Neidio i'r prif gynnwy

Amlinelliad o’r gefnogaeth fydd ar gael.

Drwy gydol y rhaglen, cewch eich arwain gan Hyfforddwr Arweinyddiaeth ymroddgar.

Prif gyfrifoldebau'r Hyfforddwr Arweinyddiaeth fydd:

  • darparu adborth proffesiynol parhaus i bob cyfranogwr

  • cefnogi'r cyfranogwr i ystyried yr asesiad 360 a hwyluso sgyrsiau am arweinyddiaeth, yn seiliedig ar dwf personol o ran arweinyddiaeth

  • cefnogi dewis y prosiect datblygu prifathrawiaeth

  • gweithredu fel 'brocer' rhwng y Pennaeth Ysgol sy'n Cefnogi a'r cyfranogwr i sicrhau bod y cyfranogwr yn cael cefnogaeth, amser a chyfle i gyflawni'r prosiect datblygu prifathrawiaeth a thasgau eraill y cytunwyd arnynt

  • cefnogi'r cyfranogwr i adeiladu eu proffil mynediad at rôl Pennaeth

Bydd disgwyl i'ch pennaeth neu'ch cyflogwr hefyd ddarparu cefnogaeth yn ystod y rhaglen fel yr amlinellir yn yr adran Beth yw'r disgwyliadau gan fy nghyflogwr presennol.

Bydd Cyfarwyddwr Cenedlaethol y Rhaglen hefyd wrth law i gefnogi unigolion ag elfennau gweithredol y rhaglen.