Y nod yw bod arweinyddion yn defnyddio’r cwestiynau hyn ochr yn ochr â’r adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella wrth hunan-werthuso er mwyn sicrhau bod datblygiad y Gymraeg o fewn pob ysgol yn cael sylw penodol.
Mae’r adnodd wedi’i rannu i dri maes sy’n cyd-fynd â meysydd yr adnodd cenedlaethol, sef arweinyddiaeth, dysgu ac addysgu a’r cwricwlwm a lles, tegwch a chynhwysiant.
Nodir y cwestiynau trafod perthnasol sydd eisoes wedi’u cynnwys yn yr adnodd cenedlaethol. O dan pob maes, ceir cwestiynau trafod ychwanegol i ysgogi arweinyddion i ystyried nifer o feysydd penodol o ran y Gymraeg gan gynnwys:
Cyd-destun ieithyddol
Gweledigaeth a chynllunio strategol
Datblygu’r gweithlu
Cynllunio cwricwlwm
Addysgeg
Cynnydd dysgwyr
Defnydd anffurfiol o’r Gymraeg
Tegwch o ran mynediad i’r Gymraeg
Nodir yr adnoddau sydd eisoes ar gael i gefnogi arweinyddion yn y meysydd hyn. Yn dilyn cyfnod o beilota’r adnodd a derbyn adborth arweinyddion, byddwn yn cyhoeddi mwy o ddeunyddiau i gefnogi’r broses hunan-werthuso.
1.I ba raddau mae gweledigaeth a strategaeth yr ysgol yn ystyried datblygiadau ar gyfer y Gymraeg?
Pa mor effeithiol yw defnydd yr ysgol o gefnogaeth gan yr awdurdodau lleol / ysgolion eraill / consortia / partneriaethau i wneud cynnydd?
I ba raddau mae’r Gymraeg a diwylliant Cymru'n cael eu hadlewyrchu o fewn polisïau a gweithdrefnau'r ysgol?
2.Pa mor dda mae’r ysgol yn adnabod ei chyd-destun ieithyddol gan gynnwys y dysgwyr, cymuned a’r gweithlu?
Pa mor dda yw dealltwriaeth arweinwyr yr ysgol o’r siwrne ieithyddol?
Pa mor dda yw dealltwriaeth arweinwyr o ddemograffig ieithyddol yr ysgol a’i le yn y gymuned?
Pa mor dda yw dealltwriaeth yr ysgol o batrymau ieithyddol y gweithlu?
Dolenni defnyddiol:
Dulliau Addysgu Dwyieithog (Prifysgol Bangor)
3.I ba raddau y mae'r arweinwyr yn sicrhau bod yr ysgol yn hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru mewn ffordd gadarnhaol i ddysgwyr?
Sut ydym yn mesur cynnydd ym maes y Gymraeg a sicrhau bod arfarniad yr ysgol yn adlewyrchiad teg o ble mae’r ysgol arni?
Dolenni defnyddiol:
Evaluating Welsh Language Provision (adnodd Saesneg yn unig)
Cynllunio ar gyfer taith y Gymraeg: elfen hanfodol o’r Cwricwlwm i Gymru
4.Beth sydd angen gwneud i ddatblygu’r gweithlu er mwyn galluogi symud yr ysgol ar hyd continwwm categoreiddio ysgolion yn ôl darpariaeth cyfrwng Cymraeg?
Pa mor dda mae’r ysgol yn adnabod anghenion datblygu’r gweithlu er mwyn gwella addysgu a dysgu ac er mwyn symud y gweithlu ymlaen er mwyn darparu mwy o’r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg?
Pa mor dda mae’r ysgol yn adnabod anghenion datblygu’r gweithlu trwy’r cynllun datblygu ysgol?
I ba raddau mae’r ysgol yn deall patrymau ieithyddol y gweithlu?
I ba raddau mae’r ysgol yn gwneud defnydd effeithiol o ddata ar gyfer y gweithlu (e.e. defnydd o’r SWAC)?
I ba raddau mae trefniadau recriwtio yn hyrwyddo datblygiad y Gymraeg?
I ba raddau mae’r ysgol yn defnyddio arbenigedd staff i addysgu a llenwi bylchau / datblygu arbenigedd bynciol?
I ba raddau mae’r ysgol yn cynllunio’n fwriadus ar gyfer datblygiad staff yn unol â’r safon proffesiynol ynghylch datblygu sgiliau Cymraeg?
I ba raddau mae’r ysgol yn cynllunio ar gyfer dysgu proffesiynol staff ar gyfer datblygu’r Gymraeg a modelu’r iaith yn effeithiol i ddysgwyr, e.e. addysgeg, iaith, hyrwyddo defnydd anffurfiol, cywirdeb ieithyddol?
Pa mor effeithiol mae’r ysgol yn defnyddio cyllid dysgu proffesiynol i gefnogi datblygiad y Gymraeg e.e. defnydd o’r grant dysgu proffesiynol a’r grant gwella ysgolion?
Pa mor effeithiol mae’r ysgol yn rhannu arfer dda gyda phartneriaid?
Dolenni defnyddiol:
Cynllunio datblygiad sgiliau iaith staff (adnodd Saesneg yn unig)
Cynllunio Datblygiad Iaith Gymraeg i Ymarferwyr (Consortiwm Canolbarth y De: gwasanaeth addysg ar y cyd)
I ba raddau y mae dysgwyr yn deall a defnyddio'r Gymraeg?
I ba raddau mae’r holl staff a dysgwyr yn hyrwyddo iaith a diwylliannau Cymru yn unol â disgwyliad y pedwar diben?
Pa mor effeithiol mae cynllunio ar gyfer datblygiad y Gymraeg ar draws y cwricwlwm?
Pa mor effeithiol mae’r ysgol yn datblygu Cymraeg fel pwnc?
Pa mor effeithiol mae’r ysgol wedi cynllunio ar gyfer cynnydd dysgwyr yn y Gymraeg?
Pa mor effeithiol a bwriadus mae’r ysgol yn cynllunio ei haddysgeg i gefnogi datblygu’r Gymraeg?
Pa mor effeithiol mae’r ysgol yn cynllunio ar gyfer defnydd anffurfiol y Gymraeg?
I ba raddau mae’r awdurdod lleol wedi cynnwys datblygiadau ar gyfer defnydd anffurfiol o’r Gymraeg yn eu CSCA? I ba raddau mae gweithlu'r ysgol yn ymgysylltu â'r targed hwn?
Sut ydych chi'n ymgysylltu â fframweithiau, adnoddau a chefnogaeth bresennol sydd ar gael, megis y Siarter Iaith, i ddatblygu'r Gymraeg yn eich ysgol chi?
Sut ydych chi wedi ymgysylltu â llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach a phartneriaid allanol ar y Siarter Iaith?
Sut ydych chi wedi integreiddio'r Siarter Iaith i roi gwerth ychwanegol i gwricwlwm Cymru? Sut ydych chi'n defnyddio profiadau Cymraeg ar draws y cwricwlwm?
Pa mor effeithiol mae’r ysgol wrth annog dysgwyr i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth?
Dolenni defnyddiol:
I ba raddau ydy’r ysgol yn hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag defnyddio’r Gymraeg?
Pa mor effeithiol mae’r ysgol wrth annog dysgwyr i ddefnyddio'r Gymraeg y tu fewn a thu allan i’r dosbarth?
Pa mor effeithiol ydy ethos Gymraeg yr ysgol yn effeithio ar agweddau dysgwyr tuag at y Gymraeg?
I ba raddau ydy’r ysgol yn sicrhau mynediad i’r dysgwyr i addysg a phrofiadau yn y Gymraeg ac ystyried safbwyntiau'r dysgwyr mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt?
Dolenni defnyddiol: