Rhoddodd Lywodraeth Cymru grant ym mis Mehefin 2020 i dîm ymchwil o brifysgolion Bangor a Glyndwr Wrecsam a Phrifysgol De Cymru i gynnal yr astudiaeth hon.
Gan ddefnyddio tystiolaeth gan arweinwyr ac athrawon mewn sampl fach o ysgolion, mae'r ymchwil yn adrodd ar safbwyntiau iechyd a lles dysgwyr ac athrawon yn ystod gwanwyn, haf a hydref 2020.
Gan adeiladu ar adolygiad o'r dystiolaeth bresennol yn y maes hwn defnyddiodd yr ymchwilwyr ddull astudiaeth achos gyda 12 ysgol yn seiliedig ar gyfweliadau lled-strwythuredig gydag arweinwyr, athrawon, staff a myfyrwyr mewn sefydliadau addysg gychwynnol i athrawon.
Cynyddodd ysgolion eu ffocws ar iechyd a lles yn ystod y cyfnod hwn, o fewn ysgolion ac ar lefel gymunedol, wrth gefnogi dysgwyr a'u teuluoedd.
Dylanwadwyd ar y cymorth hwn gan ganllawiau a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, ond roedd rhai ysgolion yn credu bod agweddau ar hyn yn anghyson.
Roedd y cymorth a roddwyd i ddysgwyr yn cynnwys cyngor ar COVID-19, datblygu eu dysgu, gan gynnwys defnyddio technoleg a gwrando ar eu barn.
Chwaraeodd dysgu yn yr awyr agored ran gynyddol, yn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol, o ran cefnogi lles corfforol a meddyliol.
Cafodd llwyth gwaith cynyddol o ganlyniad i'r sefyllfa a grëwyd gan y pandemig effaith sylweddol ar iechyd a lles ymarferwyr.
Gwaethygodd yr angen am fwy o ymgysylltu a chyfathrebu â rhieni/gofalwyr y sefyllfa hon ac mae ysgolion yn credu y bydd angen iddynt ailsefydlu ffyrdd hwylus o reoli'r sefyllfa hon yn ystod y cyfnod adfer.
Cynyddodd addysg gychwynnol i athrawon ei ffocws ar iechyd a lles ar gyfer yr athrawon dan hyfforddiant eu hunain ac yn gysylltiedig ag ymarfer yn yr ysgol.
Ar y sail bod y pandemig wedi amlygu hyd yn oed yn fwy bwysigrwydd iechyd a lles mewn ysgolion ac mewn cyd-destunau ysgol/cymunedol, dylai pob rhan o'r system addysg ddarparu mwy o adnoddau a chyfleoedd i gefnogi gwaith yn y maes hwn yn ystod y cyfnod adfer.
Dylai hyn gynnwys mwy o gymorth ar gyfer dysgu yn yr awyr agored.
Dylai ysgolion ddefnyddio'r cyfleoedd a ddarperir drwy gyflwyno'r cwricwlwm newydd i gryfhau'r ddarpariaeth ar gyfer iechyd a lles o fewn y cwricwlwm ac mewn ffordd gynaliadwy drwy waith gyda theuluoedd a chymunedau.
Dylid gwella pwysigrwydd iechyd a lles o fewn y ddarpariaeth addysg gychwynnol i athrawon.
Cyhoeddir yr adroddiad ymchwil llawn yn haf 2021 yn ardal NSERE Hwb. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â g.k.french@bangor.ac.uk