiwr newydd gael ei greu. Gallai gymryd hyd at 24 awr i'r enw gael ei ddiweddaru ar draws platfform Hwb.
Bydd cyfeiriad e-bost blaenorol y defnyddiwr yn cael ei gadw yn Hwb fel cyfeiriad wrth gefn. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod negeseuon e-bost sy'n cael eu hanfon i'r cyfeiriad hwnnw yn cael eu hailgyfeirio i'r cyfeiriad e-bost newydd. Fodd bynnag, dylai defnyddwyr rannu eu cyfeiriad e-bost newydd fel y bo'n briodol.
Bydd newidiadau a wneir gan ysgolion i enw cyntaf a chyfenw dysgwyr yn ymddangos mewn adroddiadau adborth a chynnydd newydd ers i'r enw newid.
Fodd bynnag, ni fyddant yn cael eu diweddaru mewn hen adborth ar asesiadau personol dysgwyr, ac efallai y bydd hwnnw yn parhau i fod yn weladwy i ddysgwyr, staff a rhieni neu ofalwyr.
Os yw newid i gofnodion hanesyddol yn hanfodol am resymau amddiffyn plant, dylai ysgolion ystyried creu rhif unigryw newydd ar gyfer y disgybl. Mewn achosion lle nad yw hyn yn briodol, dylent hysbysu desg gymorth asesiadau personol ar 029 2026 5099 neu cymorth@asesiadaupersonol.cymru.
Efallai y bydd gan ddysgwr hunaniaeth newydd sy'n golygu bod angen sicrhau nad oes cysylltiad rhwng cofnod gwreiddiol y disgybl a'r cofnod newydd. Mewn achos felly, darllenwch y canllawiau ar rif unigryw disgyblion a phlant mewn perygl yn y 'Canllawiau i ysgolion roi'r strategaeth rheoli gwybodaeth ar waith'.
Mae angen ichi greu cofnod disgybl newydd ym MIS yr ysgol i greu cyfrif Hwb newydd i'r dysgwr a dileu unrhyw ddolen i'w gyfrif Hwb presennol. Cofnod a rhif unigryw newydd ym MIS yr ysgol yw'r unig ffordd o sicrhau nad yw enw a chyfeiriad e-bost blaenorol y dysgwr bellach yn gysylltiedig â'r manylion yn system Hwb a'r system asesiadau personol.
Cyn creu cofnod disgybl newydd, mae angen ichi ddeall beth mae hyn yn ei olygu o safbwynt Hwb a'r system asesiadau personol. Er enghraifft, colli ffeiliau ysgol, negeseuon e-bost a hen adborth ac adroddiadau ar asesiadau personol. Fodd bynnag, ni ddylai enw blaenorol y dysgwr fod yn weladwy mwyach.
Bydd yr enw newydd yn ymddangos ar y fformat 'llythyren gyntaf a chyfenw', er enghraifft J Bloggs.
Bydd yr enw newydd yn ymddangos ar y fformat 'enw cyntaf a llythyren gyntaf cyfenw' er enghraifft Joe B.
Bydd yr enw yn ymddangos fel 'enw cyntaf a chyfenw', er enghraifft Joe Bloggs.
Bydd angen diweddaru'r enw i'w arddangos â llaw fel proses ar wahân.