Sut i ddefnyddio Google Meet ar gyfer ffrydio byw neu fideogynadledda.
Mae Google Meet ar gyfer galwadau fideo a chyfarfodydd ar-lein ac mae'n galluogi ymarferwyr i gyflwyno:
gwersi byw
cefnogi cydweithio
sicrhau parhad dysgu
Gall dysgwyr gysylltu â'u hymarferwyr a'u cyfoedion mewn amser real, boed yn dysgu o bell neu'n dal i fyny ar gynnwys a gollwyd.
Mae gan holl staff ysgol a dysgwyr sydd â chyfrifon Hwb fynediad i Google Meet trwy Google Workspace for Education.
Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu pwyntiau ac ystyriaethau allweddol ar gyfer defnyddio Google Meet i gefnogi gwersi byw. Gall ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion archwilio cyrsiau ac adnoddau Google for Education i gael cymorth cam wrth gam llawn ar sut i’w weithredu’n ymarferol.
Mae 2 brif ffordd o gael mynediad i Google Meet o blatfform Hwb:
mewngofnodwch i Hwb a dewiswch yr ap Google for Education o'r dangosfwrdd. Yna agorwch Meet o'r lansiwr apiau (yr eicon grid yn y gornel dde uchaf).
fel arall, ewch yn uniongyrchol i meet.google.com a mewngofnodi gan ddefnyddio eich cyfrif Hwb. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi gyda'ch manylion Hwb bob tro, nid cyfrif Google personol.
Ar gyfer ymarferwyr a dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, bydd y Gymraeg yn cael ei dewis fel yr iaith ddiofyn. Ar gyfer y rhai mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, bydd y Saesneg yn cael ei dewis yn ddiofyn. Dysgwch sut i newid eich gosodiadau iaith.
Mae Google Meet yn cefnogi fformatau cyflwyno gwersi hyblyg ar gyfer hyd at 100 o gyfranogwyr, gan gynnwys:
cyfarfodydd ar unwaith ar gyfer sesiynau cyflym, ad-hoc
cyfarfodydd wedi'u trefnu trwy Google Calendar ar gyfer gwersi strwythuredig gyda dolenni ymuno awtomatig
cyfarfodydd rheolaidd ar gyfer dosbarthiadau neu sesiynau grŵp rheolaidd
Gall ymarferwyr sydd â thrwydded Google wedi’i huwchraddio ar gyfer Addysgu a Dysgu hefyd recordio gwersi a'u rhannu â dysgwyr nad oeddent yn gallu ymuno â'r sesiwn fyw. Darganfyddwch fwy am recordio cyfarfod fideo.
Dylai ysgolion adolygu neu ddiweddaru eu Hasesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA) wrth ddefnyddio Google Meet ar gyfer gwersi byw.
Mae Google Meet trwy Hwb yn cydymffurfio â GDPR y DU a safonau diogelu data.
Rhaid i ymarferwyr sicrhau nad oes unrhyw wybodaeth bersonol, sensitif neu gyfrinachol yn cael ei rhannu wrth ddefnyddio Google Meet.
Yn ddiofyn, mae Google Meet yn cadw gweithgarwch y gorffennol ar gyfer defnyddwyr unigol am gyfnod amhenodol. Mae hyn yn cynnwys manylion fel dyddiad, amser, hyd cyfarfodydd, ac enwau'r cyfranogwyr. I ddileu’n atwomatig bob 3, 18, neu 36 mis ewch i meet.google.com, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi mewngofnodi gyda'ch manylion Hwb. Yna cliciwch ar yr eicon Settings ac yna Call history.
Mae'r holl ddata yn Google Meet gan gynnwys data fideo, sain a sgwrsio wedi'i amgryptio wrth iddo deithio dros y rhyngrwyd. Fodd bynnag, os ydych chi'n defnyddio ffôn ar gyfer sain mewn cyfarfod, efallai na fydd eich galwad wedi'i hamgryptio. Mae hyn oherwydd bod eich sain yn mynd dros rwydwaith y cwmni ffôn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Security and privacy for Meet education editions - Google Workspace Admin Help.
Pan fydd recordio wedi'i alluogi, mae Google Meet yn cadw’r recordiad yn awtomatig yn Google Drive trefnydd y cyfarfod, yn y ffolder 'Meet Recordings'. Gwnewch yn siŵr bod recordiadau'n cael eu storio, eu rhannu a'u dileu'n ddiogel yn Google Drive, yn unol â phrosesau diogelu data a rheolaethau mynediad eich ysgol. Am arweiniad pellach, darllenwch recordio gwersi a sesiynau: ystyriaethau pwysig mewn perthynas â’r Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR).
Gwnewch yn siŵr bod yr holl staff yn darllen ac yn cadw at y canllawiau Darparu cyfleoedd dysgu ar-lein: egwyddorion ac arferion diogelu
Mae Google Meets a gynhyrchir o Google Classroom wedi'u gosod i 'Restricted' ac yn atal dysgwyr rhag ymuno â chyfarfod nes bod ymarferydd yn ymuno. Mae pob cyfarfod newydd arall, a grëir y tu allan i Google Classroom wedi'i osod i 'Trusted' a gall dysgwyr ymuno cyn y sawl sy’n cynnal y cyfarfod (yr ymarferydd) yn ddiofyn. Darllenwch tips to control meeting access i ddysgu am reolaethau i atal ymuno yn gynnar.
Rhannwch ddolenni cyfarfodydd gyda chyfrifon Hwb awdurdodedig y dysgwr yn unig.
Defnyddiwch y rheolaethau o ran ystafell aros a chynnal cyfarfod i reoli pwy all ymuno, rhannu eu sgrin neu ddefnyddio’r cyfleuster sgwrsio.
Anogwch y defnydd o nodweddion fel ymateb, codi llaw a bwrdd gwyn digidol. Dim ond gyda thrwyddedau Google wedi’u huwchraddio ar gyfer Addysgu a Dysgu y mae nodweddion Arolygon Barn a Holi ac Ateb ar gael.
Mae capsiynau byw ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd er mwyn sicrhau bod y gwersi’n hygyrch i bob dysgwr.
Nid yw recordio yn Google Meet wedi'i gynnwys gyda thrwydded Google Workspace for Education Fundamentals. Er mwyn galluogi recordio, mae angen trwydded Google wedi’i huwchraddio ar gyfer Addysgu a Dysgu. Dysgu mwy am recordiadau.