Caiff yr Adnodd hwn ei gyflwyno mewn strwythur syml sydd wedi'i drefnu fel a ganlyn:
Caiff y cwestiynau trafod yn yr adnodd eu trefnu'n bedair haen a phedwar maes.
Y meysydd yw:
arweinyddiaeth
cwricwlwm
dysgu ac addysgu
lles, tegwch a chynhwysiant
Caiff pob un o'r meysydd hyn eu cyflwyno mewn pedair haen wahanol, gan alluogi ysgolion i weld cwestiynau ar bob haen:
maes/thema: y pedwar maes a restrir uchod
elfen: adrannau ychwanegol ym mhob maes
cwestiwn trafod: cwestiynau manwl mewn perthynas â'r elfen
ymchwilio: gwybodaeth ychwanegol, cwestiynau trafod, dolenni i adnoddau ategol ac adnoddau astudiaethau achos
Noder:
Nid oes disgwyl i ysgolion roi atebion i bob cwestiwn trafod na mabwysiadu'r strwythur hwn ar gyfer trefnu eu hunanwerthusiad. Diben y cwestiynau trafod yw cefnogi'r broses hunanwerthuso ac nid oes disgwyl i ysgolion ymateb yn ysgrifenedig i bob cwestiwn mewn adroddiad hunanwerthuso.
Isod ceir darlun manylach o’r cwestiynau trafod, a drefnir yn ôl maes a chydran.
Mae’r fersiwn PDF yn caniatáu i chi closio ac archwilio’r meysydd/themâu, y cydrannau a’r cwestiynau trafod yn fanylach.