Wrth ddylunio'r adnodd hwn, gwnaeth yr ymarferwyr a oedd yn rhan o'r broses ymrwymo i'r egwyddor y dylai'r adnodd hwn roi cymorth ymarferol er mwyn galluogi ysgolion i wneud gwelliannau. Gwnaethant ddatblygu cyfres o egwyddorion er mwyn helpu i ddylunio'r adnodd a'i roi ar waith.
Mae'r adnodd yn cynnwys ac yn hyrwyddo'r nodweddion a'r gwerthoedd canlynol:
ffocws ar gyflawni cystal â phosibl i bob dysgwr
bod yn gyson â gwaith yr holl sefydliadau/mentrau eraill
y gallu i fod yn hyblyg ac ymateb i gyd-destun yr ysgol
cysylltiadau clir â dysgu proffesiynol
proses barhaus ac nid ‘cipolwg’
cynaliadwyedd a hydrinedd
tryloywder a gonestrwydd
bod yn ddefnyddiol ac yn fuddiol
dwyieithrwydd drwyddo draw
caiff y broses ei chreu gan y rhai sy'n ei defnyddio
Yn gryno, dylai'r adnodd gefnogi:
pob dysgwr
pob ysgol
system addysg hunanwella gynaliadwy
Dylai ysgolion ddefnyddio'r adnodd fel dewislen. Mae'r adnodd yn cynnwys canllawiau ymarferol a deunyddiau enghreifftiol ar Sut i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ar gyfer gwaith gwerthuso a gwella. Ategir hyn gan ddewis helaeth o gwestiynau myfyrio ac adnoddau ychwanegol sy'n helpu ysgolion i wybod Beth i'w werthuso a'i wella. Yn ogystal â hynny, mae amrywiaeth o adnoddau rhyngweithiol yn cefnogi hyfforddiant, datblygiad a newid diwylliannol cadarnhaol mewn perthynas â gwaith gwerthuso a gwella.
Yn bwysig ddigon, yn ogystal â hyrwyddo ymddygiadau ac arferion a ddymunir, mae'r adnodd hwn hefyd yn ceisio anghymell arferion llai effeithiol, neu ‘arferion gwael’.