Neidio i'r prif gynnwy

Mae hyn yn cynnwys sefydlu gweledigaeth (arweinyddiaeth ddysgu a rheoli newid), dylunio, cynllunio a threialu (dylunio a gweithredu profiadau dysgu).

Pa mor effeithiol yw cwricwlwm yr ysgol?

  • pennu gweledigaeth (arweinyddiaeth ym maes dysgu a rheoli newid)

  • dylunio, cynllunio a threialu (dylunio profiadau dysgu a'u rhoi ar waith)

  • gweithredu a gwerthuso (dysgu o'r system ehangach a gwaith ymholi pellach) (ar gael cyn bo hir)

Pennu gweledigaeth (arweinyddiaeth ym maes dysgu a rheoli newid)

I ba raddau y mae arweinwyr, staff, dysgwyr a chymuned ehangach yr ysgol yn deall disgwyliadau, dibenion ac egwyddorion y cwricwlwm newydd i Gymru?

I ba raddau y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol yn effeithiol:

  • datblygu gweledigaeth glir ar gyfer y gwahaniaeth y bydd y cwricwlwm yn ei wneud i'w dysgwyr a'u cynnydd?

  • pennu gweledigaeth ar gyfer ei chwricwlwm? (Sut beth ydyw? Gofynion/cyd-destun dilys)

  • datblygu gweledigaeth ar gyfer yr addysgeg a ddefnyddir i gyflwyno ei chwricwlwm? (Sut y byddwn yn ei addysgu? Egwyddorion addysgegol)

  • datblygu gweledigaeth ar gyfer caffael/datblygu/trefnu/defnyddio adnoddau i gyflwyno ei chwricwlwm? (Beth sydd ei angen arnom i'w addysgu?)

  • sefydlu'r diwylliant a'r amodau cywir ar gyfer newid?

  • adnabod rhwystrau rhag newid, mynd i'r afael â nhw a'u goresgyn?

  • hyrwyddo arloesedd i gefnogi newid?

  • defnyddio cyfraniadau'r gymuned a phartneriaid eraill (e.e. ysgolion) i ddatblygu ei gweledigaeth ar gyfer dysgu, addysgu a'r cwricwlwm?

  • nodi a chynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol er mwyn helpu i wireddu ei gweledigaeth?

Dylunio, cynllunio a threialu (dylunio profiadau dysgu a'u rhoi ar waith)

I ba raddau y mae cwricwlwm yr ysgol yn cefnogi ac yn meithrin gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y dysgwyr?

I ba raddau y mae'r ffordd rydym yn cynllunio ac yn cyflwyno'r cwricwlwm yn gwneud y canlynol:

  • helpu'r dysgwyr i wireddu'r pedwar diben trw'r egwyddorion cynnydd. Pa mor dda ydy'r dysgwyr yn datblygu'r sgiliau hanfodol sy'n sail iddynt?

  • cynnig profiadau dysgu eang a chytbwys?

  • ennyn diddordeb y dysgwyr a diwallu eu hanghenion o ran eu hoedran, eu gallu, eu doniau a'u diddordebau?

  • meithrin agweddau cadarnhaol at ddysgu a lles?

  • galluogi pob dysgwr i wneud cynnydd priodol ar hyd y continwwm dysgu mewn perthynas â'r egwyddorion cynnydd?

  • gwneud cysylltiadau a throsglwyddo eu dysgu rhwng gwahanol feysydd dysgu a phrofiad?

  • cynnwys cyfleoedd i gymhwyso sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol?

  • helpu i ddatblygu sgiliau arbenigol a gwybodaeth bynciol benodol?

  • cynnwys dulliau cipio cynnydd dysgwyr?

  • defnyddio llais y dysgwr ac ymateb i anghenion, profiadau a mewnbwn y dysgwyr?

  • helpu i ddatblygu ymdeimlad y dysgwyr o hunaniaeth yn eu hardal leol, yng Nghymru ac yn y byd?

  • sicrhau tegwch a hygyrchedd i bawb?

I ba raddau y mae'r ysgol yn gwneud y canlynol yn effeithiol:

  • defnyddio tystiolaeth o lygad y ffynnon i nodi cryfderau, rhwystrau rhag newid a meysydd i'w datblygu ymhellach a ddaw i'r amlwg mewn perthynas â'i chwricwlwm?

  • defnyddio tystiolaeth o lygad y ffynnon i nodi cryfderau, rhwystrau rhag newid a meysydd i'w datblygu ymhellach a ddaw i'r amlwg mewn perthynas ag addysgeg er mwyn helpu i gyflwyno'r cwricwlwm?

  • defnyddio tystiolaeth o lygad y ffynnon i nodi cryfderau, rhwystrau rhag newid a meysydd i'w datblygu ymhellach a ddaw i'r amlwg mewn perthynas â chynnydd y dysgwyr?

  • defnyddio tystiolaeth o lygad y ffynnon i lywio newidiadau i'r cwricwlwm, yr addysgu a'r dysgu?

  • helpu i wella'r cwricwlwm, yr addysgu a'r dysgu drwy ddysgu proffesiynol, cydweithio ac arloesi?

Adnoddau cysylltiedig o'r daith dysgu proffesiynol

Mae'r adnoddau canlynol, a luniwyd fel rhan o'r daith dysgu proffesiynol, yn cynnig astudiaethau achos enghreifftiol o ysgolion sydd wedi rheoli newid fel rhan o'r gwaith o ddatblygu dulliau gweithredu ar gyfer y cwricwlwm newydd.