Dylai ysgolion ddefnyddio amrywiaeth o weithgareddau i werthuso lles, cynnydd a safonau'r dysgwyr.
Bydd edrych ar ddysgu yn helpu i wneud gwelliannau:
pan fydd yn broses ddatblygiadol a chefnogol
pan fydd yn hyrwyddo gweithgarwch dysgu mewn tîm, cydweithio, ymddiriedaeth a chyd-barch
pan fydd ffocws penodol y cytunwyd arno
pan fydd ffocws clir ar gynnydd y dysgwyr
pan fydd yn nodi cryfderau penodol a meysydd penodol i'w datblygu
pan fydd yn cynnig cyfleoedd i rannu a meithrin sgiliau, arbenigedd ac arferion arloesol
pan fydd yn hyrwyddo gweithgarwch myfyrio a thrafodaethau proffesiynol
pan fydd yn llywio gweithgarwch dysgu proffesiynol
Pethau y dylid canolbwyntio arnynt yn ystod y gweithgaredd hwn:
Cyfranogiad, diddordeb a sylw'r dysgwyr.
Y ffordd y mae'r dysgwyr yn rhyngweithio mewn gweithgareddau i barau neu grwpiau.
Ymatebion ac atebion y dysgwyr i gwestiynau.
Ymatebion y dysgwyr i adborth un i un a'r ffordd y maent yn rhyngweithio ag oedolion.
Cynnydd y dysgwyr yn y wers a dros amser.
Safon gwaith y dysgwyr yn ystod y wers a dros amser.
Noder: Nid oes angen edrych ar bob un o'r elfennau hyn yn ystod pob ymweliad â gweithgaredd dysgu Mater o farn broffesiynol yw'r ffocws.
I ba raddau y mae'r dysgwyr yn:
gwneud cynnydd o ran meithrin eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth
defnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth sydd ganddynt eisoes i adeiladu ar yr hyn y maent yn ei ddysgu
dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu
dyfalbarhau i oresgyn heriau
dangos y gallu i weithio'n annibynnol neu ar y cyd
gwneud cynnydd yn y wers a dros amser
gweithio i'r safon y mae ganddynt y gallu i'w chyrraedd
deall a defnyddio'r Gymraeg
I ba raddau y mae'r athrawon yn:
cynllunio ac yn cynnig cyfleoedd i'r dysgwyr atgyfnerthu ac ymestyn yr hyn y maent wedi'i ddysgu mewn gwersi a dros amser
gofyn cwestiynau er mwyn atgyfnerthu, meithrin neu ymestyn sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwyr
defnyddio asesiadau ac adborth.
defnyddio adnoddau, gan gynnwys yr amgylchedd dysgu a'r staff
meithrin sgiliau Cymraeg y dysgwyr a'u dealltwriaeth o ddiwylliant a threftadaeth Cymru
Ar y cyfan, dylai ysgolion ystyried sut mae eu darpariaeth, dros amser, yn helpu dysgwyr i wneud cynnydd tuag at wireddu dibenion y cwricwlwm.
Fel arfer, gallai dulliau o edrych ar ddysgu byw gynnwys arsylwi ar wersi a throeon dysgu.
Pethau y dylid canolbwyntio arnynt yn ystod y gweithgaredd hwn:
Cynnydd y dysgwyr dros amser (y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir).
Y safonau y mae'r dysgwyr yn eu cyrraedd (y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir).
I ba raddau y mae'r dysgwyr yn cymhwyso eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth ym mhob rhan o'r cwricwlwm.
Effaith agweddau'r dysgwyr at ddysgu ar eu cynnydd.
I ba raddau y mae'r cwricwlwm yn cefnogi parhad a chynnydd yn y dysgu.
I ba raddau y mae'r addysgu, yr asesu a'r adborth yn helpu'r dysgwyr i wneud cynnydd.
Cynnydd grwpiau gwahanol o ddysgwyr.
I ba raddau y mae'r addysgu yn meithrin sgiliau Cymraeg y dysgwyr a'u dealltwriaeth o ddiwylliant a threftadaeth Cymru.
Samplu gwaith y dysgwyr yn eu llyfrau neu mewn ffeiliau digidol mewn dosbarth, grwp blwyddyn, pwnc neu faes dysgu penodol.
Samplu gwaith y dysgwyr yn eu llyfrau neu mewn ffeiliau digidol drwy gyfnod allweddol neu'r ysgol gyfan, er enghraifft er mwyn gwerthuso safonau a chynnydd mewn pwnc neu faes dysgu neu gymharu cynnydd grwpiau gwahanol o ddysgwyr.
Samplu gwaith dysgwyr er mwyn gweld i ba raddau y maent yn dysgu ac yn defnyddio sgiliau llythrennedd, sgiliau rhifedd a sgiliau digidol.
Trafod y gwaith y mae'r dysgwyr wedi'i wneud gyda nhw, er enghraifft gyda'r llyfrau neu'r ffeiliau digidol sydd ar gael.
casglu barn y dysgwyr ar ba mor effeithiol yw'r profiadau addysgu a dysgu o ran eu helpu i wneud cynnydd, er enghraifft asesu ac adborth.
Ar y cyfan, dylai ysgolion ystyried sut mae eu darpariaeth, dros gyfnod, yn cefnogi cynnydd dysgwyr tuag at wireddu dibenion y cwricwlwm.
Am ragor o fanylion, cyfeiriwch at yr adran cwestiynau trafod dysgu ac addysgu.