Neidio i'r prif gynnwy

Deallusrwydd artiffisial draws y Cwricwlwm

Darganfyddwch ffyrdd o integreiddio deallusrwydd artiffisial i Cwricwlwm i Gymru drwy gyfres o gyrsiau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer addysg gynradd ac uwchradd.
9 Chwefror 2026

Mae cyfanswm o 4 gwrs ar gael, gyda 2 wedi'u teilwra ar gyfer addysg gynradd a 2 ar gyfer uwchradd.

Deallusrwydd Artiffisial ar draws y Cwricwlwm Uwchradd

Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno ffyrdd y gellir ymgorffori AI yn y Cwricwlwm i Gymru yn y cyfnod uwchradd. Gan fynd i'r afael ag agweddau ar y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, byddwch yn archwilio defnydd effeithiol o AI yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi mewn ffyrdd sy'n berthnasol i'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Byddwch yn glir ynghylch y goblygiadau i fyfyrwyr, beth sy'n cyfrif fel AI a'i weithredu'n ddiogel.

Trwy weithgareddau ymarferol, adnoddau a thrafodaeth, byddwch yn datblygu hyder wrth wneud dewisiadau gwybodus ar gyfer offer AI yn eich ymarfer proffesiynol, gan arwain at gwblhau cynllun gweithredu ar gyfer ymgorffori AI yn eich ysgol.

Cynulleidfa darged

Athrawon ac arweinwyr mewn lleoliadau uwchradd, mewn ysgolion gwladol yng Nghymru

Dyddiadau ac archebu

  • 25 Chwefror 2026 i 11 Mawrth 2026, 4pm i 6pm

  • 14 Ebrill 2026 i 28 Ebrill 2026, 4pm i 6pm (ar gael yn Gymraeg yn unig)

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ac archebu lle ar gyfer naill ai sesiwn 25 Chwefror 2026 neu sesiwn 14 Ebrill 2026 drwy wefan Digwyddiadur Busnes Cymru.

Ar draws y Cwricwlwm Cynradd

Mae'r cwrs hwn yn archwilio sut y gall Deallusrwydd Artiffisial (AI) gefnogi'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol (FfCD) a Chwricwlwm Cymru ar draws Meysydd Dysgu Cynradd (MDC).

Bydd cyfranogwyr yn cael profiad ymarferol gydag offer AI, yn dysgu sut i gynllunio ar gyfer dilyniant priodol sy'n gysylltiedig รข datganiadau FfCD, ac yn ymgorffori AI mewn ffyrdd sy'n datblygu'r pedwar diben - helpu dysgwyr i ddod yn uchelgeisiol a galluog (trwy ddatrys problemau a chreadigrwydd), yn fentrus ac yn greadigol (trwy ddefnyddio AI ar gyfer arloesi), yn foesegol ac yn wybodus (trwy ddefnyddio AI yn gyfrifol), ac yn iach ac yn hyderus (trwy hyrwyddo lles a chydnerthedd digidol).

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys enghreifftiau ymarferol, cyfleoedd myfyrio a thrafod a chreu cynllun gweithredu ar gyfer integreiddio AI yn effeithiol yn yr ysgol.

Cynulleidfa darged

Athrawon ac arweinwyr mewn lleoliadau cynradd, mewn ysgolion gwladol yng Nghymru

Dyddiadau ac archebu

  • 4 Mawrth 2026 i 25 Mawrth 2026, 4pm i 5:30pm

  • 29 Ebrill 2026 i 20 Mai 2026, 4pm i 5:30pm (ar gael yn Gymraeg yn unig)

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ac archebu lle ar gyfer naill ai sesiwn 4 Mawrth 2026 neu sesiwn 29 Ebrill 2026 drwy wefan Digwyddiadur Busnes Cymru.

Tags:
Cwricwlwm Cymraeg
Share:

Y newyddion diweddaraf