Neidio i'r prif gynnwy

Sut gall gweinyddwyr Hwb weld ac ailosod cyfrinair pob defnyddiwr.

Ailosod cyfrineiriau

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth Rheoli Defnyddwyr.

  2. Cliciwch Gweld Defnyddwyr: Dewiswch y math o ddefnyddiwr (Staff, Llywodraethwyr, Staff nad ydynt yn y System Gwybodaeth Reoli).

  3. Defnyddiwch Chwilio Term i ddod o hyd i'r defnyddiwr, er enghraifft, teipiwch ei gyfenw a chlicio Chwilio.

  4. Cliciwch y botwm Gweld y Manylion (i’r dde i fanylion y defnyddiwr).

  5. Cliciwch ar Rheoli Defnyddwyr: Ailosod y Cyfrinair. Mae 2 opsiwn, Dewiswch eich cyfrinair eich hun neu Cael cyfrinair gan y system.

Dewiswch eich cyfrinair eich hun

Rhowch eich cyfrinair eich hun yn y blychau perthnasol. Mae angen i gyfrineiriau ddefnyddio o leiaf 8 nod sy'n cynnwys cymysgedd o rifau a llythrennau bach a mawr. Cliciwch Diweddaru Cyfrinair.

Cael cyfrinair gan y system

Cliciwch Creu Cyfrinair i gael cyfrinair gan y system. Nodwch y cyfrinair newydd a chlicio Diweddaru Cyfrinair.

Lawrlwytho enwau defnyddwyr a chyfrineiriau dysgwyr neu staff ysgol i Excel

Gall staff ysgolion a gweinyddwyr Hwb lawrlwytho ffeil .csv o enwau defnyddwyr a chyfrineiriau dysgwyr neu staff i Excel.

  1. Mewngofnodwch i Hwb a mynd i'r Porth Rheoli Defnyddwyr.

  2. Yn y Dangosfwrdd Gweinyddwyr Ysgol, cliciwch Gweinyddiaeth.

  3. O dan Llwytho Cyfrineiriau i Lawr, cliciwch Pob Disgybl.

  4. Bydd rhybudd yn ymddangos: "Sylwer: Os byddwch chi'n llwytho manylion adnabod defnyddiwr i lawr, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu trin yn briodol".

  5. Cliciwch Parhau i lwytho i lawr er mwyn bwrw ymlaen (neu cliciwch Mynd yn ôl i ganslo'r gorchymyn).

  6. Cliciwch y ffeil .csv sydd wedi'i llwytho i lawr er mwyn ei hagor yn Excel. Bydd y ffeil yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol am ddefnyddwyr, y gellir ei threfnu fel y bo'n briodol:

    • enw cyntaf

    • cyfenw

    • enw defnyddiwr

    • cyfrinair

    • dyddiad creu

    • blwyddyn

    • grŵp cofrestru

    • caniatâd

    • rhif mynediad

    • diogelu data

Gweld statws cyfrinair defnyddiwr

Gall gweinyddwyr Hwb weld statws cyfrinair defnyddiwr drwy'r Porth Rheoli Defnyddwyr. Rhestrir y defnyddwyr, gan gynnwys statws cyfrinair eu cyfrif.

Bydd Dangos y Cyfrinair yn dangos cyfrinair y defnyddiwr penodol dan sylw. Bydd y cyfrinair yn diflannu eto unwaith y bydd y cyrchwr yn cael ei symud i ffwrdd o flwch y cyfrinair. Fodd bynnag, mae botwm copïo i'r clipfwrdd ar gael wrth ymyl y cyfrinair.

Os oes cysylltnod ym mlwch y cyfrinair, nid yw'r cyfrinair ar gael yn y Porth Rheoli Defnyddwyr. Os nad yw'r defnyddiwr yn cofio ei gyfrinair, bydd angen ichi ei ailosod. Yna bydd y cyfrinair newydd yn ymddangos o dan Dangos y Cyfrinair.

Os yw'r defnyddiwr wedi newid ei gyfrinair ei hun, bydd y neges Mae'r defnyddiwr wedi newid y cyfrinair yn ymddangos.