Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r safonau proffesiynol yn newid

Darganfyddwch beth sy'n newid, pam ei fod yn bwysig a sut y bydd y safonau proffesiynol diwygiedig yn cefnogi eich ymarfer.

Ymrwymiadau proffesiynol

Rôl addysg yng Nghymru

Mae addysg wrth wraidd ein huchelgais i Gymru. Mae’n allwedd i ddatgloi cyfleoedd newydd a gwell, ac adeiladu’r genedl fwy hyderus, arloesol a chynhyrchiol y gwyddom y gall Cymru fod. Mae cyfrifoldeb ar bawb yn ein system addysg i hyrwyddo a gweithio tuag at ragoriaeth ynddi. Mae ymarfer sy'n cefnogi llesiant cenedlaethau'r dyfodol, y nod o fod yn Gymru wrth-hiliol erbyn 2030, a'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn effeithio'n gadarnhaol ar ddyfodol pob dysgwr, y genedl a'r byd ehangach.

Y Gymraeg

Mae sicrhau cefnogaeth effeithiol i Cymraeg 2050 drwy ymgorffori'r Gymraeg ym mhob rhan o'r cwricwlwm a diwylliant ysgolion yn sicrhau bod pob dysgwr a gweithiwr proffesiynol yn cael y cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus a medrus sy'n gwerthfawrogi ac yn defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd.

Llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel rhan o brofiad cwricwlwm eang

Cwricwlwm ysgol neu leoliad yw popeth y mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben. Nid dim ond yr hyn rydym yn ei addysgu sy'n bwysig, ond sut rydym yn ei addysgu ac, yn hollbwysig, pam ein bod yn ei addysgu. Mae pwysigrwydd canolog llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol wrth wraidd cwricwlwm eang a dwfn sy'n defnyddio dulliau dysgu dilys i gynnig byd o gyfleoedd i bob dysgwr.

Cymuned ac ymdrech ar y cyd

Mae llwyddiant addysg yng Nghymru yn dibynnu ar gydgyfrifoldeb ac ymdrech pawb dan sylw i ymgysylltu â chydweithwyr a'r gymuned ehangach y tu hwnt i'r ysgol.

Uniondeb proffesiynol a chyfrifoldeb moesegol

Mae gweithwyr proffesiynol yn cynnal y safonau uchaf o uniondeb drwy weithredu er budd pennaf yr holl ddysgwyr, gan amddiffyn eu hawliau a diogelu eu llesiant. Maent yn herio arferion neu ymddygiadau a all gyfyngu ar gyfle unrhyw ddysgwr i lwyddo, hyd yn oed pan fydd hyn yn golygu bod angen bod yn ddewr neu gael sgyrsiau anodd.

Manteisio ar y safonau proffesiynol

Fel rhan o sgwrs barhaus a datblygiadol, nod y safonau proffesiynol yw datblygu pob unigolyn i fod y gorau y gall fod yn broffesiynol mewn system hunanwella i ysgolion sy'n gwerthfawrogi ac yn parchu twf personol a datblygiad proffesiynol. Mae pawb sy'n ymwneud ag addysg yn cydnabod y cydbwysedd hanfodol rhwng proffesiynoldeb, llesiant a llwyth gwaith wrth osod gofynion ar gydweithwyr ac yn gosod disgwyliadau rhesymol ar gyfer eraill.

Safonau proffesiynol

Y safon ar gyfer addysgeg effeithiol

Mae gweithwyr proffesiynol yn derbyn atebolrwydd am eu datblygiad addysgegol eu hunain ac yn gweithio gydag eraill i fireinio dulliau addysgu a datblygu dysgu, gan sicrhau cynnydd pob dysgwr. Maent yn cymryd rhan mewn cylch parhaus o fyfyrio a gwella sy’n gwneud y canlynol:

  • yn cefnogi disgwyliadau uchel i bob dysgwr

  • yn hyrwyddo llesiant

  • yn meithrin cariad at ddysgu am weddill eu hoes

Y safon ar gyfer cydweithio

Mae gweithwyr proffesiynol yn atgyfnerthu eu hymarfer drwy weithio'n agos gydag eraill yn eu hysgol eu hunain i gynyddu effeithiolrwydd drwy gyfrannu at hinsawdd o ymddiriedaeth, cydgefnogaeth a chydfeddwl. Maent yn chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu ag ysgolion eraill a phartneriaid ehangach i wella effeithiolrwydd proffesiynol ac ehangu addysgeg ac ymarfer effeithiol gan gyfrannu at welliant system gyfan.

Y safon ar gyfer dysgu proffesiynol

Mae gweithwyr proffesiynol yn cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol parhaus, gan ddyfnhau eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau drwy fyfyrio ac ymholi. Maent yn creu cyfleoedd pwrpasol am sgyrsiau ac ymholiadau trylwyr â chydweithwyr er mwyn meithrin twf ar y cyd ar draws cymunedau dysgu yn yr ysgol a thu hwnt, gan arwain at welliannau parhaus mewn addysgeg a deilliannau dysgwyr.

Y safon ar gyfer arloesi

Mae gweithwyr proffesiynol yn cofleidio arloesi drwy weithio, mewn ffordd reoledig a mesuredig, i ddatblygu technegau a dulliau gwell i wella ymarfer addysgegol a chynnydd dysgwyr. Maent yn cyfrannu at hinsawdd gadarnhaol ar gyfer arloesi, gan werthuso arferion yn gywir fel bod:

  • ymarfer arloesol yn gydlynol

  • deilliannau'n cael eu lledaenu a'u cymhwyso'n effeithiol

Y safon ar gyfer arweinyddiaeth

Mae gweithwyr proffesiynol yn sicrhau bod addysgeg wrth wraidd eu rôl arwain ac yn cydbwyso llwyth gwaith cynaliadwy a llesiant â disgwyliadau proffesiynol. Maent yn cydnabod eu cyfrifoldeb i ddangos agwedd gadarnhaol at eraill wrth geisio sicrhau datblygiad a gwelliant cydlynol ac eglur. Maent yn arwain cydweithwyr a'r gymuned ehangach i gyflawni uchelgeisiau addysgol Cymru er budd pennaf pob dysgwr.

Noder

Dylai athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod sefydlu cyn 1 Medi 2026 barhau i ddefnyddio'r safonau proffesiynol a oedd yn gymwys pan ddechreuodd eu cyfnod sefydlu.

Disgrifyddion a chwestiynau

Addysgeg

Amrywio dulliau addysgu yn ôl anghenion y dysgwyr

Mae dysgwyr yn fwy brwdfrydig ac awyddus i lwyddo pan fydd athrawon yn defnyddio dulliau sy'n briodol o safbwynt datblygiadol ac addysgegol sy'n eu helpu i wireddu dibenion y cwricwlwm.

Pa mor dda rydych yn deall ac yn addasu'r dulliau a ddefnyddir i lywio profiadau dysgu i ddiwallu anghenion dysgwyr unigol?

Deall sut mae dysgwyr yn datblygu

Mae dysgu'n effeithiol pan fydd athrawon yn deall sut mae plant a phobl ifanc yn datblygu yng nghyd-destun profiadau ac anghenion penodol pob dysgwr.

Pa mor dda rydych yn deall sut mae plant a phobl ifanc yn datblygu? Sut mae'r ddealltwriaeth hon yn eich helpu i gefnogi dysgu effeithiol?

Deall y continwwm 3 i 19 oed a'r goblygiadau ar gyfer addysgeg

Mae addysgeg effeithiol yn seiliedig ar ddysgu sy'n briodol i ddatblygiad drwy gydol y continwwm dysgu 3 i 19 oed a thu hwnt.

Pa mor dda rydych yn deall y rhesymau dros ddulliau dysgu gwahanol wrth i ddysgwyr ddatblygu? Sut mae hyn yn eich helpu i gefnogi'r dysgu?

Cynnydd wrth ddysgu

Mae deall datblygiad dysgwyr, a'r ffactorau sy'n effeithio ar gynnydd, yn galluogi arferion addysgu i gefnogi deilliannau dysgu bwriadedig yn well.

Pa mor dda rydych yn deall anghenion datblygiadol y dysgwyr unigol rydych yn gweithio gyda nhw a'r ffactorau eraill sy'n effeithio ar eu cynnydd? Pa mor dda rydych yn addasu eich dull er mwyn iddynt gyflawni?

Cyd-destun a'r gymuned ehangach

Mae gwybodaeth gyd-destunol am bob dysgwr a'r gymuned ehangach yn galluogi'r ddarpariaeth i wneud y mwyaf o’r dysgu.

Pa mor dda rydych yn adnabod cymuned y dysgwyr a'r ffactorau sy'n effeithio ar fywydau'r dysgwyr? Sut rydych yn helpu eraill i ddefnyddio'r wybodaeth hon i gefnogi dysgu effeithiol yn yr ysgol?

Ymgorffori'r cwricwlwm mewn cyd-destunau dilys pwrpasol

Mae ymgorffori'r cwricwlwm mewn cyd-destunau dilys, pwrpasol yn hanfodol i sicrhau presenoldeb, cyfranogiad a chynnydd pob dysgwr.

Pa mor dda rydych yn cefnogi dysgwyr wrth iddynt gymryd rhan mewn profiadau dysgu sy'n seiliedig ar gyd-destunau dilys? Pa mor dda rydych yn helpu i feithrin ymdeimlad dysgwyr o fwynhad a hyder wrth ddysgu?

Defnyddio technoleg i gyfoethogi'r dysgu

Gall dulliau addysgegol sy'n integreiddio technoleg yn foesegol, yn effeithiol ac yn gynhwysol wneud y canlynol:

  • personoli'r dysgu

  • hyrwyddo cymhwysedd digidol

  • gwella hygyrchedd

  • paratoi dysgwyr ar gyfer byd cynyddol ddigidol

Pa mor dda rydych yn cefnogi'r ysgol i sicrhau bod adnoddau digidol:

  • yn hygyrch ac yn gynhwysol?

  • yn cael eu defnyddio'n foesegol, yn feirniadol ac yn gyfrifol?

Meithrin agweddau cadarnhaol ymhlith dysgwyr

Mae'r dysgu yn fwyaf effeithiol pan fydd arferion pob dydd yr ysgol yn hyrwyddo agweddau cadarnhaol ymhlith dysgwyr, fel:

  • brwdfrydedd

  • hyder

  • cyfrifoldeb

Fel model rôl cadarnhaol, pa mor llwyddiannus rydych yn annog dysgwyr i feithrin ymdeimlad o berthyn a pharodrwydd i ddysgu?

Asesu cynhyrchiol a phwrpasol sy'n gysylltiedig â dysgu

Mewn ysgolion lle defnyddir asesu'n effeithiol, caiff anghenion dysgwyr eu hadnabod a'u diwallu er mwyn sicrhau cynnydd.

Pa mor dda rydych yn defnyddio eich gwybodaeth am ddysgwyr a'ch arsylwadau arnynt i:

  • cefnogi asesu?

  • helpu i addasu'r dysgu a'r addysgu?

Cydweithio

Cydgyfrifoldeb

Mae manteisio ar gyfleoedd i geisio a chynnig cyngor proffesiynol, gan gynnwys defnyddio mewnbwn amlasiantaethol, i gefnogi gwaith myfyrio, ymholi a datrysiadau ar y cyd:

  • yn atgyfnerthu cydgyfrifoldeb

  • yn gwella'r addysgu

  • yn dod â budd i bawb

Pa mor effeithiol rydych wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau proffesiynol, gan gynnig eich gwybodaeth a cheisio cyngor gan eraill, i gefnogi'r dysgu yn y ffordd orau posibl?

Siarad am addysgeg

Daw addysgu yn fwy effeithiol pan fydd gweithwyr proffesiynol yn myfyrio ar eu hymarfer addysgegol presennol eu hunain ac yn ei werthuso drwy sgyrsiau proffesiynol a arweinir.

Pa mor dda rydych yn cymryd rhan mewn sgyrsiau proffesiynol â chydweithwyr am wella addysgeg i ddysgwyr?

Rhannu adnoddau

Gellir sicrhau gwelliant ar y cyd pan gaiff adnoddau eu rhannu o fewn a rhwng ysgolion, asiantaethau a chymunedau. Drwy rannu gwybodaeth ac arferion gorau, gall ysgolion ddysgu o gryfderau ei gilydd a chreu datrysiadau costeffeithiol mwy effeithlon.

Pa mor dda rydych yn gweithio gydag eraill i rannu gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau?

Dysgu proffesiynol

Sicrhau gwelliant

Mae dysgu proffesiynol yn effeithiol pan fydd newidiadau cadarnhaol mewn agweddau, ymddygiadau ac arferion proffesiynol yn arwain at wella ysgolion.

Pa mor effeithiol rydych yn defnyddio eich profiadau dysgu proffesiynol i'ch galluogi i gefnogi dysgwyr?

Cyfrifoldeb personol

Mae cymryd cyfrifoldeb am ddysgu proffesiynol yn rhan ddisgwyliedig o dwf a datblygiad personol a phroffesiynol, wedi'i lywio’n gyfartal gan flaenoriaethau unigol, lleol a chenedlaethol.

Pa mor dda rydych yn defnyddio adborth ac yn myfyrio ar eich profiadau i adnabod meysydd i ddatblygu'n broffesiynol? Sut mae hyn o fudd i'r dysgwyr rydych yn eu cefnogi?

Manteisio ar yr Hawl Genedlaethol

Bydd y gallu i gael mynediad a chymryd rhan mewn profiadau dysgu proffesiynol strwythuredig ac achlysurol, ffurfiol ac anffurfiol, o fudd i unigolion ac ysgolion. Dylai unigolion fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel sy'n gyson â dulliau gweithredu cenedlaethol.

Pa mor dda mae cymryd rhan mewn dysgu proffesiynol yn galluogi newidiadau cadarnhaol i'r cymorth rydych yn ei gynnig i ddysgwyr?

Sicrhau effaith

Mae dysgu proffesiynol yn effeithiol pan fydd:

  • yn ymestyn gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau

  • yn cael ei ddefnyddio er budd pob dysgwr

Pa mor effeithiol rydych yn myfyrio ar eich dysgu proffesiynol ac yn ei ddefnyddio i alluogi dysgwyr i wneud cynnydd?

Defnyddio dysgu proffesiynol i wireddu gweledigaeth yr ysgol

Bydd adnabod a chydlynu dysgu proffesiynol priodol o ansawdd uchel yn atgyfnerthu ac yn gwella'r addysgu a'r arweinyddiaeth.

I ba raddau y mae eich dysgu proffesiynol wedi eich helpu i gefnogi gweledigaeth yr ysgol?

Arloesi

Grymuso proffesiynoldeb

Mae sefydlu a chymhwyso arferion arloesol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn grymuso athrawon ac arweinwyr i archwilio, addasu a chyd-greu.

Pa mor dda rydych yn cefnogi arloesedd yn eich maes gwaith? Pa mor effeithiol rydych yn cyfrannu awgrymiadau i gyfoethogi'r dysgu?

Ymagwedd arloesol

Mae chwilfrydedd ac ymholi proffesiynol yn arwain at ymarfer arloesol sy'n sicrhau gwelliant.

Pa mor dda rydych yn ceisio gwella ymarfer? Ym mha ffyrdd y mae hyn wedi gwella'r ffordd rydych yn cefnogi dysgwyr?

Gwerthuso a mireinio

Mae diwylliant sy'n ymgorffori arferion arloesol, ochr yn ochr â gwaith gwerthuso a mireinio parhaus, yn arwain at wella'r dysgu a'r addysgu yn barhaus.

Pa mor dda rydych yn rhannu eich canfyddiadau o'r ffordd y mae arloesedd yn gwella'r dysgu?

Arweinyddiaeth

Gweledigaeth a rennir

Mae ysgolion effeithiol yn gweithio tuag at weledigaeth ar gyfer pob dysgwr, sy’n cael ei rhannu a’i deall yn glir, ac sy’n adlewyrchu disgwyliadau cenedlaethol wrth iddynt newid, ac yn adlewyrchu anghenion penodol eu cymunedau.

Pa mor dda rydych yn cyfrannu at weledigaeth a gwerthoedd eich ysgol i gefnogi dysgwyr?

Llwyth gwaith

Mae ysgolion effeithiol yn creu amodau lle mae disgwyliadau proffesiynol, llwyth gwaith a llesiant yn cael eu hystyried gyda'i gilydd a'u cydbwyso'n briodol, gan alluogi'r staff i ganolbwyntio eu hymdrechion ar gyflawni'r deilliannau gorau posibl i ddysgwyr. Rhoddir cyfleoedd i gymryd rhan mewn deialog broffesiynol am lwyth gwaith, llesiant ac ymarfer cynaliadwy. Mae trefniadau gwella ysgolion, dysgu proffesiynol ac arferion gweithredol wedi'u dylunio i fod yn gymesur, yn gynaliadwy ac yn ymatebol i gapasiti staff, gan adlewyrchu cydnabyddiaeth realistig o'r gofynion a osodir ar gydweithwyr yn yr ysgol a thu hwnt.

Pa mor effeithiol rydych yn trefnu ac yn rheoli eich gwaith mewn partneriaeth â chydweithwyr i gyfrannu'n gadarnhaol at brofiadau dysgwyr gan gynnal eich llesiant eich hun ar yr un pryd? Pa mor dda rydych yn gallu cymryd rhan mewn deialog broffesiynol am flaenoriaethu tasgau a defnyddio eich amser yn effeithiol?

Pa mor hyderus ydych wrth geisio cymorth a chymryd rhan mewn deialog broffesiynol pan fydd llwyth gwaith yn dechrau effeithio ar eich effeithiolrwydd neu'ch llesiant?

Yr ysgol a'i chymuned

Mae meithrin partneriaethau cadarnhaol â theuluoedd, y gymuned ehangach a rhanddeiliaid yn cynyddu effeithiolrwydd y dysgu a'r addysgu.

Pa mor dda rydych yn cyfrannu at ymdrechion yr ysgol i feithrin cydberthnasau cadarnhaol â theuluoedd a'r gymuned ehangach?

Addysg deg

Mae ysgolion effeithiol yn sicrhau bod yr holl ddysgwyr:

  • yn cael y cyfle i ddatblygu eu doniau a'u sgiliau, beth bynnag fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau

  • yn cael y cymorth a'r adnoddau sydd eu hangen i oresgyn unrhyw rwystrau o ran eu presenoldeb, eu cyfranogiad a'u cyflawniad er mwyn gwireddu eu potensial

Pa mor dda rydych yn cyfrannu at amgylchedd dysgu teg a chynhwysol lle mae’r holl ddysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu gwireddu eu potensial?

Llais y dysgwr

Mae ysgolion sy'n gwrando ac yn ymateb i leisiau dysgwyr yn gweld cynnydd mewn lefelau presenoldeb, cyfranogiad a chyflawniad ac maent yn gallu diwallu anghenion a chyflawni'r pedwar diben yn fwy effeithiol.

Pa mor dda rydych yn defnyddio llais y dysgwr i feithrin cydberthnasau llawn ymddiriedaeth a chyflawni'r pedwar diben?

Hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer gwella

Lle y caiff arferion hunanwerthuso a chynllunio gwelliant eu mireinio'n ofalus a'u defnyddio'n dda, mae'r ysgol yn gynyddol effeithiol.

Pa mor dda rydych yn myfyrio ar eich ymarfer a'i effaith, gan awgrymu gwelliannau pan fo angen?

Cydlyniant rhwng disgwyliadau ac ymarfer

Bydd arweinyddiaeth sy'n sicrhau cydlyniant rhwng gweledigaeth, gwerthoedd ac ymarfer yn cael effaith fwy cadarnhaol ar ddysgu a llesiant.

I ba raddau y mae eich ymarfer yn gyson â gweledigaeth a gwerthoedd eich ysgol?