Sut i ddefnyddio Britannica i chwilio yn ddiogel.
Mae Britannica School yn rhoi mynediad i ysgolion at adnoddau o ansawdd uchel:
erthyglau digidol dibynadwy
bywgraffiadau
delweddau
fideos
cynnwys rhyngweithiol
Drwy Hwb, mae gan bob ysgol a gynhelir yng Nghymru fynediad at Britannica School.
Gall ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion archwilio adnoddau Britannica School a recordiadau Gŵyl Digi Hwb i gael cymorth cam wrth gam a gwybodaeth ar sut i’w ddefnyddio’n ymarferol.
Mae Britannica School yn darparu cynnwys ar wahanol lefelau darllen:
Sylfaen: argymhellir ar gyfer 8 i 11 oed
Canolradd: argymhellir ar gyfer 11 i 14 oed
Uwch: argymhellir ar gyfer 14 i 18 oed a hŷn
Dysgwch fwy am chwilio, rhannu a chadw yn Britannica ar Hwb.
Mae 2 ffordd i gael mynediad at Britannica Education:
Mewngofnodi i wefan Hwb a chlicio ar ap Britannica Education ar ddangosfwrdd Hwb. Mae'r dudalen hon yn rhoi mynediad i ddysgwyr ac ymarferwyr at Britannica School a Britannica ImageQuest.
Chwilio'n uniongyrchol am gynnwys o Britannica School a Britannica ImageQuest yn yr ardal Adnoddau ar Hwb.
Ar hyn o bryd dim ond yn Saesneg y mae tudalennau hafan Britannica School ar gael. Wrth edrych ar erthygl, gallwch ar y botwm cyfieithu a dewis eich iaith.
Darparu cynnwys digidol o ansawdd uchel am ystod eang o themâu a phynciau cyffredin i wella addysgu a dysgu ar draws y Cwricwlwm i Gymru.
Datblygu sgiliau ymchwil, gwirio ffeithiau a meddwl beirniadol dysgwyr.
Darparu mynediad at ffynonellau ychwanegol o gynnwys dibynadwy fel cyfnodolion, e-lyfrau, newyddion a ffynonellau cynradd eraill.
Darparu amgylchedd diogel, wedi'i hidlo ar gyfer ymchwil ar-lein.
Gwella hygyrchedd trwy nodweddion fel Darllen yn Uchel, lefelau darllen y gellir eu haddasu a chefnogaeth weledol.
Helpu i ddatblygu llythrennedd digidol trwy offer dyfynnu parod a ffynonellau gwybodaeth strwythuredig.
Yn cynnwys offer ar gyfer gosod tasgau ymchwil ac aseiniadau i Google Classroom neu Microsoft Teams yn uniongyrchol o fewn y platfform.
Sicrhau bod y defnydd o Britannica School yn cyd-fynd â pholisïau ehangach yr ysgol megis diogelu, llythrennedd digidol, diogelwch ar-lein, defnydd derbyniol a diogelu data.
Wrth ddefnyddio Britannica School, dim ond yn yr iaith Saesneg y gellir cynnal chwiliadau ar hyn o bryd.
Mae Britannica School yn cynnwys nodweddion hygyrchedd i gefnogi pob dysgwr. Mae'r rhain yn cynnwys offeryn "Darllen yn Uchel" (“Read Aloud”) sy'n adrodd erthyglau ac opsiwn ffont 'OpenDyslexic' wedi'i gynllunio i wella darllenadwyedd i ddysgwyr â dyslecsia. Fodd bynnag, nid yw'r nodwedd Darllen yn Uchel yn ddibynadwy ar hyn o bryd ar gyfer cynnwys Cymraeg.
Wrth edrych ar erthygl, delwedd, fideo, cyfnodolyn ac ati mae dewis yr opsiwn "Cadw" yn annog y defnyddiwr i greu cyfrif personol. Gall ymarferwyr ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost Hwb i greu cyfrif. Gall dysgwyr greu cyfrif heb roi cyfeiriad e-bost.
Os yw dysgwr yn anghofio ei fanylion mewngofnodi, rhaid i ymarferydd gysylltu â Britannica am gais i ailosod cyfrinair.
Dylai ysgolion ystyried:
a oes angen Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA) newydd
neu a ddylid diweddaru eu DPIA presennol
Nid yw Britannica Education yn defnyddio nac yn storio gwybodaeth bersonol na data dysgwr.
Mae rhyngweithiad pob defnyddiwr â Britannica yn annibynnol ac yn breifat. Am fwy o wybodaeth am gydymffurfiaeth Britannica â deddfau a rheoliadau preifatrwydd data, cyfeiriwch at Britannica Education Privacy Policy Notice. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â data dysgwyr.
Nid yw Britannica Education yn defnyddio data dysgwyr ar gyfer hysbysebu neu farchnata wedi'i dargedu, nac yn gwerthu data i drydydd partïon.
Gellir cyfuno Britannica Education gydag offer fel Microsoft Teams a Google Classroom. Dylai ysgolion sicrhau eu bod yn deall sut mae data dysgwyr yn cael ei drin wrth gyfuno rhaglenni fel hyn.
Natur y prosesu
Dim ond yr wybodaeth bersonol a'r data dysgwyr sy’n angenrheidiol i ddarparu mynediad i Britannica School ac ImageQuest trwy gyfrwng Hwb a gesglir gan Britannica Education.
Mae’r ymarferwyr a’r dysgwyr yn rheoli pa ddata a gofnodir.
Dim ond gyda gwerthwyr trydydd parti sy'n cefnogi gweithrediad Britannica School ac ImageQuest y mae Britannica Education yn rhannu data.
Ni ddefnyddir data i farchnata cynhyrchion neu wasanaethau i ddysgwyr.
Nid yw’r gwasanaethau’n cynnwys unrhyw hysbysebion trydydd parti neu hysbysebion a dargedir.
Nid yw Britannica Education yn mynd ati’n ymwybodol i gasglu na cheisio gwybodaeth bersonol gan blant dan 16 oed neu ynglŷn â phlant dan 16 oed, oni bai y caniateir hynny gan y gyfraith neu gan gontract. Os gwelir bod gwybodaeth bersonol wedi'i chasglu gan blentyn dan 16 oed yn groes i'r polisi hwn, bydd yn cael ei dileu ar unwaith.
Cwmpas y prosesu
Mae Britannica Education yn prosesu data ymarferwyr a data dysgwyr er mwyn darparu mynediad i Britannica School ac ImageQuest trwy gyfrwng Hwb.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd darparwyr gwasanaethau trydydd parti yn:
cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau
cael mynediad at wybodaeth bersonol
Cyfyngir y mynediad hwn i'r hyn sy'n angenrheidiol ar gyfer darparu gwasanaethau ar ran Britannica School.
Gall Britannica Education a darparwyr gwasanaethau trydydd parti awdurdodedig ddefnyddio:
cwcis
tywysyddion (beacons)
technolegau tebyg
Defnyddir y rhain:
i alluogi ymarferwyr a dysgwyr i lywio Britannica School ac ImageQuest trwy Hwb
at ddibenion ystadegol
i ddadansoddi a gwella'r modd y defnyddir eu gwasanaethau
i baratoi adroddiadau defnydd anadnabyddadwy
Rhannu data
Dim ond i’r canlynol y bydd data dysgwyr yn cael ei ddatgelu:
gweithwyr awdurdodedig Llywodraeth Cymru
uwch gynrychiolwyr ysgol
Ni fydd Britannica Education yn datgelu data dysgwyr yn fwriadol i unrhyw drydydd person heb gael caniatâd ysgrifenedig penodol.
Y modd y caiff eich gwybodaeth ei storio a'i chadw'n ddiogel
Caiff gwybodaeth bersonol a gesglir trwy gyfrwng Britannica Education ei storio ar weinyddion mynediad cyfyngedig.
Mae Britannica Education yn cynnal rhaglen diogelwch gwybodaeth. Maent yn defnyddio mesurau diogelu sefydliadol, ffisegol, technegol a gweinyddol rhesymol i ddiogelu eu gweinyddwyr a'r data sydd arnynt rhag mynediad, defnydd, datgeliad, colled neu newidiadau anawdurdodedig.
Mae’r mesurau diogelwch yn cynnwys, ymhlith eraill:
amgryptio data
mesurau diogelwch sy'n amddiffyn rhag mynediad anawdurdodedig ac ymosodiad allanol
polisïau mewnol a hyfforddiant i staff yn ymwneud â diogelu data
polisi hysbysu ynghylch tor diogelwch data.
Caiff mesurau diogelwch eu hadolygu, eu profi a'u diweddaru'n rheolaidd.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler Britannica Education Privacy Policy.