Mae arweinyddiaeth lwyddiannus yn meithrin diwylliant sy'n sicrhau bod cynnydd a lles y dysgwyr wrth wraidd gwaith yr ysgol. Mae'n sicrhau bod ansawdd y profiadau addysgu a dysgu yn helpu pob dysgwr i ffynnu, gwneud cynnydd a gwireddu pedwar diben y cwricwlwm.
Mae arweinwyr effeithiol yn sicrhau bod pob aelod o'r staff yn dilyn polisïau a strategaethau y cytunwyd arnynt mewn ffordd gyson sydd er budd pennaf yr holl ddysgwyr. Maent yn creu cysylltiadau cryf rhwng y cwricwlwm, addysgeg, addysgu a dysgu er mwyn helpu'r ysgol i wireddu ei gweledigaeth ar gyfer y dysgwyr.
Mae arweinyddiaeth lwyddiannus yn meithrin diwylliant sy'n ysbrydoli'r staff i ddatblygu cystal ag y gallant. Mae arweinwyr effeithiol yn meithrin sgiliau arwain pobl eraill yn eu hysgol a thu hwnt.
Mae'r cwestiynau myfyrio a deialog yn y maes hwn wedi'u trefnu yn y categorïau canlynol.
Gweledigaeth strategol
Addysgeg
Dysgu proffesiynol, arloesi a chydweithio
Systemau, polisïau a gweithdrefnau
I ba raddau y mae gweledigaeth yr ysgol yn dylanwadu ar ei gwaith?
I ba raddau y mae'r arweinwyr yn dylanwadu ar y dysgu a'r addysgu ac yn eu gwella?
I ba raddau y mae'r arweinwyr yn gwneud y canlynol:
Dylanwadu’n gadarnhaol ar ansawdd yr addysgu er mwyn galluogi'r dysgwyr i wneud cynnydd mewn perthynas â'r pedwar diben as'r egwyddorion cynnydd?
Defnyddio gwybodaeth asesu er mwyn helpu pob dysgwr i wneud y cynnydd y gallant ei wneud mewn perthynas â'r egwyddorion cynnydd?
Galluogi'r dysgwyr i ddylanwadu ar eu dysgu a'u profiadau dysgu a datblygu eu heffeithiolrwydd fel dysgwyr?
Sefydlu a chynnal amgylchedd dysgu ac addysgu cadarnhaol a chynhwysol?
Sicrhau bod yr ysgol yn hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru mewn ffordd gadarnhaol?
Adolygu ansawdd yr addysgu'n rheolaidd er mwyn nodi cryfderau a chyfleoedd i wella (unigolion, adrannau, ysgol gyfan)?
I ba raddau y mae'r arweinwyr yn datblygu'r gweithlu ac yn meithrin diwylliant o gydweithio ac arloesi?
I ba raddau y mae'r arweinwyr yn gwneud y canlynol:
Meithrin diwylliant o ddysgu proffesiynol sy'n helpu'r ysgol i wireddu ei gweledigaeth ar gyfer dysgu, lles, addysgu a'r cwricwlwm?
Defnyddio eu gwaith gwerthuso i lywio dysgu proffesiynol?
Defnyddio dysgu proffesiynol i wella'r dysgu, lles, yr addysgu a'r cwricwlwm?
Helpu'r staff i nodi beth yw eu hanghenion dysgu proffesiynol, a'u diwallu?
Datblygu potensial pobl eraill i arwain?
Annog pobl i ymgymryd â dysgu proffesiynol mewn perthynas ag addysgeg, yn yr ysgol a thu hwnt?
Gwerthuso effaith eu trefniadau dysgu proffesiynol?
Hybu a defnyddio arloesedd er mwyn gwella'r dysgu, lles, yr addysgu a'r cwricwlwm?
Annog arloesedd, ei hwyluso, cymryd rhan ynddo a'i werthuso?
Herio neu wrthod newidiadau a datblygiadau diangen?
Cydweithio, ac annog eraill i gydweithio, er mwyn gwella'r dysgu, lles, yr addysgu a'r cwricwlwm?
Meithrin diwylliant o ddysgu cydweithredol a chyd-barch yn yr ysgol a thu hwnt?
I ba raddau y mae'r arweinwyr yn cefnogi'r staff ac yn defnyddio adnoddau yn effeithiol?
I ba raddau y mae'r arweinwyr yn gwneud y canlynol:
Cefnogi lles pob aelod o'r staff?
Sicrhau bod gan y staff yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i wneud eu gwaith yn effeithiol? (ychwanegwch haen fanwl yma o amgylch effaith gwariant ar ganlyniadau, trafod gwahanol fathau o adnoddau - corfforol, dynol ac ati)
Defnyddio adnoddau i wireddu eu gweledigaeth ar gyfer dysgu, lles, addysgu a'r cwricwlwm?
I ba raddau y mae systemau, polisïau a gweithdrefnau yn yr ysgol yn gwireddu gweledigaeth strategol yr ysgol yn effeithiol?
I ba raddau y mae'r arweinwyr yn gwneud y canlynol:
Sefydlu a defnyddio systemau, polisïau a gweithdrefnau i wireddu eu gweledigaeth ar gyfer dysgu, lles, addysgu a'r cwricwlwm?
Sefydlu a dilyn polisïau a gweithdrefnau statudol?
Sefydlu a dilyn prosesau gwerthuso a gwella?
Cynnwys rhanddeiliaid
Adolygu eu heffeithiolrwydd eu hunain yn rheolaidd
Defnyddio'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth er mwyn helpu'r gweithlu i berfformio'n effeithiol?