Rydym i gyd yn gyfrifol am ddysgwyr yng Nghymru. Mae'r Fframwaith Gwella Cenedlaethol yn rhoi eglurder i'r system ysgolion drwy ganolbwyntio ar ein diben a'n nod cyffredin, gan amlinellu'r themâu allweddol ar gyfer hunanwerthuso a chynllunio gwelliant, a chan nodi'r elfennau hanfodol sy'n galluogi'r gwelliant hwnnw.
Dylai'r Fframwaith Gwella Cenedlaethol alinio holl weithgarwch y system â phrosesau gwerthuso a gwella, ac mae'n darparu dull cydlynol ac iaith gyson yn hyn o beth. Dylai hefyd helpu i ganolbwyntio ac alinio'r ffordd yr ydym yn cofnodi, yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth.
Ein nod yw galluogi pob dysgwr i gyflawni eu potensial wrth iddynt wneud cynnydd tuag at y pedwar diben.
Wrth ystyried y materion a allai effeithio ar gynnydd dysgwyr, bydd yn bwysig archwilio'r themâu canlynol (a'r berthynas rhyngddynt):
Gweledigaeth, Arweinyddiaeth a Rheoli
Y Cwricwlwm, Dysgu ac Addysgu
Lles, Cynhwysiant a Thegwch
Mae cydweithio pwrpasol a dysgu proffesiynol effeithiol yn elfennau hanfodol wrth yrru gwelliannau.
Bydd angen i ysgolion weithio gyda'i gilydd mewn modd effeithiol ac effeithlon i fireinio eu prosesau gwerthuso a gwella.
Bydd gweithredu fel sefydliad sy'n dysgu yn hanfodol er mwyn sicrhau gwelliant cynaliadwy.