Mae sefydlu yn ofyniad statudol ar gyfer pob athro newydd gymhwyso yng Nghymru sydd wedi ennill statws athro cymwysedig (SAC) ar ôl 1 Ebrill 2003.
Dylai athrawon newydd gymhwyso, gan gynnwys rhai sy’n cyflenwi, a phawb sy’n gysylltiedig â’r broses sefydlu sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r trefniadau sefydlu statudol yng Nghymru a’r safonau proffesiynol perthnasol.
Rhaid i bob athro newydd gymhwyso feddu ar statws athro cymwysedig a rhaid iddynt gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg fel athrawon ysgol cyn y gallant gael eu cyflogi fel athrawon mewn ysgolion a gynhelir.
Dylai pob athro newydd gymhwyso gwblhau cyfnod sefydlu o dri thymor ysgol o hyd, neu gyfwerth. Er hynny, mae gan gyrff priodol ddisgresiwn i leihau hyd y cyfnod sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso sy’n gallu dangos eu bod yn bodloni’r safonau proffesiynol mewn llai na thri thymor / 380 o sesiynau. Ni all unrhyw athro newydd gymhwyso gwblhau cyfnod sefydlu mewn llai nag un tymor (110 o sesiynau).
Diffinnir un sesiwn ysgol fel un bore neu un prynhawn o gyflogaeth mewn ysgol fel athro cymwysedig. Rhaid i ysgolion rhoi 10% o amser digyswllt i athrawon newydd gymhwyso a gyflogir o dan Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) i’w galluogi i ymgymryd â’u gweithgareddau sefydlu; mae hyn yn ychwanegol i’r amser digyswllt statudol ar gyfer cynllunio, paratoi ac asesu (CPA).
Bydd y proffil sefydlu, sydd ar gael drwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol (dolen allanol) yn sail i’r ddeialog broffesiynol rhwng yr athro newydd gymhwyso a'r mentor sefydlu.
Rhaid i athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod sefydlu o 1 Medi 2026 neu ar ôl hynny, weithio i’r safonau proffesiynol ar gyfer cynorthwyo addysgu, addysgu ac arweinyddiaeth.
Bydd athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod sefydlu o 1 Medi 2017 neu ar ôl hynny, a than 31 Awst 2026, yn gweithio i’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.
Bydd athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod sefydlu cyn 1 Medi 2017 yn parhau â’r safonau athrawon wrth eu gwaith (SAG) a oedd yn weithredol pan ddechreuodd eu cyfnod sefydlu a dylent barhau i ddefnyddio’u proffil sefydlu gwreiddiol. Ar ôl cwblhau eu cyfnod sefydlu yn llwyddiannus, byddant yn mabwysiadu'r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.
Dylai athrawon newydd gymhwyso a ddechreuodd eu cyfnod sefydlu cyn 1 Medi 2012 barhau i ddefnyddio’r deunydd cymorth ar gyfer asesu, arsylwi a phennu targedau a’r SAG.
Gall athrawon newydd gymhwyso gael mynediad i’w proffil dechrau gyrfa drwy’r Pasbort Dysgu Proffesiynol ar wefan Cyngor y Gweithlu Addysg.
Dylai'r proffil dechrau gyrfa lywio'r ddeialog â'r mentor sefydlu ar feysydd y mae angen i'r athro newydd gymhwyso eu datblygu yn ystod y cyfnod sefydlu.
Mae cyfnod sefydlu effeithiol yn golygu gwaith partneriaeth rhwng nifer o randdeiliaid allweddol. Ceir gwybodaeth bellach am rolau a chyfrifoldebau yn Sefydlu ar gyfer athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru.