Sut i ddefnyddio platfform, offer creadigrwydd a gemau Just2Easy ar gyfer profiadau dysgu personol.
Cyfres o offer a gemau addysgol creadigol yw Just2easy. Gall pob dysgwr ac ymarferydd yng Nghymru gael mynediad at Just2easy drwy Hwb. Gallwch ddod o hyd i restr lawn o offer a gemau ar wefan Just2easy.
Os oes angen cymorth arnoch gydag offer penodol, ewch i ‘tool specific help’ ar wefan Just2easy.
Mae yna 3 ffordd i gael mynediad at Just2easy:
Mewngofnodwch i wefan Hwb a chliciwch ar yr ap Just2easy ar ddangosfwrdd Hwb.
Ewch i wefan Just2easy, cliciwch, ar y botwm Hwb a mewngofnodi gyda'ch manylion Hwb.
Os ydych chi'n defnyddio iPad, defnyddiwch yr ap Just2easy.
Gallwch ddefnyddio Just2easy yn Gymraeg. I newid iaith:
cliciwch ar eich enw ar frig dde y sgrin
cliciwch Fy Ngosodiadau / My Settings
Ewch i Just2easy am ragor o wybodaeth.
Sut y gall Just2easy gefnogi dysgwyr
Gall dysgwyr ddatblygu sgiliau digidol sylfaenol trwy ddefnyddio JIT, pecyn cymorth Just2easy ar gyfer plant bach. Mae'r rhain yn cynnwys:
prosesu geiriau
arlunio digidol
cyflwyniadau
animeiddiadau
siartiau
codio
cronfeydd data
Gall dysgwyr ddatblygu eu sgiliau gan ddefnyddio offer fel j2office, j2code a j2data i greu:
amrywiaeth eang o gynnwys digidol
cydweithio ar brosiectau
chreu portffolios digidol o waith
Sut y gall Just2easy gefnogi ymarferwyr
Gall ymarferwyr:
rhannu gwaith gyda rhieni a gofalwyr drwy j2journal
Sicrhewch fod y defnydd o Just2easy yn cyd-fynd â pholisïau ehangach yr ysgol megis diogelu, llythrennedd digidol, diogelwch ar-lein, defnydd derbyniol a diogelu data.
Mae Just2easy yn gweithredu'n gyfan gwbl trwy borwr gwe ac mae'n cydweddu â'r rhan fwyaf o ddyfeisiau.
Mae dosbarthiadau cofrestru yn cael eu trefnu trwy System Gwybodaeth Rheoli (MIS) yr ysgol. Ni ellir eu newid yn Just2easy. Fodd bynnag, gall ymarferwyr ddefnyddio j2dashboard i greu grwpiau addysgu llai â ffocws.
Mae nodweddion hygyrchedd yn Just2easy yn cynnwys ffontiau ar gyfer dyslecsia, swyddogaethau siarad wrth deipio a theipio wrth siar-ad. Dysgwch fwy am nodweddion hygyrchedd.
Gall ysgolion ganiatáu i rieni a gofalwyr gael mynediad i'r porth rhieni i weld gwaith eu plentyn yn j2journal.
Rhaid gwahodd rhieni a gofalwyr trwy e-bost. Nid yw'r negeseuon e-bost hyn yn cael eu hanfon yn awtomatig - ysgolion sy'n gyfrifol am gasglu cyfeiriadau e-bost rhieni neu ofalwyr a dosbarthu'r gwahoddiadau. Am resymau diogelu, mae'r opsiwn gwahodd drwy god QR wedi'i analluogi ar gyfer pob ysgol.
Bydd rhieni a gofalwyr sydd â mwy nag un plentyn yn derbyn e-bost ar wahân ar gyfer pob plentyn. Gellir cael mynediad at bob proffil trwy'r un cyfrif rhiant, a gallwch newid rhyngddynt gan ddefnyddio'r botwm 'Newid'
Dim ond gwaith y mae eu plentyn wedi'i dagio'n benodol ynddo sydd gan rieni a gofalwyr fynediad iddo. Er mwyn diogelu, byddwch yn ymwybodol y bydd tagio 'pob dysgwr' yn gwneud y gwaith, y ddelwedd neu'r fideo hwnnw'n weladwy i bob rhiant a gofalwr.
Mae angen i ymarferwyr gymedroli pob sylw cyn iddo fynd yn fyw. Er mai dim ond ar waith eu plentyn eu hunain y gall rhieni a gofalwyr wneud sylwadau, mae sylwadau cymeradwy yn weladwy i bob dysgwr a rhieni neu ofalwr sydd wedi'u tagio yn y gwaith hwnnw.
Gall ysgolion analluogi sylwadau ar gyfer pob dosbarth neu ar gyfer dosbarthiadau penodol. Gall ymarferwyr reoli mynediad rhieni trwy j2dashboard. Am gymorth pellach, ewch i dudalen gymorth Porth Rhieni Just 2easy.
Dylai ysgolion ystyried a ddylid diweddaru eu DPIA presennol neu a oes angen Asesiad Effaith Diogelu Data (DPIA) newydd.
Nid yw Just2easy yn defnyddio data dysgwyr ar gyfer hysbysebu neu farch-nata wedi'i dargedu. Ni werthir data i drydydd partïon, ac mae'r cytundeb prosesu data yn cydymffurfio â gofynion GDPR ar gyfer preifatrwydd a diog-elwch. Darllenwch hysbysiad preifatrwydd Just2easy am ragor o wybodaeth.
Natur y prosesu
Mae'r gyfres offer digidol Just2easy yn casglu data personol cyfyngedig gan ymarferwyr, dysgwyr ac ysgolion fel y rheolwyr data. Mae'r prosesu wedi'i ddosbarthu fel risg uchel oherwydd ei fod yn darparu gwasanaethau ar-lein i blant.
Nid yw Just2easy yn rhannu data personol gyda thrydydd partïon, ac eithrio gydag ysgolion fel rheolwyr data.
Mae ysgolion yn rheoli'r data personol maen nhw'n ei llwytho neu'n ei rannu gyda'r gyfres Just2easy.
Mae'r data personol sy'n cael ei storio o fewn cyfres Just2easy yn cynnwys data personol plant.
Nid yw'r gyfres Just2easy yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) na thechnolegau newydd eraill.
Mae'r holl brosesu wedi'i gynllunio i gydymffurfio â Chod Plant Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Cwmpas y prosesu
Mae Just2easy yn casglu'r data personol canlynol:
enw cyntaf
cyfenw
cyfeiriad e-bost
rôl (ymarferydd neu ddysgwr)
dosbarth
enw defnyddiwr neu rif unigryw
data’r ap J2e (er enghraifft, sêr a ddyfarnwyd neu adborth gan ymarferwyr)
cysylltiad rhiant a phlentyn (Dim ond os yw'r ysgol yn defnyddio'r porth rhieni sy'n gwahodd rhieni iddo y mae hyn yn berthnasol)
Nid yw'n casglu data categori arbennig na data sensitif arall fel data troseddol.
Gall ysgolion, fel rheolwyr data, ofyn am ddileu data personol. Mae data’n cael ei dynnu o'r golwg ar unwaith ac yn cael ei ddileu'n barhaol o fewn 12 mis.
Mae J2e yn storio'r holl ddata mewn gweinyddion yn y DU a'r UE.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ym mholisi preifatrwydd Just2easy.
Mae Just2easy yn cynnig gwersi byw i ddysgwyr, yn ogystal â hyfforddiant ar-lein i ymarferwyr. Ewch i'r dudalen digwyddiadau ar wefan Just2easy i ddysgu mwy a chofrestru. I gael rhagor o arweiniad ar ddefnyddio Just2easy yn yr ystafell ddosbarth, archwiliwch yr adnoddau sydd ar gael ar Hwb a sianel YouTube Just2easy.