Gwybodaeth i bobl ifanc ddeall beth yw AI a rhai risgiau i fod yn ymwybodol ohonynt.
Gall AI wneud llawer o bethau cŵl, ond mae'r cyfan yn dibynnu ar sut rydyn ni fel bodau dynol yn ei ddefnyddio. Os yw bodau dynol yn dweud wrtho am wneud daioni, gall ein helpu i gyflawni llawer o bethau anhygoel. Fodd bynnag, os yw bodau dynol yn ei gyfarwyddo i wneud drwg, gall wneud i bobl deimlo bod pob AI yn ddrwg ac yn niweidiol. Mae bod yn foesegol gydag AI yn golygu defnyddio'r offer hwn mewn ffyrdd cadarnhaol. Yn union fel y dylen ni fod yn garedig ac yn gymwynasgar i'n ffrindiau, dylen ni hefyd fod yn foesegol wrth ddefnyddio AI. Mae hyn yn golygu ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n deg, yn onest ac nad yw'n brifo neb.
Gall enghreifftiau o ddefnydd moesegol i chi gynnwys:
cyfweld â chymeriad llyfr i'ch helpu i ddysgu mwy am nofel rydych chi'n ei hastudio yn yr ysgol
gofyn am awgrymiadau o gemau y gallwch chi eu chwarae gyda'ch teulu
dysgu mwy am bwnc sydd o ddiddordeb i chi trwy ofyn cwestiynau i offeryn AI
Gall enghreifftiau o ddefnydd moesegol yn gyffredinol gynnwys:
ychwanegu darnau coll hen ddarn o gelf i weld sut y gallai fod wedi edrych yn wreiddiol
gwneud diagnosis gwell o gleifion ysbyty yn seiliedig ar eu symptomau a'u hanes meddygol
creu trefn bersonol i gefnogi iechyd meddwl a lles personol
Gall defnydd moesegol o AI wella bywydau pobl a chefnogi ein lles. Mae'n bwysig defnyddio technoleg yn gyfrifol i helpu i wneud y byd ar-lein yn un cadarnhaol a chroesawgar i bawb.
Gallai AI helpu pobl i gyflawni llawer o bethau anhygoel yn y dyfodol os byddwn yn dysgu ei ddefnyddio'n foesegol nawr.
Mae defnydd anfoesegol o AI yn golygu defnyddio offer AI i dwyllo, camarwain neu niweidio pobl. Nid yw'r rhai sy'n defnyddio AI yn amhriodol fel arfer yn meddwl am yr effeithiau negyddol. Mae rhai defnyddiau anfoesegol cyffredin yn cynnwys:
lledaenu camwybodaeth neu gelwyddau i lawer o bobl fel trwy ddefnyddio botiau
ar gyfryngau cymdeithasol
twyllo pobl i gael arian
honni mai’ch gwaith chi yw gwaith sydd wedi ei wneud gan AI
bwlio neu aflonyddu ar bobl ar-lein, fel trwy ddelweddau neu fideos ffugiad dwfn
Os byddwch yn gweld unrhyw un o'r ymddygiadau negyddol hyn ar-lein (hyd yn oed os nad ydych yn siŵr a yw AI yn gysylltiedig), cofiwch wneud y canlynol:
dweud am y cynnwys neu'r defnyddiwr wrth y platfform neu'r ap y maen nhw’n ei ddefnyddio fel y gall cymedrolwyr eu hadolygu
blocio unrhyw un sy'n eich gwylltio, yn eich rhoi dan straen neu yn eich gwneud yn bryderus neu'n drist
adrodd cynnwys anghyfreithlon fel sgamiau neu flacmelio rhywiol i'r heddlu drwy CEOP
adrodd unrhyw beth sy'n effeithio ar eich ffrindiau neu gyfoedion yn yr ysgol i athro neu athrawes
siarad ag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo i gael mwy o help
defnyddio llinellau cymorth fel Meic a Childline i siarad am sut rydych chi'n teimlo gyda chwnselydd
defnyddio byrddau negeseuon diogel fel yr un ar Childline neu Ditch the Label i ddod o hyd i bobl eraill o’r un oedran â chi i drafod y mater gyda nhw. Dylid gwneud hyn dim ond ar ôl i chi ddod o hyd i gymorth gan oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo a rhoi gwybod am unrhyw beth niweidiol
Mae ein data personol, fel ein henwau, cyfeiriadau a lluniau yn ffurfio'r hyn a elwir yn ôl troed digidol. Mae'n rhywbeth sy'n gallu dweud wrth bobl pwy ydych chi a ble rydych chi wedi bod. Oherwydd y gall AI weithiau gasglu a defnyddio'r wybodaeth hon, mae'n bwysig cadw'r data personol hwnnw'n breifat.
Wrth i chi dyfu, mae eich ôl troed digidol yn tyfu hefyd. Mae unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei rhannu ar-lein yn cael ei hychwanegu at yr ôl troed hwnnw, a gall pobl sy'n dysgu amdanoch chi yn y dyfodol weld yr wybodaeth honno. Felly, os ydych chi wedi dweud pethau negyddol neu wedi defnyddio AI mewn ffyrdd anfoesegol, gallai cyflogwyr yn y dyfodol (neu unrhyw un arall) benderfynu nad ydyn nhw am gysylltu â chi.
Yn ogystal, po fwyaf o ddata rydych chi'n ei rannu ar-lein a pho fwyaf yw'r ôl troed hwnnw, yr hawsaf yw hi i seiberdroseddwyr gael gafael ar yr wybodaeth honno a'ch targedu.
Felly, cadwch eich ôl troed digidol yn fach trwy aros yn ddienw. Peidiwch â rhannu data personol gydag offer AI na rhannu eich enw go iawn a chadwch unrhyw broffiliau ar-lein yn breifat fel mai dim ond ffrindiau a theulu sy'n gallu eu gweld.
O ran defnydd moesegol o AI, mae defnyddio offer i wella creadigrwydd a dysgu yn opsiwn gwych. Gydag AI, gallwch:
gael syniadau ar gyfer creu darnau newydd o gelf neu ysgrifennu
gwella eich dealltwriaeth o gysyniadau mewn pynciau ysgol fel hanes, gwyddoniaeth a mathemateg
meddwl am syniadau am stori neu gymeriadau newydd yn eich stori
dysgu am bynciau sydd o ddiddordeb i chi trwy sgwrsio gydag offer AI fel sgwrsfotiaid
creu cynlluniau i'ch helpu i wella sgil rydych chi am ei gwella
dod o hyd i ffyrdd o ddatrys problemau anodd trwy drafod hyn gydag offeryn AI
Mae cymaint o ffyrdd i ddefnyddio offer AI i gefnogi eich dysgu. Cofiwch ddefnyddio'r offer i'ch helpu chi, nid i wneud popeth drosoch!
Os gallwch chi ddefnyddio AI mewn ffyrdd cadarnhaol a meddwl yn feirniadol amdano, fe welwch faint mae’n bosib iddo eich helpu chi a'r bobl sydd o'ch cwmpas.