Mae ein strategaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg, Cymraeg 2050, yn gosod targedau hirdymor ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg a Chymraeg fel a ganlyn. Yn fras, rydym yn recriwtio nifer digonol o athrawon cyfrwng Cymraeg i'r sector cynradd i allu cyrraedd y targedau. Fodd bynnag, mae cyrraedd y targedau ar gyfer y sector uwchradd yn her. Mae angen ffocws penodol ar gynyddu nifer yr athrawon uwchradd a all addysgu Cymraeg fel pwnc ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nod y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg. Cychwynnodd cynllun pontio peilot ym mis Medi 2020. Ers hynny mae 96 o athrawon wedi dilyn y cynllun. Yn sgil adborth cadarnhaol gan yr athrawon a’r ysgolion sydd wedi cymryd rhan byddwn yn parhau gyda’r cynllun yn 2026 i 2027 a chynnig cyfle i 20 athro arall.
Bydd y rhaglen yn cael ei darparu mewn partneriaeth rhwng ysgolion a darparwyr addysg gychwynnol athrawon (AGA) dros gyfnod o flwyddyn ysgol.
Bydd pedwar diwrnod o gefnogaeth yn cael eu darparu gan y darparwyr AGA ar y themâu canlynol:
rheolaeth dosbarth
rheolaeth ymddygiad
lles yr athro a datblygu dycnwch
strategaethau rheoli amser a llwyth gwaith
trosolwg technegau cynllunio gwersi
trosolwg o’r cwricwlwm newydd
mewnbwn ieithyddol: yn ôl angen yr unigolion
Bydd ysgolion yn gyfrifol am ddarparu ystod o brofiadau a chefnogaeth a fydd yn darparu datblygiad proffesiynol i unigolion ar y canlynol:
mewnbwn pynciol
marcio ac adborth
cynllunio gwersi
Bydd disgwyl i bob unigolyn addysgu gwersi gydag amserlen yn cynyddu dros y flwyddyn. Bydd gan bob unigolyn fynediad i Gefnogwr Proffesiynol o fewn yr ysgol a fydd yn gyfrifol am gynnal deialog proffesiynol am ddatblygiad gyda’r unigolyn bob pythefnos ac i fod yn cefnogi mewn gwers unwaith y pythefnos.
Edrychwn am 20 o unigolion brwdfrydig sydd â gweledigaeth gadarn dros ddatblygu disgyblion yn ddysgwyr annibynnol, hyderus a llwyddiannus. Mae’r cyfle hwn yn agored i geisiadau llawn amser neu ran amser.
Gwahoddwn geisiadau gan athrawon cymwys yn y categorïau canlynol:
Athrawon cynradd yng Nghymru sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa mewn ysgol uwchradd.
Athrawon cynradd neu uwchradd sydd yn gweithio mewn ysgolion trwy gyfrwng y Saesneg yng Nghymru neu.
Athrawon sy’n gweithio tu allan i Gymru ond am ddychwelyd i ddysgu mewn ysgol uwchradd yng Nghymru ac angen cefnogaeth i bontio’n ieithyddol ac o ran gofynion y cwricwlwm.
Athrawon cynradd ac uwchradd sydd am ddychwelyd i'r proffesiwn ar ôl cyfnod o bum mlynedd neu fwy.
Nid yw’r canlynol yn gymwys:
Athrawon newydd gymhwyso sydd heb gwblhau eu cyfnod ymsefydlu.
Athrawon sydd heb gwblhau eu cwrs TAR.
Ysgolion Partner sy’n rhan o’r cynllun yn 2026 i 2027.
Croesewir ceisiadau i’r ysgolion canlynol sydd wedi eu dewis fel ysgol bartner i’r Cynllun Pontio cynradd i uwchradd
Ysgol Bodedern
Ysgol Bro Dur
Ysgol Bro Myrddin
Ysgol Bro Pedr
Ysgol Bro Teifi
Ysgol Brynrefail
Ysgol David Hughes
Ysgol Dyffryn Conwy
Ysgol Dyffryn Nantlle
Ysgol Eifionydd
Ysgol Glantaf
Ysgol Gwent Is-Coed
Ysgol Gyfun Aberaeron
Ysgol Gyfun Ystalyfera
Ysgol Plasmawr
Ysgol Rhydywaun
Ysgol Tryfan
Ysgol Y Creuddyn
Ysgol Y Moelwyn
Ysgol Gwynllyw
Croesewir ceisiadau gan unigolion i addysgu unrhyw bwnc, ond yn ddibynnol ar anghenion gwahanol ardaloedd ac ysgolion sy’n rhan o’r cynllun:
Bioleg
Cemeg
Dylunio a Thechnoleg
Gwyddoniaeth gyfrifiadurol / Technoleg Gwybodaeth
Mathemateg
Ieithoedd tramor modern
Ffiseg
Cymraeg
Saesneg
Galwedigaethol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Bydd unigolion yn mynegi diddordeb i fod yn rhan o’r cynllun trwy Lywodraeth Cymru trwy lawrlwytho’r ffurflen ac e-bostio’r ffurflen gan ddefnyddio’r ddogfen isod. Bydd rhain yn cael eu rhannu gydag ysgolion partner i’w hystyried a symud y broses ymgeisio ffurfiol yn ei blaen.
Y dyddiad cau yw 11:59pm ar ddydd Sul 12 Ebrill 2026.
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn yr ysgolion partner cyn gwyliau’r Sulgwyn.
Bydd pob unigolyn yn derbyn cyflog ar y raddfa briodol am flwyddyn ysgol. Bydd yr unigolion yn derbyn cytundeb ac yn cael eu talu gan yr ysgolion neu awdurdodau lleol. Ni fydd gwarant swydd barhaol ar ddiwedd y rhaglen, ond bydd cyfle i unigolion ymgeisio am swyddi gweigion mewn ysgolion uwchradd.
Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â thîm y Cynllun Pontio Cyfrwng Cymraeg ar AthrawonCC.WMTeachers@llyw.cymru.