Rhoddodd Llywodraeth Cymru grant ym mis Mehefin 2020 i dîm ymchwil o brifysgolion Bangor ac Aberystwyth a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i gynnal yr astudiaeth hon.
Gan ddefnyddio tystiolaeth o sampl o ysgolion, mae'r ymchwil yn ystyried effaith y pandemig ar ymgysylltiad dysgwyr â'r Gymraeg a/neu'r defnydd o'r Gymraeg yn y sectorau cyfrwng Cymraeg/dwyieithog a chyfrwng Saesneg, gan ganolbwyntio'n benodol ar blant sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg sy'n byw ar aelwydydd di-Gymraeg.
Casglwyd data'r arolwg rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Ionawr 2021 gan athrawon a rhieni/gofalwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a chyfrwng Saesneg ledled Cymru. Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd cyfweliadau a grwpiau ffocws ym mis Mawrth 2021 gyda darlithwyr a myfyrwyr mewn addysg gychwynnol i athrawon.
Creodd yr amgylchedd newydd o ddysgu cyfunol ac o bell heriau o ran sicrhau bod dysgwyr yn defnyddio'r Gymraeg yn rheolaidd oherwydd materion sy'n gysylltiedig â diogelu, cyfyngiadau technolegol, diffyg adnoddau addas a defnydd awtomatig dysgwyr o'r Saesneg yn amgylchedd y cartref.
Er gwaethaf yr heriau hyn, roedd rhai ysgolion yn cefnogi teuluoedd yn effeithiol yn ystod y cyfnod hwn.
Yn achos addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, nododd rhieni/gofalwyr fod ysgolion yn cyfathrebu â nhw yn ddwyieithog wrth osod gwaith i ddysgwyr, er nad oeddent mewn rhai achosion yn gallu cynorthwyo eu plant oherwydd bod hyn yn cael ei wneud yn bennaf yn Gymraeg.
Nid oedd rhieni/gofalwyr yn ei chael yn ddefnyddiol pan roeddent yn derbyn cyfieithiad uniongyrchol o dasgau na phan roedd yr adborth a ddarparwyd yn Gymraeg i raddau helaeth. Byddent wedi gwerthfawrogi mwy o arweiniad ar amcanion a phwrpas y tasgau i gynorthwyo eu plentyn i gwblhau'r tasgau yn Gymraeg.
Cafodd gallu ysgolion i ddatblygu sgiliau llafar Cymraeg dysgwyr ei effeithio'n andwyol gan y cyfyngiadau symud.
Roedd anawsterau hefyd o ran gosod gwaith oedd yn gymesur â chymhwysedd dysgwyr yn y Gymraeg, gan arwain at ddysgwyr â lefelau uchel ac isel o gymhwysedd yn cymryd rhan annigonol yn y gwaith.
Er bod rhai plant yn parhau i ffynnu, roedd angen cymorth ychwanegol ar lawer o rai eraill nad oeddent mewn cysylltiad â'r Gymraeg ar ôl iddynt ddychwelyd i'r ysgol.
Fodd bynnag, nododd athrawon, pan gynigiwyd cymorth priodol i blant o'r fath, eu bod yn adennill eu cymwyseddau'n gyflym.
Bu'n rhaid i fyfyrwyr mewn addysg gychwynnol i athrawon wella eu sgiliau technolegol yn gyflym a'u gallu i ddatblygu adnoddau ar gyfer amgylcheddau dysgu cyfunol a dysgu o bell.
Dylid cynnal adolygiad o ddefnydd effeithiol o strategaethau dysgu cyfunol a dysgu o bell yng nghyd-destun dysgu Cymraeg, gan gynnwys adnoddau i gynorthwyo dysgu y tu allan i'r ysgol.
Dylid darparu canllawiau i ysgolion ar ffyrdd effeithiol o gyfathrebu'n ddwyieithog â rhieni/gofalwyr y tu hwnt i gyfieithu uniongyrchol.
Dylid datblygu canllawiau ar y ffyrdd gorau o annog a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol.
Dylid darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol i athrawon ar:
ddefnydd effeithiol o dechnoleg i gefnogi dwyieithrwydd
adborth effeithiol i rieni/gofalwyr a dysgwyr mewn cyd-destunau cyfrwng Cymraeg/dwyieithog
dulliau adalw effeithiol i gasglu'r hyn y mae dysgwyr eisoes yn ei wybod
cynorthwyo dysgwyr ADY yn effeithiol
Dylai partneriaethau addysg gychwynnol i athrawon nodi hyrwyddwyr dysgu digidol sy'n gallu cefnogi datblygiadau yn y maes hwn ar draws y bartneriaeth.
Dylai ysgolion:
nodi aelod o staff fel pwynt cyswllt allweddol ar gyfer ymholiadau gan rieni/gofalwyr ynghylch y ffyrdd gorau o gynorthwyo plant i ddefnyddio'r Gymraeg
adolygu eu polisïau iaith i adlewyrchu profiadau'r pandemig a sicrhau bod y rhain yn cael eu cyfleu i'r staff
myfyrio, yn dilyn profiad y pandemig, ar y ffyrdd gorau o wahaniaethu gwaith i ddysgwyr fel ei fod yn addas ar gyfer eu lefelau cymhwysedd ieithyddol
ystyried mabwysiadu egwyddorion traws iaith lle mae dysgwyr yn derbyn gwybodaeth mewn un iaith (Saesneg) ac yn ei defnyddio neu ei chymhwyso mewn iaith arall (Cymraeg)
ystyried cyflwyno sesiynau adolygu iaith dwys yn dilyn cyfnodau hir o absenoldeb dysgwyr
Bydd adroddiad ymchwil llawn yn cael ei gyhoeddi yn haf 2021 yn ardal NSERE Hwb. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Athro Enlli Thomas: enlli.thomas@bangor.ac.uk