Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil i ddysgu sylfaen: Gwerthuso Cwricwlwm i Gymru

Gwahodd ysgolion cynradd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil sy'n ystyried sut y caiff dysgu sylfaen ei roi ar waith o fewn fframwaith Cwricwlwm i Gymru.
9 Medi 2025

Mae cam diweddaraf y gwerthusiad ffurfiannol o Cwricwlwm i Gymru ar y gweill, sy'n cael ei arwain gan Arad a phartneriaid o sefydliadau addysg uwch.

Mae cam hwn yr astudiaeth yn canolbwyntio ar ddysgu sylfaen. Nod Arad yw ymgysylltu ag ysgolion cynradd sydd â darpariaeth feithrin a'r rheini heb ddarpariaeth feithrin er mwyn deall sut mae ysgolion yn cynllunio ac yn cyflwyno dysgu sylfaen sy'n gyson â dyheadau fframwaith Cwricwlwm i Gymru, a sut caiff canllawiau ac adnoddau dysgu proffesiynol eu defnyddio i ategu hyn.

Sut i gymryd rhan

Os hoffech fod yn rhan o'r gwaith ymchwil hwn, pa faint bynnag yw'r cynnydd y mae eich ysgol chi wedi'i wneud o ran gweithredu Cwricwlwm i Gymru, cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi'r ffurflen Microsoft 365 ar-lein.

Am ragor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Brett Duggan yn brett@arad.wales.

Tags:
Cwricwlwm Cymraeg
Share:

Y newyddion diweddaraf