Neidio i'r prif gynnwy

Mae hyn yn cynnwys cwricwlwm, hyrwyddo iechyd, agweddau a pherthnasoedd da, diogelu, tegwch a chynhwysiant.

Pam mae lles, tegwch a chynhwysiant yn bwysig

Mae gan ddysgwyr hawl i gael yr iechyd gorau posibl a chael eu hamddiffyn rhag niwed. Hefyd, mae lles da yn hanfodol i gynnydd a chyflawniad dysgwyr. Mae angen i ddysgwyr brofi lles corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol er mwyn ffynnu a chymryd rhan yn llwyddiannus yn eu haddysg, mewn cymdeithas ac yn y cyfleoedd y bydd bywyd yn eu cynnig.

Bydd lefelau da o les yn grymuso dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain ac i gael dylanwad cadarnhaol ar fywydau pobl eraill. Mae ysgol deg a chynhwysol yn ystyried yr heriau unigryw sy'n wynebu dysgwyr unigol ac yn ymateb iddynt, gan eu galluogi i wneud cynnydd da.

Darpariaeth, monitro a phartneriaethau

Mae'r ysgol yn rhoi'r un gwerth ar bob aelod o'i chymuned ac yn helpu pob un ohonynt i gyflawni lefelau uchel o les corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac emosiynol. Mae'n rhoi cymorth o safon uchel i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol ac yn lliniaru effaith anfantais gymdeithasol yn llwyddiannus.

Mae'r ysgol yn hyrwyddo ac yn dathlu amrywiaeth yn gadarnhaol o fewn ei chymuned a thu hwnt. Lles y dysgwyr sydd wrth wraidd profiadau addysgu a dysgu bob amser. Mae pob aelod o'r staff yn dangos ymrwymiad i les y dysgwyr drwy fodelu ymddygiad a chydberthnasau cadarnhaol.

Mae'r ysgol yn sicrhau bod y dysgwyr yn meithrin dealltwriaeth gadarn o ffactorau sy'n effeithio ar eu lles eu hunain ac er lles pobl eraill. Mae'n helpu'r dysgwyr i wneud dewisiadau a penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch materion sy'n effeithio arnyn nhw ac ar bobl eraill.

Mae partneriaethau â'r rhieni ac asiantaethau eraill yn cael effaith gadarnhaol ar brofiad y dysgwyr yn yr ysgol ac ar eu lles. Mae'r ysgol yn galluogi pob dysgwr i feithrin agweddau cadarnhaol at ddysgu a gwneud y cynnydd gorau posibl.

Caiff partneriaethau â rhieni/gofalwyr ac asiantaethau eraill effaith gadarnhaol ar brofiad dysgwyr o’r ysgol ac ar eu lles. Mae’r ysgol yn galluogi pob dysgwr i ddatblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu ac i wneud y cynnydd gorau posibl.

Pa mor effeithiol yw darpariaeth yr ysgol ar gyfer cefnogi lles, tegwch a chynhwysiant?

  • cwricwlwm

  • hybu iechyd da

  • agweddau a chydberthnasau

  • diogelu

  • tegwch

  • cynhwysiant

Cwricwlwm

I ba raddau y mae cwricwlwm yr ysgol yn cefnogi lles, tegwch a chynhwysiant i'r dysgwyr?

I ba raddau y mae dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth o'r ‘hyn sy'n bwysig’ o ran eu hiechyd a'u lles?

  • mae buddiannau gydol oes yn gysylltiedig â datblygu iechyd a lles corfforol

  • mae cydberthnasau iach yn hanfodol i’n hymdeimlad o berthyn a’n lles

  • mae'r ffordd rydym yn ymgysylltu â gwahanol ddylanwadau cymdeithasol yn llywio pwy ydym ni a’n hiechyd a’n lles

  • mae'r ffordd rydym yn ymateb i’n profiadau yn effeithio ar ein hiechyd meddwl a’n lles emosiynol

  • mae’r penderfyniadau a wnawn yn effeithio ar ansawdd ein bywydau ni ac eraill

I ba raddau y mae'r ysgol yn darparu ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb?

Adnoddau ategol

Hybu iechyd da

I ba raddau y mae'r ysgol yn hybu iechyd corfforol ac iechyd meddwl da?

I ba raddau y mae ethos, amgylchedd a darpariaeth ein hysgol yn gwneud y canlynol:

  • helpu'r dysgwyr i fod yn gorfforol egnïol ac yn iach?

  • hybu arferion bwyta ac yfed iach?

  • helpu'r dysgwyr i wneud dewisiadau iach o ran ffordd o fyw?

  • cefnogi lles emosiynol ac iechyd meddwl y dysgwyr?

Adnoddau ategol

Agweddau a chydberthnasau

I ba raddau y mae'r ysgol yn meithrin agweddau ac ymddygiadau iach?

I ba raddau y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol yn effeithiol:

  • helpu'r dysgwyr i feithrin cydberthnasau iach, gan gynnwys cydberthnasau digidol?

  • darparu ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb?

  • helpu'r dysgwyr i ymddwyn mewn ffordd gadarnhaol?

  • helpu'r dysgwyr i feithrin sgiliau dysgu annibynnol, gwydnwch a dyfalbarhad

  • helpu'r dysgwyr i gyflawni cyfraddau uchel o ran presenoldeb a chyfranogiad mewn dysgu?

  • i ba raddau y mae ein staff yn hyrwyddo cydberthnasau da â'r dysgwyr a rhyngddynt drwy eu gweithredoedd eu hunain?

Diogelu

I ba raddau y mae'r ysgol yn cadw'r dysgwyr yn ddiogel?

Adnoddau ategol

Tegwch

I ba raddau y mae dull gweithredu'r ysgol yn sicrhau tegwch i'r dysgwyr?

I ba raddau y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol yn effeithiol:

  • sicrhau bod y dysgwyr yn cael cyfle cyfartal i gael profiadau ac adnoddau?

  • hyrwyddo a dathlu amrywiaeth?

  • diwallu anghenion y dysgwyr sydd dan anfantais oherwydd tlodi?

  • atal tuedd, anghydraddoldeb, bwlio, rhagfarn neu stereoteipio ar sail nodweddion gwarchodedig a mynd i'r afael ag unrhyw achosion o'r fath?

  • helpu dysgwyr eraill sy'n agored i niwed y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt (er enghraifft gofalwyr ifanc neu blant sy'n derbyn gofal)?

  • hyrwyddo a pharchu hawliau plant a phobl ifanc, gan gynnwys dysgwyr agored i niwed?

  • galluogi'r dysgwyr i ddylanwadu ar yr hyn y maent yn ei ddysgu a sut?

  • ystyried safbwyntiau'r dysgwyr a'u cynnwys mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt?

  • rheoli cyfnodau pontio allweddol rhwng cyfnodau allweddol neu ysgolion ar gyfer dysgwyr agored i niwed?

  • gweithio gyda'r rhieni a phartneriaid eraill i sicrhau tegwch i'r dysgwyr?

Adnoddau ategol

Cynhwysiant

Pa mor effeithiol yw dull gweithredu'r ysgol mewn perthynas â chynhwysiant?

I ba raddau y mae'r ysgol yn diwallu anghenion dysgwyr ag ADY a sicrhau eu bod yn gwneud y cynnydd y dylent?

  • I ba raddau y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol yn effeithiol:

  • nodi a diwallu anghenion dysgwyr ag ADY?

  • monitro ac adolygu cynnydd, cyrhaeddiad a lles dysgwyr ag ADY?

  • cydweithio ag asiantaethau allanol er mwyn diwallu anghenion y dysgwyr, gan gynnwys y rhai sydd ag ADY?

  • ymgysylltu â rhieni, gofalwyr a theuluoedd dysgwyr ag ADY a'r rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt?

  • rheoli cyfnodau pontio allweddol rhwng cyfnodau allweddol neu ysgolion ar gyfer dysgwyr ag ADY?

  • gwneud addasiadau er mwyn helpu dysgwyr ag ADY i fanteisio ar gyfleoedd?

  • dewis strategaethau ymyrryd, eu rhoi ar waith a'u gwerthuso?

Adnoddau ategol