Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae amgylchedd digidol ysgol yn dibynnu ar seilwaith rhwydwaith sydd wedi'i gynllunio'n dda, sy’n ddiogel ac sy’n cael ei reoli'n broffesiynol. Mae hyn yn cynnwys cabinetau rhwydwaith data, offer llwybro a switsio, a cheblau rhwydwaith strwythuredig sy'n cysylltu dyfeisiau ar draws rhwydwaith yr ysgol. Ar y cyd, mae'r cydrannau hyn yn sicrhau bod y rhwydwaith yn ddiogel ac yn ddibynadwy ac yn gallu cael ei hehangu, gan ofalu bod y rhwydwaith yn gallu cefnogi dysgu, addysgu a gweinyddu.

Rhaid i ddyluniad rhwydwaith flaenoriaethu dibynadwyedd a’r gallu i ehangu, gan alluogi ysgolion i gefnogi profiadau digidol cynyddol gyfoethog, offer cwmwl, cydweithio mewn amser real a thechnolegau datblygol.

Mae'r safon hon yn nodi disgwyliadau ar gyfer cynllunio, gosod a chynnal amgylchedd y rhwydwaith ffisegol mewn ysgolion. Mae'n diffinio'r amodau sydd eu hangen i amddiffyn offer critigol a chynnal perfformiad rhwydwaith cyson. Mae hefyd yn cwmpasu gofynion ar gyfer ceblau o safon y diwydiant, gosodiadau proffesiynol, dogfennaeth glir a dyluniad sy'n barod ar gyfer y dyfodol, wedi’u cyflawni mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a phartneriaid cymorth technoleg addysg.

Nid oes disgwyl i ysgolion reoli agweddau technegol yn uniongyrchol. Fodd bynnag, maen nhw’n gyfrifol am sicrhau bod trefniadau priodol ar waith. Rhaid i ardaloedd seilwaith rhwydwaith barhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch i weithwyr proffesiynol awdurdodedig yn unig. Dylai ysgolion weithio gyda'u hawdurdod lleol neu bartner cymorth technoleg addysg i sicrhau bod offer rhwydwaith yn cael ei osod, ei gynnal a'i ehangu i fodloni eu hanghenion presennol a’u hanghenion yn y dyfodol.

BCD1: ysgolion i sicrhau bod ganddynt gabinetau rhwydwaith data addas a diogel, y mae posibl eu hehangu sy'n cadw ac yn diogelu offer rhwydweithio hanfodol

Dylai ysgolion sicrhau bod ganddynt gabinetau rhwydwaith data sydd wedi'u cynllunio'n dda, sy’n ddiogel ac o faint priodol ar draws eu safle sy'n cadw ac yn diogelu'r holl offer rhwydweithio hanfodol. Mae cabinet sydd wedi'i bennu'n addas yn darparu'r sylfaen ffisegol ar gyfer rhwydwaith ysgol sefydlog a dibynadwy. Dylai cabinetau ddarparu ar gyfer y gwasanaeth band eang sy'n dod i mewn, switshis craidd ac unrhyw gydrannau hanfodol eraill mewn modd trefnus sy'n atal tagfeydd, yn sicrhau llif aer clir ac yn cefnogi cynnal a chadw effeithlon.

Mae cabinet sydd â digon o gapasiti a chynllun mewnol taclus sydd wedi'i gynllunio'n dda yn caniatáu i offer gael ei ychwanegu, ei waredu neu ei uwchraddio heb lawer o ymyrraeth. Mae hyn yn lleihau'r risg o ddifrod corfforol, datgysylltu damweiniol a gorboethi, tra'n cefnogi’r gallu hirdymor i ehangu wrth i ofynion digidol gynyddu. Dylai ysgolion weithio gyda'u hawdurdod lleol neu bartner cymorth technoleg addysg i sicrhau bod dewis, gosodiad a lleoliad y cabinet yn cyd-fynd â chynlluniau seilwaith ehangach ac yn darparu amgylchedd diogel a phosib i’w ehangu ar gyfer caledwedd rhwydweithio hanfodol.

Rhaid i'r holl gabinetau, switshis a gosodiadau ceblau strwythuredig gael eu cynnal gan weithwyr proffesiynol cymwysedig sy'n dilyn safonau diwydiant cydnabyddedig. Mae gwaith gosod proffesiynol yn sicrhau bod seilwaith yr ysgol yn cael ei ddefnyddio'n ddiogel, yn gyson ac mewn modd sy'n cefnogi cynnal a chadw, gwytnwch a pherfformiad hirdymor.

BCD2: ysgolion i sicrhau bod cabinetau rhwydwaith data mewn amgylcheddau a reolir, gyda chyflenwad pŵer di-dor (UPS), sy'n diogelu offer ac yn cefnogi gweithrediad dibynadwy

Mae lleoliad y cabinet rhwydwaith data yn hanfodol i berfformiad, dibynadwyedd a hirhoedledd seilwaith rhwydwaith yr ysgol. Rhaid gosod cabinetau mewn amgylchedd diogel, ymyrraeth isel sy'n darparu rheolaeth llif aer a thymheredd priodol i atal gorboethi a lleihau risgiau amgylcheddol. Mae osgoi ardaloedd sy'n dueddol o gynnwys sŵn, gwres, lleithder neu ymyrraeth ffisegol yn helpu i gynnal perfformiad rhwydwaith sefydlog a chyson. Dylai cabinetau fod wedi'u lleoli yn ddigon pell i ffwrdd o fannau dysgu ac addysgu i osgoi ymyrru ar wersi.

Ni ddylid storio offer sy'n gallu achosi ymyrraeth drydanol neu amledd radio ger y cabinet, gan y gall hyn amharu ar gysylltedd ac effeithio'n negyddol ar ddysgu ac addysgu. Mae cynnal gofod clir a rheoledig o amgylch y cabinet hefyd yn hwyluso mynediad diogel i weithwyr proffesiynol awdurdodedig ac yn lleihau'r risg o ddifrod damweiniol.

Mae cyflenwad pŵer sefydlog a phenodedig yn hanfodol. Dylai cabinetau gael eu cefnogi gan gyflenwad pŵer di-dor (UPS) i amddiffyn offer critigol rhag toriadau pŵer tymor byr, ymchwyddiadau pŵer ac amrywiadau trydanol. Mae hyn yn helpu i gynnal parhad y gwasanaeth, yn atal colli data ac yn lleihau'r tebygolrwydd o amser segur annisgwyl.

Dylai ysgolion ymgynghori â'u hawdurdod lleol neu bartner cymorth technoleg addysg cyn gwneud unrhyw newidiadau i ystafell cabinet neu ei defnydd arfaethedig. Mae hyn yn sicrhau bod gofynion diogelwch, amgylcheddol a hygyrchedd yn parhau i gael eu bodloni, a bod y seilwaith rhwydwaith yn parhau i fod yn ddibynadwy ac yn ddiogel.

Mae canllawiau pellach ar leoliad diogel, rheolaeth amgylcheddol a diogelu pŵer ar gael yn y canllawiau ar gynllunio a rheoli.

BCD3: ysgolion i sicrhau bod gan gabinetau rhwydwaith data gyflenwad pŵer pwrpasol a sefydlog, gan gynnwys daearu priodol, sy'n bodloni'r gofynion diogelwch trydanol angenrheidiol

Mae cyflenwad pŵer pwrpasol a sefydlog yn hanfodol ar gyfer sicrhau gweithrediad dibynadwy offer rhwydwaith sydd wedi'i leoli mewn cabinetau rhwydwaith data. Mae darpariaeth gyson o bŵer yn lleihau'r risg o dorri ar draws y gwasanaeth, yn amddiffyn caledwedd sensitif rhag difrod ac yn cefnogi perfformiad rhwydwaith rhagweladwy ar draws yr ysgol. Dylai pŵer a gyflenwir i gabinetau rhwydwaith fod wedi’i ddylunio’n benodol at y diben hwn ac ni ddylid ei rannu ag offer nad ydynt yn gritigol a allai gyflwyno ansefydlogrwydd neu risg drydanol.

Rhaid i gabinetau gael eu bondio'n briodol i leihau'r risg o ddiffygion trydanol ac amddiffyn offer rhag amrywiadau pŵer. Mae daearu effeithiol yn cefnogi gweithrediad sefydlog y rhwydwaith ac yn lleihau'r tebygolrwydd o ddifrod i offer neu darfu annisgwyl ar wasanaeth dros amser. Rhaid i'r holl offer sydd wedi'u gosod o fewn y cabinet neu sydd wedi'u cysylltu â'r cabinet gydymffurfio â safonau trydanol cydnabyddedig. Pan fo angen asesiad pellach, dylai ysgolion ofyn am gyngor gan weithwyr trydanol proffesiynol cymwys neu eu hawdurdod lleol i gadarnhau bod y gosodiadau yn bodloni'r gofynion cyfredol a bod modd eu cyrraedd yn ddiogel a'u cefnogi.

Rhaid i’r holl waith trydanol, systemau cadw ceblau a deunyddiau gwrthsefyll tân sy'n gysylltiedig â seilwaith y rhwydwaith gydymffurfio â Gosodiadau Trydanol (Rheoliadau Gwifrau’r IET) BS 7671. Mae cydymffurfio â'r safon hon yn sicrhau arferion gosod diogel, amddiffyniad trydanol priodol a llwybrau gwrthsefyll tân addas ar gyfer ceblau rhwydwaith, gan gefnogi dibynadwyedd gweithredol ac uniondeb seilwaith hirdymor.

BCD4: ysgolion i sicrhau bod cabinetau rhwydwaith data yn cael eu rheoli a'u cynnal i gefnogi gweithrediad diogel, adnabod cywir a rheoli newid yn effeithiol

Rhaid i ysgolion sicrhau bod cabinetau rhwydwaith data yn cael eu rheoli gan ddefnyddio arferion cyson, wedi'u cynnal yn dda ar lefel cabinet sy'n cefnogi adnabod cywir, cynnal a chadw diogel a pherfformiad hirdymor dibynadwy.

Rhaid i gabinetau alluogi adnabod cysylltiadau yn glir a pherthynas gydlynol rhwng allfeydd, paneli pats ac offer gweithredol. Dylai arferion labelu ac adnabod fod wedi'u strwythuro, yn gyson ac yn gynaliadwy fel y gellir deall a rheoli asedau rhwydwaith dros amser, waeth pwy sy'n ymgymryd â'r gwaith.

Rhaid i geblau mewn cabinetau fod yn daclus, yn ddiogel a chael eu llacio’n briodol rhag straen, gan ddefnyddio ceblau pats o hyd addas a dulliau trefnu sy'n lleihau'r risg o ddatgysylltu'n ddamweiniol, difrod corfforol neu darfu ar y gwasanaeth. Mae rheolaeth dda ar geblau yn cefnogi mynediad diogel, canfod namau’n effeithlon ac ehangu neu newid yn y dyfodol.

Rhaid i arferion rheoli cabinet effeithiol hefyd gefnogi cofnodion rhwydwaith cywir, gan gynnwys stocrestrau a dogfennaeth, fel y gellir cynllunio, gweithredu ac adolygu newidiadau gyda'r effaith leiaf ar ddysgu ac addysgu. Mae cabinetau sydd wedi'u cynnal yn dda yn galluogi datrys problemau yn gyflymach, uwchraddio mwy diogel ac addasu hyderus wrth i ofynion digidol ysgolion esblygu.

BCD5: ysgolion i sicrhau bod llwybryddion a switshis yn darparu digon o gapasiti, dibynadwyedd a pherfformiad i gefnogi dysgu digidol

Rhaid i lwybryddion a switshis a ddefnyddir o fewn rhwydwaith yr ysgol ddarparu'r capasiti, y dibynadwyedd a’r perfformiad sydd eu hangen i gefnogi'r nifer uchel o ddefnyddwyr, dyfeisiau a gwasanaethau ar-lein sy'n sail i ddysgu ac addysgu modern. Mae llwybryddion gradd menter yn hanfodol, gan eu bod yn cynnig y gwytnwch, y nodweddion diogelwch a’r cydnawsedd sydd eu hangen i integreiddio'n ddibynadwy â chysylltedd band eang. Dylai dewisiadau switsh adlewyrchu graddfa a strwythur yr ysgol, gan sicrhau bod capasiti lled band yn ddigonol i atal tagfeydd a bod dyfeisiau ar draws y safle yn cynhyrchu perfformiad sefydlog, rhagweladwy.

Rhaid i'r dyluniad rhwydwaith cyffredinol ddarparu'r llwybr mwyaf effeithlon ac uniongyrchol o’r dyfeisiau i'r rhyngrwyd. Mae dylunio ar gyfer effeithlonrwydd yn helpu i leihau cuddni, lleihau tagfeydd ac yn cefnogi mynediad di-dor at adnoddau digidol. Mae adolygiad rheolaidd o lwybrau a switshis, fel rhan o gynllunio cylch oes strwythuredig, yn sicrhau bod perfformiad yn parhau i fod yn gyson wrth i weithgarwch digidol dyfu ac wrth i dechnolegau newydd gael eu cyflwyno.

Er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith yn gallu bodloni gofynion dysgu digidol modern, dylai rhwydwaith craidd yr ysgol weithredu ar gyflymder o leiaf 10Gbps, gyda chapasiti 1-2.5Gbps ar yr haen fynediad, yn dibynnu ar faint yr ysgol a dwysedd dyfeisiau cysylltiedig. Mae'r lefel hon o gapasiti yn sicrhau y gall switshis a llwybryddion reoli cyfeintiau uchel o draffig ar yr un pryd heb achosi dirywiad mewn perfformiad na chuddni annisgwyl.

BCD6: ysgolion i sicrhau bod llwybryddion a switshis yn cael eu gosod yn broffesiynol a'u rheoli'n rhagweithiol gan yr awdurdod lleol neu'r partner cymorth technoleg addysg

Mae ansawdd gosod switshis, ffurfweddu a rheoli parhaus yn cael effaith sylweddol ar berfformiad a sefydlogrwydd rhwydwaith yr ysgol. Rhaid gosod pob switsh yn broffesiynol, gan ddefnyddio cysylltwyr priodol, ceblau strwythuredig a chysylltau esgynnol capasiti uchel i sicrhau llif data effeithlon a lleihau'r risg o dagfeydd.

Mae switshis rheoledig yn darparu galluoedd hanfodol, megis monitro o bell, ffurfweddu, diagnosteg a rhybuddion awtomataidd, sy'n galluogi timau cymorth i nodi, ymchwilio a datrys materion cyn iddynt effeithio ar ddysgu ac addysgu. Ni ddylid defnyddio dyfeisiau heb eu rheoli na hybiau bach gradd defnyddwyr o fewn rhwydwaith yr ysgol.

Rhaid ffurfweddu a chynnal switshis yn ddiogel mewn cydweithrediad â'r awdurdod lleol neu'r partner cymorth technoleg addysg. Mae hyn yn sicrhau bod ffurfweddiadau yn parhau i gyd-fynd â gofynion diogelwch, bod modd ehangu'r capasiti yn briodol, a bod newidiadau'n cael eu rheoli mewn ffordd reoledig, rhagweladwy wrth i'r defnydd digidol barhau i dyfu.

Rhaid i'r holl seilwaith switshis gael ei osod a'i ffurfweddu gan weithwyr proffesiynol cymwys sy'n dilyn arferion peirianneg rhwydwaith cydnabyddedig. Rhaid i osodiadau gefnogi cysylltau esgynnol capasiti uchel, gan gynnwys cysylltau 10Gbps rhwng lleoliadau allweddol lle bo angen, i gynnal perfformiad cryf ac atal tagfeydd wrth i'r galw gynyddu. Mae switshis wedi'u gosod yn broffesiynol, wedi'u dogfennu'n dda ac wedi'u rheoli'n rhagweithiol yn cefnogi defnyddio diogel, gweithrediad sefydlog a chynnal a chadw yn y tymor hir ar draws rhwydwaith yr ysgol.

BCD7: Mae'r holl geblau rhwydwaith strwythuredig i'w hadolygu o bryd i'w gilydd i adlewyrchu anghenion esblygol yr ysgol ac i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gydnaws â gofynion rhwydwaith sy'n newid

Rhaid adolygu ceblau rhwydwaith strwythuredig o bryd i'w gilydd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben wrth i amgylchedd digidol yr ysgol dyfu ac esblygu. Gall newidiadau i fannau dysgu ac addysgu, cynnydd mewn dwysedd dyfeisiau neu gyflwyno systemau digidol newydd olygu bod angen gwneud addasiadau i lwybrau ceblau er mwyn cynnal cysylltedd dibynadwy, o ansawdd uchel. Mae adolygiad cyfnodol yn helpu i sicrhau bod ceblau yn parhau i fodloni disgwyliadau perfformiad ac yn cefnogi datblygiad y seilwaith yn y dyfodol.

Rhaid i geblau rhwydwaith strwythuredig fod yn briodol o ran eu hyd a defnyddio copr Cat6A fel y safon leiaf i ddarparu cysylltedd dibynadwy o ansawdd uchel ac i gefnogi’r gofynion digidol cynyddol o fewn amgylcheddau dysgu ac addysgu. Rhaid i bob cebl ffibr mewnol newydd ddefnyddio ffibr OM4, gyda ffibr 16-craidd wedi'i ddefnyddio lle bo hynny'n briodol i ddarparu capasiti asgwrn cefn ychwanegol a chefnogi ehangu ar draws safle'r ysgol yn y dyfodol.

Mae adolygiad rheolaidd o geblau strwythuredig yn helpu i atal tagfeydd sy'n dod i'r amlwg, yn sicrhau bod offer yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn lleihau'r tebygolrwydd o newidiadau trafferthus, ar raddfa fawr yn y dyfodol. Dylai ysgolion sicrhau bod eu hawdurdod lleol neu bartner cymorth technoleg addysg yn cynnal adolygiadau, uwchraddiadau ac addasiadau ceblau rheolaidd sy'n cyd-fynd â chynllunio seilwaith hirdymor a disgwyliadau ehangach a nodir yng nghynllun datblygu’r ysgol, a safonau digidol addysg eraill.

Rhaid i bob gosodiad ceblau strwythuredig gydymffurfio â BS 6701, BS EN 50173 a BS EN 50174. Mae cydymffurfio â'r safonau hyn yn sicrhau bod cydrannau, dulliau gosod ac atebion ynysu yn bodloni gofynion cydnabyddedig y diwydiant. Mae cadw at y safonau hyn yn cefnogi gosodiad diogel, dibynadwyedd hirdymor a pherfformiad cyson ar draws seilwaith rhwydwaith yr ysgol.

BCD8: ysgolion i sicrhau bod ceblau strwythuredig sydd wedi'u gosod rhwng adeiladau yn cael eu ynysu yn ddiogel a'u gosod yn broffesiynol yn unol â chanllawiau'r awdurdodau lleol a safonau diwydiant cydnabyddedig

Mae ceblau strwythuredig sy'n cysylltu adeiladau lluosog yn hanfodol ar gyfer cynnal cysylltedd dibynadwy, o ansawdd uchel ar draws safle'r ysgol. Er mwyn diogelu'r ceblau hyn rhag difrod ffisegol, amlygiad i'r tywydd a risgiau amgylcheddol, rhaid eu gosod gan ddefnyddio ynysu priodol sy'n cyd-fynd â chynllun seilwaith y safle a'r holl ofynion diogelwch perthnasol. Mae ynysu priodol yn lleihau'r tebygolrwydd o ddiffygion, yn cefnogi cysylltedd cyson ac yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau data critigol yn parhau i fod yn sefydlog ar draws yr ystâd.

Rhaid i gysylltiadau ffibr rhwng adeiladau ddefnyddio ffibr OM4 fel safon sylfaenol. Rhaid gosod ceblau mewn modd sy'n amddiffyn rhag peryglon amgylcheddol, difrod damweiniol ac ymyrraeth. Lle bo hynny'n briodol, dylid defnyddio ffibr 16-craidd i ddarparu capasiti ychwanegol, gwytnwch ac opsiynau ehangu yn y dyfodol ar draws ystâd yr ysgol. Mae hyn yn sicrhau y gall y rhwydwaith ehangu'n effeithiol wrth i ofynion digidol dyfu.

Rhaid i’r holl geblau rhwng adeiladau gael eu gosod gan weithwyr proffesiynol cymwysedig sy'n dilyn safonau gosod cydnabyddedig y diwydiant ac unrhyw ddisgwyliadau a osodir gan yr awdurdod lleol. Mae gosodiad proffesiynol yn sicrhau bod y ceblau’n cael eu defnyddio’n ddiogel, eu cadw’n ddiogel, ac yn ddibynadwy yn y tymor hir, gan leihau'r tebygolrwydd o doriadau yn y gwasanaeth ac ymestyn oes weithredol seilwaith yr ysgol.

BCD9: ysgolion i sicrhau bod yr holl allfeydd rhwydwaith a therfyniadau cabinet yn cael eu labelu'n glir ac yn unigryw

Mae labelu clir a chyson yn hanfodol ar gyfer rheoli rhwydwaith yn effeithiol ac yn cefnogi gweithrediad diogel a chywir seilwaith digidol yr ysgol. Rhaid labelu pwyntiau trydan y rhwydwaith yn glir ac mewn modd unigryw er mwyn caniatáu i dimau cymorth olrhain cysylltiadau yn gyflym, gwneud diagnosis o ddiffygion yn effeithlon a chynnal a chadw mewn modd rheoledig.

Mae system labelu sy’n cael ei gweithredu'n dda a'i chymhwyso'n gyson yn lleihau amser segur, yn atal gwallau yn ystod uwchraddio neu atgyweiriadau ac yn sicrhau bod dogfennaeth yn parhau i fod yn gywir ac yn gynaliadwy. Dylai ysgolion sicrhau bod y dull labelu a ddewiswyd yn cael ei ddeall a'i ddilyn gan yr holl bartneriaid cymorth, gan helpu i gynnal amgylchedd rhwydwaith clir, rheoladwy ac wedi’i ddiogelu ar gyfer y dyfodol.